Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd, yn falch o gyhoeddi y bydd y Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio blynyddol yn cael eu cynnal ddydd Sul 9 Tachwedd 2025 ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.
Mae'r achlysur yma'n talu teyrnged i aelodau’r Lluoedd Arfog sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro milwrol ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae croeso cynnes i drigolion o bob cwr o Rondda Cynon Taf i fynychu a thalu teyrnged i ddewrder ac aberth cymuned y Lluoedd Arfog.
Bydd yr orymdaith yn dechrau am 10:35am. Bydd cyfranogwyr o ystod eang o sefydliadau cymunedol a milwrol yn ymgynnull yn y parc cyn gorymdeithio i'r Gofeb Ryfel. Bydd y gwasanaeth, dan arweiniad y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd, yn dechrau am 11:00am a bydd yn cynnwys gweddïau, darlleniadau, a dwy funud o dawelwch er mwyn myfyrio a chofio.
Mae'r achlysur yma'n gyfle i'r Cyngor a'i gymunedau ddangos eu hymrwymiad i gefnogi aelodau presennol y Lluoedd Arfog, yn ogystal â'r rhai sydd wedi ymddeol. Mae Rhondda Cynon Taf yn parhau i gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n cynnwys gwasanaeth cyngor am ddim i gyn-filwyr, mynediad at Gronfa Grantiau'r Cyfamod, a'r cyfle i fanteisio ar Gynllun Gostyngiadau'r Lluoedd Arfog.
Mae modd dod o hyd i ragor o fanylion am y Cyfamod a'r cymorth sydd ar gael ar wefan y Cyngor. Yn ogystal, mae carfan Lluoedd Arfog y Cyngor yn gweithio'n agos gyda 'Valleys Veterans' a Chomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad i gynnal beddau rhyfel ledled y fwrdeistref sirol. Rydyn ni’n croesawu gwirfoddolwyr sy’n awyddus i helpu gyda’r gwaith yma. Am ragor o wybodaeth ewch i www.valleyveterans.org.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog:
Dyma annog pob aelod o'r cyhoedd i ymuno â Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd. Dyma gyfle ystyrlon i'n cymunedau ddod at ei gilydd i gefnogi'r Lluoedd Arfog ac i dalu teyrnged i’r rhai sydd wedi gwneud yr aberth eithaf. Dyma un o nifer o achlysuron coffa sy'n cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf, wedi'u trefnu gan grwpiau lleol a chynghorau tref.
Cyfeiriwch at hysbysiadau cymunedol lleol i gael y newyddion diweddaraf a rhagor o wybodaeth am achlysuron Sul y Cofio ledled y fwrdeistref sirol.
Wedi ei bostio ar 26/09/2025