Yn ddiweddar, estynnodd Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yng Nghwm Cynon wahoddiad i'r Awdur a'r Addysgwr, Mary Myatt, i'r ysgol er mwyn cwrdd â'r athrawon a'r disgyblion i ddysgu rhagor am gynllun 'Dim Ond Darllen' newydd yr ysgol.
Mae'r fenter gyffrous yma sy’n cael ei harwain gan y Pennaeth Cynorthwyol, Rhian Staples, a chydweithwyr yn yr ysgol yn cynnwys gwersi darllen mewn perthynas â phynciau, lle mae disgyblion yn darllen iddyn nhw eu hunain, ac ar lafar yn uchel, yn y dosbarth er mwyn gwella eu sgiliau darllen, eu hyder, a'u gwybodaeth am y pwnc.
Mae'r fenter yn gweithio ochr yn ochr â gwersi traddodiadol ac wedi darparu dull amrywiol, blaengar tuag at ddysgu.
Meddai Lisa Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Rhydywaun: "Rydyn ni'n falch iawn o'r effaith mae'r cynllun wedi'i chael ar ein disgyblion. Mae cynnwys Dim Ond Darllen yn rhan o’n cwricwlwm wedi gwella hyder, geirfa, gallu i siarad â chynulleidfa, a gwybodaeth am y pwnc drwy gynnwys strategaethau amrywiol sy'n targedu gwahanol agweddau ar ddysgu. Mae pob aelod o staff wedi cyflawni gwaith gwych o ran rhoi’r cynllun ar waith ac rydyn ni'n falch iawn i rannu ei lwyddiant."
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Mae'r fenter 'Dim Ond Darllen' yn Ysgol Rhydywaun yn annog disgyblion i ymddiddori’n fawr yn eu pynciau, a hefyd yn annog twf eu geirfa, eu hunanhyder ac yn datblygu cariad at ddarllen y byddan nhw'n elwa arno drwy gydol eu bywydau. Mae'r dull blaengar yma yn enghraifft wych o sut rydyn ni'n ymdrechu'n barhaus i wella ein dulliau o ddarparu addysg a grymuso ein disgyblion."
Meddai Mary Myatt, Awdur ac Addysgwr: "Dywedodd disgyblion ym Mlwyddyn 10 eu bod nhw'n ddarllenwyr cryfach, mwy hyderus a bod eu geirfa yn fwy soffistigedig. Maen nhw'n darllen mwy yn eu hamser eu hunain am fod darllen mewn gwersi wedi sbarduno eu chwilfrydedd ac maen nhw'n fwy hyderus ynddyn nhw eu hunain wrth siarad mewn grwpiau. Rhoddodd un disgybl araith yn rhan o drafodaethau ar gyfer Senedd yr ysgol a dywedodd na fyddai wedi cael yr hyder i wneud hynny heb y profiad o ddarllen allan yn uchel yn y dosbarth. Nododd disgyblion hefyd fod aelodau eu teuluoedd wedi sylwi ar eu geirfa soffistigedig wrth gynnal sgyrsiau â nhw, a dywedon nhw fod darllen allan yn uchel wedi cael ei normaleiddio, sydd wedi cynyddu eu hyder yn eu haddysg."
"Rwy'n ymweld â nifer o ysgolion, ac rwy'n gweld llawer o arferion gwych, fodd bynnag, rwyf wedi cael fy syfrdanu gyda'r hyn sydd wedi'i gyflawni gan gydweithwyr yn Rhydywaun. Rwy'n ddiolchgar iawn i gydweithwyr am wneud yr ymweliad arbennig yn bosibl."
Wedi ei bostio ar 12/11/2025