Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynorthwyo 'Sbotolau' Safonau Masnach Cymru - Pwysigrwydd Safonau Masnach wrth ddiogelu diogelwch cwsmeriaid.
Dros y TRI diwrnod nesaf (11 - 14) bydd llwyth o wybodaeth ar gael yn amlygu'r gwaith mae Swyddogion Safonau Masnach yn ei wneud bob dydd er mwyn cadw trigolion yn ddiogel. Heddiw maen nhw'n canolbwyntio ar osgoi Nadolig Trychinebus - Cadwch lygad allan, mae llawer o deganau ANNIOGEL fyddai'n gallu arwain at Nadolig Trychinebus!
Yn gynharach eleni, roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi rhybudd i gwsmeriaid mewn perthynas â nifer y Labubu's ffug oedd yn cael eu gwerthu mewn siopau ledled y Fwrdeistref Sirol a'r DU - gan amlygu'r peryglon fyddau prynu un o'r rhain yn gallu ei achosi.
Mae Carfan Safonau Masnach Rhondda Cynon Taf bellach wedi cloi neu atafaelu nifer fawr o'r bwystfilod yma gyda dros 813 Labubu ffug (sydd hefyd yn cael eu hadnabod yn Lafufu's) wedi'u cymryd oddi ar strydoedd Rhondda Cynon Taf.
Dros fisoedd yr haf, roedd sawl adroddiad ledled Cymru a'r DU yn amlygu'r risgiau a'r peryglon cynyddol oedd gan y bwystfilod yma i gwsmeriaid. Mae modd i ddarnau bach, megis llygaid, ddod yn rhydd yn hawdd gan olygu perygl tagu i blant bychain. Nodwyd bod breichiau a choesau'r doliau sy'n dod yn rhydd yn hawdd wedi cael eu gosod gyda phigau. Mae profion Labordy wedi canfod bod gydag enghreifftiau lefelau pfthalate 5 gwaith yn fwy na'r lefel a ganiateir - sylwedd sydd wedi'i gysylltu â phroblemau iechyd posibl.
Ers dechrau derbyn adroddiadau mewn perthynas â pheryglon y cynhyrchion yma ym mis Mai a mis Mehefin 2025, mae Safonau Masnach ledled Cymru wedi atafaelu 7,308 o ddoliau "Labubu" ffug a dyw'r atafaeliadau yma ddim yn edrych yn debygol o arafu yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Ond yn yr un modd ag unrhyw eitem newydd neu boblogaidd, bydd yr eitem boblogaidd nesaf yn cymryd ei le - mae tegan newydd yn dod i'r amlwg yn rheolaidd. Am fod tymor y Nadolig yn agosáu, mae'n bwysig bod yn wyliadwrus a sicrhau bod yr hynny rydych chi'n ei brynu yn ddilys ac yn ddiogel.
Daeth bron i 43M o oedolion ar draws sgamiau ar-lein yn 2023, gydag 1 ym mhob 5 yn cael eu gadael dros £1000 ar eu colled! Dyna swm na all neb fforddio ei golli, yn enwedig am fod y dyn mawr coch am fod yn ymweld mewn ychydig dros fis!
Ym mis Ionawr eleni, roedd Carfan Safonau Masnach y Cyngor wedi atafaelu dros 100 o deganau gan fusnes, oedd wedi'u prynu heb wybod ar TEMU, ac yn eu hailwerthu i'w cwsmeriaid. Er mwyn helpu cwsmeriaid ledled y Fwrdeistref Sirol, rydyn ni'n eu hannog nhw i feddwl yn GLYFAR yn ystod cyfnod y Nadolig eleni:
Sicrhewch ddiogelwch! – Er ei bod yn wych dod o hyd i fargen, gall nwyddau trydanol rhad gostio llawer mwy i chi yn y pen draw! Ar y gorau, byddwch chi'n cael cynnyrch sy'n torri'n fuan ar ôl ei brynu ac, ar y gwaethaf, rydych chi'n cynyddu'r risg o danau yn y cartref a pheryglon trydanol eraill! Prynwch gynhyrchion dilys gan fanwerthwyr ag enw da yn unig a chwiliwch bob amser am y nod CE/UKCA i sicrhau bod prawf diogelwch wedi’i gynnal. Mae hefyd yn syniad da cadw'ch derbynebau a'r deunydd pacio gwreiddiol rhag ofn y bydd unrhyw gynnyrch yn cael ei alw'n ôl.
Meddyliwch am hysbysebion camarweiniol- Cymharwch brisiau bob amser a chwiliwch o gwmpas i sicrhau bod y fargen rydych chi'n ei chael yn ddilys! Osgowch ostyngiadau sy'n rhy dda i fod yn wir ar eitemau brandiau mawr fel dillad, persawr a cholur oherwydd eich bod chi'n debygol o dderbyn cynnyrch ffug sydd o ansawdd gwael neu'n llawn cemegion cas!
Alergeddau – Mae’r Nadolig yn amser gwych i fwynhau danteithion y Nadolig ond gall hyn fod yn anodd i bobl sy’n byw ag alergeddau ac anoddefiadau bwyd. Os ydych chi'n mynychu marchnadoedd bwyd a gwneuthurwyr, gwiriwch yr wybodaeth am alergenau gyda'r busnes bob amser a gwiriwch a all ddarparu ar gyfer pobl ag alergeddau. Os ydy’r busnes yn ansicr ac yn methu â sicrhau nad oedd croeshalogi, peidiwch â’i mentro!
Rheolau dychwelyd ac ad-daliadau - Gwiriwch bolisi dychwelyd ac ad-daliadau siop cyn prynu ar-lein! Hyd yn oed os oes gan y cwmni gyfeiriad yn y DU, gwiriwch y cyfeiriad dychwelyd a restrir oherwydd efallai y gwelwch fod hwn y tu allan i'r DU! Os oes gyda chi unrhyw amheuaeth ynghylch eich hawliau, darllenwch y canllawiau i ddefnyddwyr ar wefan Cyngor ar Bopeth: Defnyddwyr - Cyngor ar Bopeth
Treulio amser cyn clicio! – Wrth bori’r cyfryngau cymdeithasol, cymerwch amser i ystyried a yw’r cynnig anhygoel yna neu wobr y gystadleuaeth yn ddilys! Mae sgamwyr yn aml yn ffugio gwefannau neu frandiau cyfreithlon felly mae bob amser yn well mynd i wefannau yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy ddolenni ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae carfan Safonau Masnach y Cyngor yma i helpu a chynnig cyngor i gadw busnesau a'r cyhoedd yn ddiogel a bydd bob amser yn ceisio gweithio gyda busnesau i unioni pethau cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi.
Yn dilyn y darganfyddiad yma, bydd yr eitemau'n cael eu dinistrio a'u hailgylchu gan y garfan Safonau Masnach.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae angen i'r sawl sy'n chwilio am fargeinion fod yn ymwybodol bod modd i deganau ffug nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon dorri ac achosi anafiadau neu beryglon tagu, mae modd i ddeunyddiau gwenwynig achosi llosgiadau a niwed difrifol, ac mae modd i deganau trydanol anghyfreithlon arwain at danau neu drydaniad.
"Mae'r rheiny sy’n cyflenwi teganau ffug bob tro yn barod i elwa o’r cyffro sy’n gysylltiedig â’r teganau a byddan nhw'n blaenoriaethu elw dros ddiogelwch. Mae hyn yn enghraifft o dorri rheolau hawlfraint. Dydy’r profion diogelwch gofynnol ddim yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel".
"Mae'r cynhyrchion maen nhw'n eu gwerthu fel arfer yn ddeniadol i blant neu'n cael eu gwerthu am bris gostyngol iawn ond yn gallu bod yn beryglus iawn. Mae modd i ddarnau bach ddod yn rhydd a gallan nhw achosi perygl tagu. Gall cyswllt â chemegion penodol, sydd wedi'u gwahardd mewn teganau go iawn, fod yn niweidiol"
Mae gorfodi bob amser yn ddewis olaf, a dim ond pan fydd yn credu bod cyfraith wedi'i thorri a fyddai'n achosi niwed i'r cyhoedd y caiff hyn ei wneud - ond mae'r neges yn glir, os ydych chi'n cael eich dal yn gwerthu eitemau FFUG neu ANNIOGEL, byddwn ni'n cymryd camau gweithredu yn eich erbyn!"
Mae'r Adran Safonau Masnach yn parhau i archwilio busnesau lleol ac yn cael gwared â chynhyrchion nad ydyn nhw'n cydymffurfio â gofynion masnachu. Gall hyn arwain at gychwyn achos erlyn yn erbyn masnachwyr sy'n gwybod yn iawn eu bod nhw'n torri'r gyfraith.
Os oes gan fusnesau neu’r cyhoedd unrhyw bryderon am Ddiogelwch Teganau, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y gwefannau canlynol: Toys | Business Companion Toys, Child Accident Prevention trust Toy Safety (Saesneg yn Unig) neu mae modd i chi roi gwybod am achosion o deganau ffug i'ch gwasanaeth safonau masnach lleol drwy ffonio Adran Cymorth i Gwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133 neu e-bostio: safonaumasnach@rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 11/11/2025