Skip to main content

Aelodau'r Cabinet yn cytuno ar gyllid ychwanegol ar gyfer meysydd blaenoriaeth allweddol

Investment priorities - Copy

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar fuddsoddiad ychwanegol o £11.5 miliwn ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r Cyngor, ar ben rhaglen gyfalaf eleni – mae cyllid ychwanegol yn benodol ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd, gwaith lliniaru llifogydd, parciau, mannau gwyrdd a pharciau gwledig.

Bydd y cyllid hefyd yn cyfrannu at gynllunio a dylunio'r gyfran nesaf o brosiectau buddsoddi mawr mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf, ynghyd â pharhau i ddylunio a datblygu dau brosiect seilwaith priffyrdd mawr – Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a Phorth Gogledd Cwm Cynon.

Cafodd adroddiad ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun 22 Medi yn nodi manylion y buddsoddiad cyfalaf arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol (2025/26). Yn dilyn cytundeb yr Aelodau, trafododd a chytunodd y Cyngor Llawn ar y rhaglen ddydd Mercher 24 Medi. Mae buddsoddiadau untro o'r math yma wedi cael eu cymeradwyo sawl gwaith ers 2015 i gyfrannu cyfanswm buddsoddiad ychwanegol o tua £204 miliwn ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor.

Nododd adroddiad y Cabinet ddydd Llun y bydd modd ariannu'r buddsoddiad arfaethedig gyda chyllid sydd eisoes wedi'i neilltuo at y diben yma (cronfa benodol ar gyfer Seilwaith a Buddsoddi) a chyllid ychwanegol o Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Rheoli Priffyrdd Llywodraeth Cymru.

Mae'r meysydd buddsoddi a fydd yn cael blaenoriaeth yn cynnwys:

  • Priffyrdd a Ffyrdd – £2.5 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan – £3 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon – £2 filiwn
  • Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell / Datblygiadau Traffig – £100,000
  • Gwaith Lliniaru Llifogydd – £250,000
  • Parciau a Mannau Gwyrdd – £500,000
  • Parciau Gwledig – £150,000
  • Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu – £3 miliwn.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Er gwaethaf heriau ariannol sylweddol parhaus yn y sector cyhoeddus, mae ein dull doeth a rhagweithiol wedi caniatáu i ni gyflwyno rownd arall o gyllid cyfalaf untro gwerth £11.5 miliwn ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor sy'n helpu i gyflawni ein Cynllun Corfforaethol. Rydyn ni wedi llwyddo i wneud hyn yn rheolaidd ers 2015, gyda buddsoddiadau cyfalaf ychwanegol gwerth cyfanswm o £204 miliwn wedi'u gwneud hyd yn hyn. Yn dilyn cytundeb gan Aelodau'r Cabinet a'r Cyngor Llawn wedyn, bydd ein rhaglen gyfalaf yn cael ei chynyddu i £212 miliwn eleni – un o'r rhaglenni buddsoddi mwyaf yng Nghymru.

"Bydd y cyllid yn ychwanegu £2.5 miliwn at ein rhaglen cynnal a chadw ffyrdd a throedffyrdd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol – ynghyd â £250,000 ychwanegol tuag at liniaru llifogydd, £500,000 ar gyfer parciau a mannau gwyrdd, a £150,000 ar gyfer ein parciau gwledig. Mae'r rhain yn wasanaethau allweddol y Cyngor y mae trigolion yn amlwg yn poeni'n fawr amdanyn nhw, a bydd y buddsoddiadau penodol yma'n cael eu cyflawni ar gyfer ein cymunedau ni erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Amlinellodd adroddiad ar wahân i'r Cabinet ddydd Llun fanylion sut y byddai'r cyllid ar gyfer y priffyrdd yn cael ei ddyrannu.

"Mae cyllid pwysig hefyd wedi'i gytuno nawr ar gyfer dau o'n cynlluniau trafnidiaeth mawr ar gyfer y dyfodol – Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a Choridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon. Mae'r ddau gynllun yma wedi cael eu hailystyried yn dilyn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru, gyda newidiadau dylunio allweddol bellach yn rhan o'r cynlluniau. Mae'r buddsoddiad mawr ar gyfer y ddau gynllun yn dangos ein hymrwymiad i'w cyflawni – i ddod o hyd i atebion i ddatrys llif traffig yn barhaol mewn lleoliadau allweddol yng ngogledd a de'r Fwrdeistref Sirol. 

"Yn olaf, mae cyllid ychwanegol o £3 miliwn wedi'i glustnodi ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion, gan adeiladu ar fuddsoddiad y Cyngor a Llywodraeth Cymru i godi adeiladau newydd yn llwyddiannus ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn 2024/25 – ynghyd â buddsoddiad o £80 miliwn mewn ysgolion yn ardal ehangach Pontypridd. Mae'r ffocws bellach yn troi at y rhaglen fuddsoddi dreigl hirdymor nesaf ar ôl i Aelodau'r Cabinet dderbyn manylion amdani ym mis Mawrth 2025. Mae'r rhaglen yn cynnwys naw prosiect dros gyfnod o naw mlynedd gwerth £414 miliwn. Mae hyn yn cynnwys ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd yng Nghwm Clydach ac ysgol a chanolfan gynaliadwy newydd ar gyfer Glyn-coch. Mae'r ddau brosiect yn datblygu'n dda. Ar ôl cwblhau'r rhaglen dreigl naw mlynedd newydd ym mis Mawrth 2033, mae disgwyl y bydd cyfanswm y buddsoddiad yn ysgolion Rhondda Cynon Taf ers 2014 yn fwy na £988 miliwn."

Wedi ei bostio ar 25/09/2025