Mae Rhondda Cynon Taf wedi lansio menter hyfforddi arloesol sy’n defnyddio dulliau realiti rhithwir.Nod yr hyfforddiant yw gwella bywydau trigolion sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal lleol. Mae'r prosiect, sy'n cael ei gefnogi gan grant Cronfa Ffyniant Gyffredin sydd wedi’i sicrhau gan Garfan Datblygu’r Gymuned y Cyngor, yn cael ei gyflwyno gan PlayFrame mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd a Sied Dynion Pontypridd.
Mae prosiect arloesol 'Inside-Outside' PlayFrame yn defnyddio technoleg Realiti Rhithwir ryngweithiol i helpu unigolion i ailgysylltu gyda lleoedd a phrofiadau cyfarwydd. Cymerodd staff o Interlink RhCT a Tŷ Nant, cartref gofal preswyl sy’n arbenigo mewn gofal dementia yn Nhrewiliam, ran yn y sesiwn hyfforddi ymarferol i ddysgu sut i greu cynnwys realiti rhithwir pwrpasol y mae modd i’r preswylwyr ei fwynhau.
Roedd yr hyfforddiant, a gafodd ei gynnal yn Amgueddfa Pontypridd a Pharc Ynysangharad, wedi rhoi cyfle i gyfranogwyr ffilmio gyda chamerâu 360 gradd arbenigol megis yr Insta360. Llwyddodd hyfforddeion i dynnu lluniau a fideos o'r safle seindorf, llwybrau cerdded a llwybrau’r parc cyn dysgu sut i olygu a gwella’r fideos gan ddefnyddio meddalwedd bwrpasol. Roedden nhw wedi dysgu sgiliau amrywiol gan gynnwys sut i dorri clipiau fideo, gosod cerddoriaeth, a phontio rhwng clipiau i greu profiad Realiti Rhithwir di-dor a deniadol.
Wedyn, cafodd pawb gyfle i wylio'r clipiau terfynol drwy'r penset Realiti Rhithwir, gan fanteisio ar y cyfle i gael cipolwg ar sut y gallan nhw ddefnyddio'r dechnoleg i gefnogi’r cof, lles a chysylltedd emosiynol i'r rhai sy'n byw gyda dementia.
Mae staff Tŷ Nant yn awyddus i fanteisio ar grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin er mwyn prynu eu pensetiau eu hunain i ddechrau recordio a chreu profiadau personol i breswylwyr.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn: “Rwy’n gyffrous iawn i weld y prosiect arloesol yma'n cael ei lansio yn Rhondda Cynon Taf. Dyma enghraifft wych o sut y mae modd defnyddio technoleg i wella ansawdd bywyd ein trigolion hŷn, yn enwedig y rhai sy'n byw gyda dementia.”
Datblygwyd y prosiect ‘Inside–Outside’ gyntaf yn ystod pandemig COVID-19 i frwydro yn erbyn unigedd mewn cartrefi gofal. Mae'r prosiect bellach yn cynnwys sawl fideo ymdrochol, gan gynnwys lleoliadau megis Ynys y Barri, Parc y Rhath, Parc Cwm Darran, Parc Margam, a hyd yn oed ymarferion Côr Meibion Caerffili.
I ddysgu rhagor am brosiect, ewch i: www.playframe.co.uk/playframe/projects
Wedi ei bostio ar 23/09/2025