Skip to main content

Y Cabinet yn Cymeradwyo Model Gofal Seibiant Newydd ar gyfer Oedolion ag Anableddau Dysgu

82475951_1781225488676643_4428971439571337216_n

Mae Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo model gofal seibiant newydd ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Cafodd ei gymeradwyo yn dilyn ymgynghoriad wyth wythnos llwyddiannus ag oedolion ag anableddau dysgu, eu teuluoedd, cynhalwyr, a phartneriaid allweddol.

Cafodd y model newydd, Fy Seibiant i, Fy Newis i, ei lywio gan leisiau pobl sydd â phrofiad bywyd o anableddau dysgu, yn ogystal â'u cynhalwyr. Mae'n adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Cyngor i ddarparu gofal seibiant hyblyg, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n hyrwyddo annibyniaeth, urddas a lles. Mae hyn yn moderneiddio'r cynnig presennol sydd, yn bennaf, ar gael trwy ofal yn y gwely mewn lleoliadau preswyl traddodiadol.

Cafodd yr ymgynghoriad ei gynnal rhwng mis Gorffennaf ac Awst ac roedd y gymuned wedi ymgysylltu'n gryf ag ef. Dychwelodd cyfanswm o 39 o bobl arolygon wedi'u cwblhau, gyda dros 70% o'r ymatebwyr yn cefnogi pob haen o'r model arfaethedig, sef:

  • Dewisiadau yn y Gymuned sy'n hyblyg ac y mae modd eu haddasu i annog annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol.
  • Cymorth arbenigol ar gyfer anghenion cymhleth i unigolion sydd angen cymorth ychwanegol mewn amgylcheddau sy'n ddiogel a chefnogol.
  • Iechyd a gofal cymdeithasol integredig i'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth er mwyn byw'n well yn y gymuned.

Hefyd, cymerodd 49 o bobl â phrofiad bywyd ran yn ein hachlysuron wyneb yn wyneb. Tynnodd yr adborth sylw at frwdfrydedd dros y newidiadau arfaethedig ac at bwysigrwydd seibiant personol sydd ar gael mewn amgylcheddau sy'n adlewyrchu dewisiadau'r unigolion.

Mae gwasanaethau seibiant yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y rhai sy'n eu defnyddio felly bydd rhai pobl yn bryderus ynghylch y newidiadau hyd nes eu bod yn gwybod yn union sut y byddan nhw'n effeithio arnyn nhw yn bersonol. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gydag unigolion, eu teuluoedd a'u cynhalwyr, i sicrhau bod gwasanaethau wedi'u teilwra i'w hanghenion a'u dyheadau ac y bydd pawb sy'n defnyddio'r ddarpariaeth seibiant bresennol yn cael eu cefnogi mewn adolygiadau unigol. Bydd hynny'n sicrhau bod eu hanghenion yn parhau i gael eu diwallu, ac y bydd gwasanaethau presennol yn parhau i fod ar gael hyd nes y cytunir ar ddewisiadau amgen addas.

Gyda chymeradwyaeth y Cabinet, bydd y Cyngor nawr yn dechrau rhoi'r model newydd ar waith yn raddol.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol gyda chyfrifoldeb pennaf dros faterion Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydyn ni'n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac am rannu eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau seibiant. 

“Bwriad y model newydd yma yw cynnig rhagor o ddewis, hyblygrwydd a rheolaeth i bobl ag anableddau dysgu a'u teuluoedd. Drwy symud i ffwrdd o fodel un ateb sy'n addas i bawb, mae modd i ni sicrhau bod pobl yn derbyn gofal seibiant sydd wedi'i deilwra i'w hanghenion a'u dyheadau amrywiol drwy gynnig gwasanaethau amgen sy'n darparu opsiynau cynaliadwy a chyfannol yn y gymuned.

“Drwy weithio'n agos gydag unigolion a'u teuluoedd, bydd modd i ni sicrhau bod gofal seibiant yn parhau i ddiwallu anghenion pobl nawr ac yn y dyfodol.”

Mae'r model newydd yn adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu'r Cyngor, gan gynnwys Fy Niwrnod i, Fy Newis i a Fy Nghartref i, Fy Newis i, ac yn dangos ymrwymiad y Cyngor i waith ar y cyd, trawsnewid, a gwelliant parhaus.

Wedi ei bostio ar 27/10/2025