Mae'r holl waith bellach wedi'i gwblhau yn rhan o gynllun gwella diogelwch ar y ffyrdd pwysig wrth gyffordd Heol yr Orsaf â Stryd Rhydychen ym Maerdy, gan ymateb i ddamweiniau cerbydau diweddar yn y lleoliad yma.
Mae nifer o wrthdrawiadau traffig ffyrdd wedi digwydd ar y tro sydd i’w weld yn y llun, ac sydd wedi’i leoli ar waelod Mynydd Maerdy gan arwain at Heol Maerdy - gan gynnwys digwyddiad nodedig ym mis Ebrill 2025 pan wnaeth cerbyd wrthdaro ag eiddo preswyl.
Trwy gydweithio â Heddlu De Cymru i ddeall yn well pam mae gwrthdrawiadau un cerbyd wedi parhau i ddigwydd yn y lleoliad yma, dyluniodd swyddogion gynllun gwella diogelwch ar y ffyrdd, gan neilltuo cyllid cyfalaf y Cyngor i gyflawni’r cynllun.
Dechreuodd y gwaith yng nghanol mis Mehefin 2026 ac mae Calibre Contracting Ltd bellach wedi cwblhau’r gwaith. Mae'r cynllun yn cynnwys cyflwyno mesurau i wella diogelwch ar y briffordd a thynnu sylw at y terfyn cyflymder 20mya sydd ar waith yn y lleoliad yma.
Mae'r gwaith wedi cynnwys gosod cyrbau cyfyngu, bolardau adlewyrchol ac arwyddion gwell. Hefyd, mae man croesi heb ei reoli wedi'i osod ac mae'r llinellau melyn dwbl presennol ar hyd Stryd Rhydychen a Heol yr Orsaf wedi'u hymestyn. Mae rhagor o fanylion am y cynllun wedi'u cynnwys yn yr eitem newyddion flaenorol.
Mae'r holl fesurau rheoli traffig dros dro a gafodd eu cyflwyno i gyflawni'r cynllun bellach wedi dod i ben.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 03/08/2026