Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn mynd ati i ddechrau gwaith gwella diogelwch y ffyrdd pwysig mewn lleoliad allweddol ym Maerdy, ger cyffordd Heol yr Orsaf â Stryd Rhydychen – yn rhan o’i ymateb i gyfres o wrthdrawiadau sydd wedi digwydd yn ddiweddar yn yr ardal sydd i’w gweld yn y llun.
Mae nifer o wrthdrawiadau traffig ffyrdd wedi digwydd ar y tro ar waelod Mynydd Maerdy sy'n arwain at Heol Maerdy yn ystod y blynyddoedd diwethaf - gan gynnwys digwyddiad nodedig ym mis Ebrill 2025 lle wnaeth cerbyd gwrthdaro ag eiddo preswyl. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru i ddeall yn well pam mae gwrthdrawiadau un cerbyd o'r fath wedi parhau i ddigwydd yn y lleoliad yma, ac ers hynny mae swyddogion y Cyngor wedi bod yn datblygu cyfres o welliannau diogelwch y ffyrdd cadarnhaol i'w cyflawni.
Bydd y cynllun sydd ar y gweill, sy’n dechrau ddydd Llun, 15 Mehefin, , yn cyflwyno mesurau i wella diogelwch y ffyrdd ac atal modurwyr rhag goryrru yn y parth 20mya yma. Bydd y gwaith yn cynnwys sawl addasiad ffisegol i'r ffordd ar Heol yr Orsaf, a ger ei chyffordd â Stryd Rhydychen. Ymhlith y rhain bydd:
- Cyrbiau cyfyngu ar hyd y lôn ddeheuol ar Heol yr Orsaf, sy'n arwain at Stryd Rhydychen – ac o amgylch ochrau dwyreiniol a gorllewinol y gyffordd.
- Bolardiau adlewyrchol ar hyd Heol yr Orsaf i dynnu sylw at y tro yn well.
- Man croesi heb ei reoli, ag arwyneb botymog, i'r de o Stryd Rhydychen.
- Ymestyn y llinellau melyn dwbl presennol ar hyd Stryd Rhydychen a Heol yr Orsaf i hwyluso'r trefniant newydd ar y briffordd a'r man croesi.
Mae'r mesurau yma'n dilyn yr arwyddion gwell sydd eisoes wedi'u gosod yn y lleoliad – gan gynnwys arwyddion porth a marcwyr cyfrif i lawr ar hyd Heol yr Orsaf, gan wneud y terfyn cyflymder yn glir i fodurwyr. Mae arwydd negeseuon amrywiol hefyd wedi'i osod gyferbyn â chyffordd Heol yr Orsaf/Heol y Stiwt, sy'n dangos y terfyn cyflymder i gerbydau sy’n teithio tua'r de ar gyflymder sy’n uwch na’r terfyn.
Mae’r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gyflawni’r gwaith. Bydd angen goleuadau traffig tair ffordd o 15 Mehefin a byddan nhw'n para tua mis. Mae'r cynllun wedi cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Seilwaith Cyfalaf,: “Ar ôl cyfres o ddigwyddiadau nodedig a difrifol sy’n ymwneud â cherbydau ar Heol yr Orsaf a Stryd Rhydychen ym Maerdy, ymrwymodd y Cyngor i ddeall yn well pam eu bod nhw'n parhau i ddigwydd, a chyflwyno cynllun diogelwch y ffordd cyn gynted â phosibl. Mae'r gwelliannau arfaethedig yma o 15 Mehefin er budd pob defnyddiwr y ffordd a'r gymuned ehangach – yn enwedig cerddwyr a thrigolion sy'n byw ger y tro peryglus.
“Rydyn ni eisoes wedi gwella’r arwyddion yn yr ardal, gan wneud y terfyn cyflymder yn gwbl glir i ddefnyddwyr y ffordd. Bydd y gwaith sydd ar y gweill yn cynnwys gosod cyfres o gyrbiau cyfyngu i leihau cyflymder yn naturiol, ynghyd â mesurau eraill fel bolardiau adlewyrchol, ymestyn y llinellau melyn dwbl presennol, a chyflwyno man croesi newydd. Rydyn ni wedi gweithio’n agos â Heddlu De Cymru wrth ymchwilio i'r digwyddiadau blaenorol er mwyn datblygu’r cynllun yma.
“Hoffwn i ddiolch i drigolion am eu cydweithrediad wrth i’r cynllun gael ei gyflawni yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda chymorth goleuadau traffig dros dro. Mae angen y goleuadau i sicrhau diogelwch y gweithlu a modurwyr tra bod y mesurau'n cael eu gosod.”
Mae modd gweld rhagor o wybodaeth ynglŷn â buddsoddiad y Cyngor i wella'i rwydwaith ffyrdd trwy fynd i dudalennau gwe #TrawsnewidRhCT ar gyfer Priffyrdd a Pheirianneg.
Wedi ei bostio ar 10/06/2026