Skip to main content

Byddwch yn Ddiogel, Peidiwch â Difaru Dathlu Cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt!

Yn rhan o 'Ymgyrch BANG', mae Cyngor Rhondda Cynon Taf unwaith eto wedi ymuno ag asiantaethau partner lleol o Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i wneud yn siŵr bod pawb sydd eisiau dathlu Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt yn gwneud hynny'n ddiogel.

Dyw'r adeg yma o'r flwyddyn ddim yn hwyl i bawb ac mae llawer o bobl sydd ddim yn hoffi cnoc ar y drws Nos Galan Gaeaf ac yn poeni am Noson Tân Gwyllt.

Dyma ofyn i bobl sy'n dathlu Calan Gaeaf fod yn ystyriol a dim ond cnocio ar ddrysau pobl sy'n amlwg yn dathlu Calan Gaeaf – mae pwmpen wedi'i goleuo ar garreg y drws fel arfer yn arwydd clir.

Mae rhieni a gwarcheidwaid hefyd yn cael eu rhybuddio am ddiogelwch gwisgoedd Calan Gaeaf ac i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu prynu gan fanwerthwr ag enw da, yn enwedig wrth brynu ar-lein! Gwnewch yn siŵr bod y gwisgoedd wedi'u gwneud o ddeunydd sydd ddim yn fflamadwy neu eu bod nhw â label i nodi eu bod nhw'n gwrthsefyll fflamau.

Awgrymiadau Diogelwch Gwisgoedd Calan Gaeaf

  • Chwiliwch am y marc CE/UKCA ar y label, sy'n golygu ei bod wedi cael prawf diogelwch.
  • Prynwch o ffynhonnell ddibynadwy.
  • Gwnewch yn siŵr bod gwisgoedd yn ffitio'n gywir, gan wirio am lasys, clymau a rhannau bach sy'n llusgo neu'n llifo a all beri risg. Darllenwch yr holl fanylion diogelwch ar y label a'r pecyn.
  • Cadwch blant i ffwrdd o fflamau noeth ar bob adeg.
  • Os yw'ch dillad yn mynd ar dân, cofiwch stopio, gorwedd ar lawr a rholio i drechu'r fflamau.

Alergeddau bwyd

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Gyda Chalan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt ar y gweill, dyma gyfle da i atgoffa pobl am bwysigrwydd cadw'n ddiogel tra'n cael hwyl.

"Byddwch yn ystyriol o eraill a meddyliwch am ddiogelwch yn gyntaf wrth brynu gwisgoedd neu fwynhau eich danteithion. Efallai bod du yn lliw gwych i wrachod, ond cofiwch eu bod nhw'n gallu hedfan ond does dim modd i chi, felly mae angen i chi fod yn weladwy yn y tywyllwch!

"Nid yw Calan Gaeaf at ddant pawb, ac efallai y bydd yr adeg yma o'r flwyddyn yn anodd iawn i rai trigolion. Yn ogystal â hynny, er bod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau tân gwyllt yn gyfrifol, mae modd iddyn nhw achosi problemau yn y dwylo anghywir.

"Mae tân gwyllt hefyd yn peri gofid mawr i nifer o'n trigolion. Mae rhai wedi'u heffeithio gan drawma digwyddiadau yn eu bywydau – gall sŵn mawr sydyn, goleuadau'n fflachio a mwg tân gwyllt sbarduno ymatebion cryf gan bobl sydd wedi profi trawma, yn enwedig cyn-filwyr. Mae modd i synau mawr sydyn fod yn debyg i sŵn dryll. Mae modd i natur anrhagweladwy arddangosfeydd tân gwyllt cymdogion chwalu ymdeimlad o ddiogelwch cyn-filwr. Mae angen i ni i gyd fod yn ystyriol o hyn a helpu'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd adeg yma'r flwyddyn."

"Rydw i'n annog trigolion i fynd i achlysuron tân gwyllt sydd wedi'u trefnu'n broffesiynol – maen nhw'n fwy o hwyl, yn rhatach ac yn fwy diogel na chynnal parti tân gwyllt eich hunain. Serch hynny, os ydych chi'n bwriadu defnyddio tân gwyllt ar gyfer dathliad preifat, cofiwch ddilyn y cod diogelwch tân gwyllt.

"Cofiwch brynu tân gwyllt gan fanwerthwr dibynadwy a thrwyddedig yn unig. Cyn prynu'r tân gwyllt, gofynnwch am gyngor o ran pa dân gwyllt sydd fwyaf addas ar gyfer eich gardd/safle chi, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n bodloni'r safonau diogelwch presennol. Gwnewch yn siŵr bod eich cymdogion o'ch cwmpas yn effro i'ch cynlluniau fel bod modd iddyn nhw gynllunio ar gyfer eu hanghenion unigol ymlaen llaw."

Ychwanegoddy Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd: "Mae cynnau unrhyw fath o dân mewn man cyhoeddus heb ganiatâd y tirfeddiannwr yn anghyfreithlon ac yn beryglus iawn. Mae'n bwysig iawn bod yn ddiogel yn lle difaru. Mae modd i'r hyn sy'n ymddangos yn hwyl a sbri droi'n sefyllfa beryglus iawn yn gyflym. Bob blwyddyn mae'r garfan Gofal y Strydoedd yn helpu i atal llawr o ddigwyddiadau peryglus wrth iddyn nhw ddod o hyd i wastraff peryglus iawn sy'n cuddio mewn coelcerth.

"Mae modd i ddeunyddiau hylosg megis plastig, rwber, neu ddeunyddiau wedi'u peintio gynhyrchu mygdarth sy'n wenwynig i drigolion ar ôl eu cynnau. Mae llosgi plastigau yn rhyddhau cemegau a nwyon gwenwynig a all effeithio'n ddifrifol ar iechyd trigolion lleol.

“Rydyn ni wedi darganfod eitemau peryglus dirifedi yng nghanol coelcerthi anghyfreithlon dros y blynyddoedd – ar ben hynny mae pryderon o ran llygredd aer, tirlenwi, ailgylchu a newid hinsawdd. Dydyn ni ddim yn cefnogi unrhyw goelcerthi swyddogol a bydden ni bob amser yn awgrymu'n gryf i beidio â chynnal un.”

Mae cyfnod Calan Gaeaf a Noson Tân Gwyllt fel arfer yn brysur iawn i'r gwasanaethau brys; y llynedd derbyniodd Heddlu De Cymru ychydig dros 1,828 o alwadau am wasanaeth* ar Nos Galan Gaeaf (31 Hydref) a 1,534 o alwadau ychwanegol ar 5 Tachwedd, sef Noson Tân Gwyllt. O'r rhain, roedd 757 yn alwadau brys i 999 ar Galan Gaeaf, ac roedd 694 o alwadau brys ar Noson Tân Gwyllt.

Er bod y galw yn aml yn cyrraedd uchafbwynt ar y dyddiadau hynny, mae'r cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl y dyddiadau hynny hefyd yn aml yn brysur iawn, gan roi pwysau ychwanegol ar yr heddlu ac asiantaethau partner.

Bydd Wardeniaid Cymunedol y Cyngor hefyd yn cynyddu nifer y patrolau ledled Rhondda Cynon Taf i roi cymorth ychwanegol a helpu i ddiogelu trigolion.

Er mwyn cefnogi'r gymuned ymhellach, mae carfan Partneriaethau Cymunedau Diogel RhCT wedi trefnu nifer o sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn i bobl alw heibio a chael rhagor o wybodaeth.

 

Os byddwch chi'n gweld ymddygiad amheus, dylech chi roi gwybod amdano ar unwaith i helpu i amddiffyn eich cymuned:

Diogelwch yn ystod Calan Gaeaf

  • Wrth brynu neu greu gwisgoedd a masgiau, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio deunydd nad yw'n fflamadwy, neu chwiliwch am label sy'n nodi bod y dilledyn yn gwrthsefyll fflamiau.
  • Sicrhau bod gwisgoedd yn ffitio'n gywir a'u bod wedi bod yn destun profion diogelwch ychwanegol o dan god ymarfer Consortiwm Manwerthu Prydain. Mae'n debygol y bydd neges debyg i hon ar y dilledyn: ‘This garment has undergone additional safety testing for flammability.’
  • Cadwch blant i ffwrdd o fflamau noeth ar bob adeg.
  • Os yw'ch dillad yn mynd ar dân, cofiwch stopio,  gorwedd ar lawr a rholio i drechu'r fflamau.
  • Edrychwch yn ofalus ar y cynhwysion a ddangosir ar becynnau losin os oes gyda chi neu'ch plentyn alergedd bwyd.
  • Ystyriwch ddefnyddio canhwyllau di-fflam fel LED neu rai sy'n cael eu pweru gan fatris
  • Dydy pawb ddim yn hoff o Galan Gaeaf - peidiwch â chnocio ar ddrysau os nad oes addurniadau Calan Gaeaf i'w gweld.
  • Byddwch yn ofalus iawn wrth yrru'ch cerbyd gan y bydd rhagor o blant ar balmentydd ac yn croesi'r ffordd.
  • Ailgylchwch unrhyw fwyd parti neu losin sydd dros ben yn eich cadi gwastraff bwyd – cofrestrwch ar ein gwefan www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Noson Tân Gwyllt

Os does dim modd i chi fynd i achlysur cyhoeddus, dyma ychydig o ganllawiau i unrhyw un sy'n cynnal arddangosfa tân gwyllt gartref:

Cyngor diogelwch ar gyfer Noson Tân Gwyllt ac achlysuron eraill lle mae angen ystyried diogelwch tân:

  • Prynwch dân gwyllt sydd â marc CE/UKCA o siopau dibynadwy a thrwyddedig yn unig. Cyn prynu'r tân gwyllt, gofynnwch am gyngor o ran pa dân gwyllt sydd fwyaf addas ar gyfer eich gardd/safle chi, a gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n bodloni'r safonau diogelwch presennol
  • Cadwch dân gwyllt mewn blwch metel caeedig ac i ffwrdd o blant
  • Goleuwch y tân gwyllt hyd braich gyda thapr, a chofiwch sefyll yn ddigon pell i ffwrdd.
  • Cadwch fflamau agored, gan gynnwys sigaréts, i ffwrdd o dân gwyllt.
  • Peidiwch â rhoi tân gwyllt yn eich poced a pheidiwch byth â'u taflu.
  • Peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt nad yw wedi ffrwydro, a pheidiwch byth â thaflu tân gwyllt neu becynnau tân gwyllt ar goelcerth.
  • Peidiwch byth ag yfed alcohol wrth gynnau coelcerth neu dân gwyllt.
  • Goruchwyliwch blant bob amser a pheidiwch â rhoi ffyn gwreichion (sparklers) i blant o dan bump oed.
  • Cadwch eich coelcerth o leiaf 18 metr i ffwrdd o dai, coed a gwrychoedd. Dylech chi osod rhwystr o amgylch y goelcerth i gadw gwylwyr bum metr i ffwrdd. Cyn cynnau coelcerth, gwiriwch ei bod hi'n sefydlog ac nad oes unrhyw blant nac anifeiliaid y tu mewn iddi.
  • Llosgwch bren sych yn unig, peidiwch byth â defnyddio paraffin na phetrol ar goelcerth, a chofiwch ystyried cyfeiriad teithio'r mwg.
  • Cadwch fwcedi o ddŵr yn agos.
  • Ystyriwch y rhai o'ch cwmpas, gan rybuddio cymdogion a allai fod ag anifeiliaid anwes neu anifeiliaid fferm.
  • Ystyriwch ble y gallai tân gwyllt a malurion gwympo, gan sicrhau bod pellteroedd diogelwch yn ddigonol er mwyn cadw pawb yn ddiogel. Nodwch y pellteroedd diogelwch sydd wedi'u nodi ar bob label neu becyn tân gwyllt.
  • Ailgylchwch unrhyw fwyd parti sydd dros ben yn eich cadi gwastraff bwyd – cofrestrwch ar ein gwefan  www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd

Oriau a ganiateir o ran cynnau tân gwyllt

  • Mae hi'n drosedd cynnau tân gwyllt rhwng 11pm a 7am ac eithrio ar 5 Tachwedd pan fydd y terfyn amser yn ymestyn i hanner nos, ac ar adeg Diwali, Nos Galan a'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd pan fydd y terfyn amser yn ymestyn i 1am.
  • Mae hi hefyd yn drosedd cynnau tân gwyllt mewn man cyhoeddus.

Cymorth i gyn-filwyr

Strategaethau ymdopi ar gyfer cyn-filwyr

Mae arbenigwyr iechyd meddwl yn argymell sawl techneg i reoli pryder ynghylch tân gwyllt. 

  • Cynlluniwch ymlaen llaw: Os ydych chi'n gwybod bod tân gwyllt yn debygol, cynlluniwch eich noson. Gallai hyn olygu aros adref neu fynd i rywle tawel.
  • Defnyddiwch offer tawelu: Rhowch gynnig ar gyfarpar amddiffyn clustiau neu glustffonau diddymu sŵn i leddfu synau mawr. Mae modd defnyddio arogl lleddfol, megis olew naws, i oresgyn sbardunau posibl.
  • Ymarferwch dechnegau anadlu: Pan fyddwch chi'n teimlo'n bryderus neu'n cael eich llethu, canolbwyntiwch ar anadlu'n araf ac yn fwriadol. Gall gwneud eich anadliadau allan yn hirach na'ch anadliadau i mewn helpu i dawelu'ch system nerfol.
  • Technegau seilio: Defnyddiwch eich synhwyrau i aros yn y foment bresennol. Er enghraifft, nodwch bum peth y gallwch eu gweld, pedwar peth y gallwch eu teimlo, tri pheth y gallwch eu clywed, dau beth y gallwch eu harogli, ac un peth y gallwch ei flasu.
  • Cyfyngwch ar sbardunau gartref: Os yw golau'n fflachio yn broblem, caewch y llenni ac ystyried defnyddio llenni blacowt. Defnyddiwch flanced i deimlo'n gysurus.
  • Siaradwch â rhywun: Mae modd i rwydwaith cymorth o deulu neu ffrindiau sy'n deall eich pryderon fod o gymorth mawr. Os oes angen rhywun arnoch chi i siarad ag ef, mae modd ffonio'r Samariaid ar 0116 123 neu ysgrifennu neges ar eu gwefan, anfon e-bost neu ysgrifennu llythyr. Fel arall, cysylltwch â gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith y GIG ar 111. Os ydych chi'n meddwl am hunanladdiad neu mewn perygl o niweidio eraill, ffoniwch 999.

Cyngor i'r cyhoedd a threfnwyr achlysuron

Mae modd i ymddygiad ystyriol y cyhoedd leihau'r gofid i gyn-filwyr ac eraill sy'n dioddef yn sgil tân gwyllt.

  • Rhowch rybudd: Os ydych chi'n cynnal arddangosfa breifat, rhowch wybod i'r cymdogion ymlaen llaw fel bod amser i baratoi neu adael.
  • Ewch i arddangosfeydd cyhoeddus: Ystyriwch fynychu arddangosfa wedi'i threfnu yn lle cynnau tân gwyllt yn eich gardd.
  • Defnyddiwch dân gwyllt tawel: Ystyriwch ddefnyddio tân gwyllt "tawel" neu sŵn isel.
  • Dangoswch dosturi: Byddwch yn ymwybodol nad yw pawb yn mwynhau tân gwyllt, a byddwch yn barchus o'r penderfyniadau y mae eraill yn eu gwneud er eu lles eu hunain.

Dolen ddefnyddiol: https://www.helpforheroes.org.uk/about-us/news/follow-the-firework-heroes-code/

Cadwch anifeiliaid ac anifeiliaid anwes yn ddiogel ar noson tân gwyllt

Bydd llawer o anifeiliaid ac anifeiliaid anwes yn ofnus ar Noson Tân Gwyllt, ac mae'n aml yn achosi straen, pryder a hyd yn oed ymddygiad ymosodol. Cofiwch ystyried hyn os ydych chi'n cynnau tân gwyllt ar eich eiddo, ac ystyriwch rannu gwybodaeth ac amseroedd ar grŵp eich cymdogaeth leol ar Gyfryngau Cymdeithasol.

  • Ewch â'ch ci am dro yn gynnar yn y dydd.
  • Cadwch gathod y tu mewn.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n creu man diogel yn eich cartref.
  • Caewch ffenestri, llenni a bleindiau.
  • Trowch sŵn y teledu i fyny neu ystyriwch chwarae cerddoriaeth glasurol.
  • Rhowch wasarn ychwanegol i gwningod.
  • Arhoswch gartref a'u cysuro.
  • Rhowch ddanteithion iddyn nhw i dynnu eu sylw.
  • Sicrhewch fod manylion microsglodyn eich anifeiliaid anwes yn gyfredol.

Os ydych chi'n pryderu nad yw manwerthwyr wedi'u trwyddedu neu os yw siopau'n storio tân gwyllt yn amhriodol, yn gwerthu tân gwyllt sydd ddim yn arddangos marciau diogelwch priodol, neu'n eu gwerthu i unrhyw un o dan 18 oed, ffoniwch linell gymorth Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133. Fel arall, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan:  www.rctcbc.gov.uk/safonaumasnach. 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chadw anifeiliaid anwes yn ddiogel, ewch i wefan RSPCA.

Wedi ei bostio ar 22/10/2025