Skip to main content

Cyfle i ddweud eich dweud ynghylch Coridor Trafnidiaeth Cynaliadwy Llanharan

Llanharan grid - Copy

Bydd y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu pwysig dros yr wythnosau nesaf. Bydd yn gyfle i drigolion gael dysgu rhagor am y cynigion diwygiedig ar gyfer coridor trafnidiaeth a llwybr teithio llesol newydd i’r de a’r gorllewin o Lanharan, ac i ddweud eu dweud yn eu cylch.

Byddai'r datblygiad arfaethedig yn cwblhau coridor trafnidiaeth 4 cilomedr o hyd, a byddai llwybr cerdded a beicio yn rhedeg ochr yn ochr ag ef. Diben hyn oll yw mynd i'r afael â materion sydd wedi bodoli ers amser maith o ran tagfeydd traffig, diogelwch ffyrdd, traffig cerbydau nwyddau ac ansawdd aer ar hyd yr A473 drwy Lanharan.

Bydd yr Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio, sydd ar y gweill, yn galluogi swyddogion i gael adborth allweddol gan drigolion, perchnogion tir a rhanddeiliaid. Wedi hynny, byddan nhw'n adolygu'r cynigion ac yn eu mireinio cyn cyflwyno cais cynllunio. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus pedair wythnos o hyd yn cael ei gynnal rhwng dydd Llun, 29 Medi, a dydd Llun 27 Hydref. Bydd cyfle i gymryd rhan ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn dau achlysur arddangos cyhoeddus, lleol.

Beth yw'r cynigion diwygiedig ar gyfer y prosiect?

Mae'r prosiect wedi cael ei ddiwygio yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd fis Chwefror 2023, er mwyn gofalu ei fod yn cyd-fynd yn agos â Pholisi Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghorydd dylunio sydd wedi'i benodi, sef WSP, er mwyn datblygu cynnig newydd sy'n galluogi trafnidiaeth gynaliadwy a chymdeithasol-gynhwysol, ac sy’n hyrwyddo'r rhain, i raddau mwy helaeth fyth. Mae hefyd yn rhoi rhagor o sylw i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus, ecoleg a chysylltedd. Mae crynodeb o'r cynigion wedi'i gynnwys yma:

  • Cwblhau coridor trafnidiaeth 4 cilomedr o hyd newydd i'r de a'r gorllewin o Lanharan a Bryn-cae. Bydd ei ran fwyaf dwyreiniol yn dechrau o'r A473 i'r dwyrain o Lanharan, ger yr orsaf betrol sydd yno ar hyn o bryd, a'i ran fwyaf gorllewinol fydd ar yr A473 Heol Newydd (ger ffin Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr).
  • Bydd prosiect arfaethedig y Cyngor yn cael ei rannu'n ddwy brif ran. Bydd y rhan ddwyreiniol 1.8 cilomedr o hyd yn ymestyn o'r A473 i’r dwyrain o Lanharan hyd at Ffordd y Fenter.  Bydd y rhan orllewinol 0.6 cilomedr o hyd yn welliant i'r llwybr presennol ar yr A473 Heol Newydd, rhwng Cylchfan Dragon Studios a ffin y Fwrdeistref Sirol â Phen-y-bont ar Ogwr; bydd cael gwared ar y troad sydyn, sy'n cael ei alw’n ‘Cow Corner’  yn lleol, yn rhan o hyn.
  • Bydd rhan ganol, 1.6 cilomedr, o'r coridor trafnidiaeth rhwng y ddwy ran yma. Dyw'r rhan ganol dan sylw ddim yn cael ei hadeiladu gan y Cyngor. Mae’n cynnwys rhan 0.8 cilomedr sydd wedi'i hadeiladu eisoes, ac ail ran 0.8 cilomedr a fydd yn cael ei hadeiladu gan ddatblygwr tai –  yn ystod yr un amserlen â phrosiect y Cyngor.
  • Yn sgil y prosiect, bydd cyffyrdd newydd yn cael eu creu â Ffordd y Fenter, Heol Llanhari a Hen Ffordd Llanhari a'r A473. Bydd mesurau rhoi blaenoriaeth i fysiau yn rhan o'r cyffyrdd y bydd gwasanaethau bysiau yn eu defnyddio.
  • Rhan bwysig o'r datblygiad yw adeiladu llwybr teithio llesol i'w rannu rhwng cerddwyr a beicwyr, ochr yn ochr â'r cynllun 4 cilomedr ar ei hyd – gan gynnwys sawl croesfan â signalau.

Bydd ffensio acwstig a phlanhigion a choed yn lleihau llygredd sain a'r effaith ar yr hyn sydd i'w weld. Ymhlith buddion eraill y prosiect diwygiedig mae lleihau'r cynnwys carbon o ran y gwaith adeiladu a chynnal a chadw, osgoi colli Coetir Hynafol, plannu gwyrddni a chreu a rheoli cynefinoedd gan roi budd i fioamrywiaeth, ac ymgorffori atebion draenio cynaliadwy er mwyn gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd. 

Sut mae modd i drigolion gymryd rhan yn yr ymgynghoriad?

Bydd tudalen hafan ar-lein yn cael ei lansio pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau; bydd arni gynlluniau manwl ar gyfer y cynigion ynghyd â dogfennau ategol. Bydd y dudalen hafan ar gael drwy'r ddolen yma o 29 Medi.

Bydd modd i drigolion e-bostio eu hadborth ynghylch y cynigion, i gael ei gofnodi'n swyddogol yn yr ymgynghoriad. Dyma'r cyfeiriad e-bost: ymgynghori@rctcbc.gov.uk. Bydd modd iddyn nhw hefyd ffonio'r Ganolfan Gyswllt (01443 425001) neu anfon eu hadborth drwy’r post i - Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH, y Garfan Ymgynghori, Swyddfa’r Trydydd Llawr, 2 Llys Cadwyn, Pontypridd, CF37 4TH.

Bydd modd i chi weld fersiynau papur o'r cynlluniau a'r dogfennau yn Llyfrgell Llantrisant (sydd yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant, Parc Porth y De, Llantrisant, CF72 8DJ). Yr oriau agor yw 9am-1pm bob dydd Llun a dydd Sadwrn, a 9am-6pm bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener – mae ar gau bob dydd Mercher. 

Bydd dwy arddangosfa gyhoeddus yn cael eu cynnal hefyd yn ystod yr ymgynghoriad; bydd modd i'r cyhoedd ddod draw, gweld y cynlluniau a siarad ag aelodau'r garfan ymgynghori. Rydyn ni'n gwahodd trigolion i alw draw unrhyw bryd yn ystod yr achlysuron drwy'r dydd, sy'n cael eu cynnal yma:

  • Canolfan Cymuned Bryn-cae (Rhodfa Powell, Bryn-cae, Llanharan CF72 9UU) – Dydd Mawrth 7 Hydref, 11am tan 7pm.
  • Neuadd Les Llanharan (Ymddiriedolaeth Maes Chwaraeon Llanharan, oddi ar Heol Pen-y-bont, CF72 9RA) – Dydd Iau 9 Hydref, 11am tan 7pm.

Bydd fideo argraff arlunydd o'r coridor trafnidiaeth a’r llwybr teithio llesol arfaethedig yn ategu'r ymgynghoriad cyhoeddus – bydd yn cael ei ddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ystod y broses yma. Bydd y Cyngor yn defnyddio ei gyfrifon y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r ymgynghoriad, ac atgoffa trigolion ynghylch yr achlysuron wyneb yn wyneb.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu'r cynllun trafnidiaeth mawr yma er mwyn datrys materion traffig sydd wedi bodoli ers amser yn ymwneud â thagfeydd traffig, llygredd aer, a diogelwch ffyrdd drwy Lanharan. Mae gyda ni hanes da o gyflawni prosiectau isadeiledd y priffyrdd, mawr; mae agor cynllun deuoli’r A4119, Coedelái, yn gynharach yn 2025, a'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar yn 2020 yn enghreifftiau o hyn.  Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar brosiect Llanharan, ynghyd â Choridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon yng ngogledd Cwm Cynon.

“Mae swyddogion wedi ailedrych ar y cynigion blaenorol ar gyfer prosiect Llanharan yn dilyn Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru; bydd y cynigion diwygiedig yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn ystod yr ymgynghoriad pedair wythnos o hyd sy'n dechrau ar 29 Medi – bydd fideo argraff arlunydd cyffrous o'r cynlluniau newydd, ar ffurf taith rithwir, yn cael ei ddangos yn ystod yr ymgynghoriad. Rydyn ni'n gweithio'n agos gydag ymgynghorydd dylunio tuag at gyflwyno cais cynllunio ffurfiol, a bydd yr ymgynghoriad sydd ar y gweill yn helpu i'w lywio.

"Yn rhan o'r newidiadau dylunio yma sydd nawr wedi'u cyflwyno, mae cysylltedd llawer gwell, cyfleoedd i gerdded a beicio, a llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus – a hynny drwy gyfres o gyffyrdd wedi'u rheoli â signalau yn hytrach na chylchfannau, ynghyd â chynigion newydd o ran mesurau rhoi blaenoriaeth i fysiau. Yn sgil y diwygiadau hefyd, mae ôl troed carbon y prosiect wedi cael ei leihau, ac mae mesurau cynaliadwyedd gwell yn rhan o hyn sydd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru; mae hyn wedi galluogi'r prosiect i fynd rhagddo.

“Yr wythnos yma, mae cyllid sylweddol gwerth £3 miliwn wedi ei ddyrannu i'r prosiect wedi i hynny gael ei gymeradwyo gan y Cabinet ddydd Llun 22 Medi ac mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn ddydd Mercher. Mae hyn yn brawf pellach o'n hymrwymiad i gyflawni'r prosiect yma, gyda'r cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer y camau dylunio a chynllunio sy'n mynd rhagddyn nhw, sy'n gerrig milltir allweddol o ran cyflawni'n derfynol.

“Byddwn i'n annog pob trigolyn sydd â diddordeb yn y prosiect i gael gwybod rhagor a chael dweud eu dweud yn ystod yr ymgynghoriad pedair wythnos fydd yn dod i ben ar 27 Hydref. Mae sawl modd o gymryd rhan – ar-lein, drwy'r post, ac wyneb yn wyneb mewn dau achlysur arddangos cyhoeddus sydd wedi cael eu trefnu ar gyfer cymunedau Bryn-cae a Llanharan. Mae'n bwysig ein bod hi'n cael safbwyntiau pobl ar y cam allweddol yma, yn rhan o ddatblygiad y prosiect – a bydd pob darn o adborth yn cael ei drin a'i drafod yn ofalus gan aelodau carfan y prosiect wrth i ni fwrw ymlaen â chyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn y misoedd nesaf.”

Wedi ei bostio ar 25/09/2025