Skip to main content

Oriau Agor dros Wyliau Banc y Pasg 2026

council-easter-message-WELSH

Bydd y Cyngor, gan gynnwys y Ganolfan Alwadau i Gwsmeriaid AR GAU o ddydd Gwener 3 Ebrill tan 9am fore Mawrth 7 Ebrill, 2026 – mae hyn yn berthnasol i BOB prif wasanaeth heblaw am argyfyngau tu allan i oriau'r swyddfa a rhai gwasanaethau hanfodol. 

Mae tudalen benodol ar gyfer gwasanaethau dros y penwythnos hir ar wefan y Cyngor – mae modd gweld yr wybodaeth lawn yma.

Bydd modd i chi ddefnyddio ystod o wasanaethau ar-lein yn ystod y cyfnod yma, ond rhaid i drigolion gofio efallai na fydd ceisiadau yn cael eu prosesu tan ddydd Mawrth 7 Ebrill 2022 pan fydd swyddfeydd yn ailagor am 9am.

Dyma atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw gysylltu â'r Cyngor gyda mater brys trwy ffonio 01443 425011. Mae'r rhif yma ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos – gan gynnwys Gwyliau Banc.

Wedi ei bostio ar 02/04/2026