Skip to main content

Arwyr amgylcheddol! Ysgolion cynradd lleol yn ennill gwobr efydd

Eco award collage

Croesawodd y Cynghorydd Maureen Webber, y Cynghorydd Ann Crimmings, y Cynghorydd Sharon Rees a'r Cynghorydd Rhys Lewis 13 o ddisgyblion o ysgolion cynradd o bob cwr o Rondda Cynon Taf i Siambr y Cyngor ym Mhontypridd ar ddydd Iau, 30 Medi. Roedd hyn er mwyn cyflwyno Gwobr Efydd Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf iddyn nhw'n ffurfiol. Daw'r wobr yn rhan o'u gwaith caled a'u hymrwymiad i wella effeithiau amgylcheddol eu hysgolion. Yn ystod eu hymweliad, dysgodd y disgyblion hefyd am Siambr y Cyngor, eu rôl o ran gwneud penderfyniadau a sut mae'r Cyngor yn gweithio.

Cafodd y Gwobrau Eco Ysgolion RhCT eu creu gan y Cyngor i annog disgyblion i gymryd rhan yn y ffordd y mae eu hysgolion yn gweithredu a'u dysgu am y gwahanol ffyrdd mae modd gofalu am yr amgylchedd drwy leihau gwastraff a'r ynni y mae'r ysgol yn ei ddefnyddio. Mae hefyd yn gyfle iddyn nhw ddysgu sut i ofalu am fioamrywiaeth ac ailgylchu rhagor o bethau. Drwy gymryd rhan yn y fenter yma, mae ysgolion yn cefnogi cyflawni Strategaeth Hinsawdd y Cyngor - 'Hinsawdd Ystyriol RhCT'.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae disgyblion o YGG Evan James, Canolfan Addysg Tai, Ysgol Gynradd Llwydcoed ac Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn wedi bod yn gweithio'n galed i fwrw targedau'r meini prawf ac wedi llwyddo i gyflawni lefel efydd Gwobr Eco Ysgolion RhCT.

Ochr yn ochr â'u tystysgrifau gwobr efydd, derbyniodd y pedair ysgol lwyddiannus flychau adar a llety i bryfed, a brynwyd gan y Cyngor yn rhan o'r wobr am gyrraedd y lefel efydd. Fe wnaethon nhw hefyd dderbyn taleb sydd wedi'i noddi gan Morgan Sindall Construction i brynu eitemau ar 'restr ddymuniadau' eu hysgol. Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo gwelliannau amgylcheddol yn eu hysgol ac yn cefnogi'r ymdrech i ennill lefel arian y wobr.

Bydd cynnydd yr ysgolion o ran ennill y wobr arian yn cael ei adolygu ddiwedd mis Ionawr 2026.

Mae 19 o ysgolion eraill yn ceisio cyflawni statws efydd Gwobr Eco Ysgolion RhCT yn ystod y flwyddyn academaidd yma.

Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:  “Mae hi wedi bod yn bleser dyfarnu Gwobr Eco Efydd i’r disgyblion yma heddiw. Mae'n wych gweld eu hymroddiad i ennill y wobr, ac mae eu brwdfrydedd dros yr amgylchedd yn amlwg i'w weld. Mae'r Cyngor yn hynod falch o gefnogi ein hysgolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a darparu gwersi effeithiol i'r disgyblion yn yr ystafell ddosbarth a thu allan iddi hi. Dyma wersi bywyd pwysig y bydd modd iddyn nhw eu rhoi ar waith yn y dyfodol. Rydyn ni'n yn edrych ymlaen yn fawr at weld y plant yn ennill y gwobrau Arian ac Aur yn y dyfodol agos, a gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ysgolion a disgyblion eraill i gymryd rhan!”

Wedi ei bostio ar 20/10/2025