Skip to main content

Mae campfa a stiwdio droelli newydd sbon Canolfan Chwaraeon Abercynon Wedi Ailagor Yn Swyddogol

RCT_Abercynon_Sports_Centre-7713

Mae campfa a stiwdio droelli newydd sbon Canolfan Chwaraeon Abercynon wedi ailagor yn swyddogol, gan nodi cwblhau cynllun buddsoddi Trawsnewid RhCT gwerth £300,000 yn y cyfleuster poblogaidd.

Ymwelodd y Cynghorydd Scott Emmanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Hamdden am Oes, â'r gampfa a'r stiwdio droelli anhygoel i'w gweld ar eu newydd wedd.

Rhannodd cwsmeriaid eu barn ar yr hyn roedden nhw am ei weld yno, ac o fewn ychydig wythnosau mae'r hen gampfa wedi'i thrawsnewid yn fan llachar, modern gydag offer ffitrwydd newydd sbon, a hynny diolch i ymrwymiad staff Canolfan Chwaraeon Abercynon a'r contractwyr a gydweithiodd â nhw.

Mae hyn yn cynnwys fersiynau diweddaraf hen ffefrynnau fel peiriannau trawsymarfer, melinau traed, beiciau a pheiriannau rhwyfo, ynghyd â pheiriant Smith newydd ac ardal pwysau rhydd fwy. Mae mwy o beiriannau ymwrthedd nac erioed o'r blaen, ac mae golwg newydd ar synrgy.

Yn y cyfamser, mae hen stiwdio ffitrwydd wedi'i thrawsnewid yn stiwdio droelli, gyda goleuadau sy’n creu awyrgylch i ymgolli ynddo a graffeg fodern, ynghyd â 25 o feiciau newydd o'r radd flaenaf. Mae'r amserlen dosbarthiadau troelli hefyd wedi'i hymestyn fel bod modd i hyd yn oed fwy o bobl fwynhau hyd yn oed fwy o ddosbarthiadau.

Ar nodyn pwysig, cafodd yr holl waith ei gynnal ar y cyd â Charfan Cydraddoldeb a Rhwydwaith i Staff Anabl Cyngor Rhondda Cynon Taf er mwyn sicrhau bod y gampfa yn adlewyrchu anghenion amrywiaeth o gwsmeriaid. Mae'r rhain yn cynnwys lifft newydd ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, ffynnon ddŵr hygyrch ac offer y mae modd ei addasu.

Cafodd y gampfa a'r stiwdio droelli newydd eu datgelu i gwsmeriaid yn ystod achlysur carped coch ac mae'r Cynghorydd Scott Emmanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Hamdden am Oes, bellach wedi ymweld â'r ganolfan a'i hagor yn swyddogol.

Meddai:  “Am gynnig sydd yma yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon! Mae'r gampfa ar ei newydd wedd yn enfawr, wedi'i dylunio'n fodern a chyda ystod wych o'r offer diweddaraf i gwsmeriaid ei fwynhau, waeth beth fo’u nodau o ran eu lles, na sut maen nhw'n mynd ati i hyfforddi.

“Mae’n wych clywed bod yr offer yn y gampfa wedi’i ddewis yn seiliedig ar adborth cwsmeriaid.  Roedd modd i bobl rannu eu barn ar yr offer a oedd yno eisoes a oedd angen cael ei uwchraddio, lle'r oedd angen ychwanegu rhagor o beiriannau i ymdopi â’r galw a pha offer newydd roedden nhw am ei weld.

“Yn y gampfa brysur, fywiog yma mae ystod enfawr o offer; pob darn yn newydd sbon a’r fersiwn ddiweddaraf ohono, ac mae modd i bobl o bob oed, diddordeb a gallu ei fwynhau.

“Roedd yn galonogol gweld y berthynas agos a chefnogol sydd gyda'r staff â’u cwsmeriaid. Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn hynod wybodus ac eisiau sicrhau bod pawb yn cael y gorau o'u hymarfer corff.

“Os dydych chi erioed wedi ymweld â champfa o’r blaen, maen nhw wrth law i’ch tywys o gwmpas y lle, dangos i chi sut mae popeth yn gweithio ac, yn bwysicach fyth, eich helpu i ddod o hyd i gynllun ymarfer sy’n cyd-fynd â'ch nodau.

“Hefyd, mae’r ystafell droelli newydd yn hynod boblogaidd eisoes, gyda beiciau newydd, mwy o feiciau ac amserlen estynedig.

“Ynghyd â’r amserlen dosbarthiadau ffitrwydd bresennol, chwaraeon dan do a nofio i bawb o bob oed, mae rhywbeth i bawb yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon. Galwch heibio, dewch i gwrdd â'r staff a gweld y cyfleusterau. Cewch chi'ch sesiwn gyntaf yn y gampfa yn rhad ac am ddim!"

Mae gyda gwasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf 12 canolfan neu bwll nofio ledled y fwrdeistref sirol.

Mae bod yn aelod yn golygu bod modd cael mynediad diderfyn i’r gampfa, y pwll nofio (gan gynnwys gwersi a dosbarthiadau), dosbarthiadau ffitrwydd, cyfleusterau chwaraeon dan do fel sboncen a badminton ac ystafelloedd iechyd (lle maen nhw ar gael) ym mhob un o'r 12 canolfan.

Mae modd i ddeiliad Cerdyn Golau Glas ac aelodau o gymuned ein Lluoedd Arfog (sy'n gwasanaethu ac sydd wedi ymddeol) a'u teuluoedd gael aelodaeth am bris rhatach a thalu'n unigol fesul tro.

Dysgwch ragor am ostyngiadau Golau Glas yma

Dysgwch ragor am ostyngiadau i'r Lluoedd Arfog yma.

Mae aelodaeth ratach yn cael ei chynnig i'r rheiny sy'n 60 oed a hŷn, 18 oed ac iau, myfyrwyr llawn amser, cynhalwyr, a phobl sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Dyma ragor o wybodaeth.

Mae Aelodaeth Gorfforaethol ar gael hefyd yn rhan o'r cynllun Hamdden am Oes. Mae hyn yn cynnig cyfraddau rhatach i'r rheiny sy'n gweithio i bartneriaid corfforaethol, neu sy'n aelodau ohonyn nhw. Dysgwch ragor a gweld y rhestr yma:

Mae'r Aelodaeth Gorfforaethol wedi'i hymestyn yn ddiweddar i gynnwys canol trefi Pontypridd a Llantrisant, sy'n golygu bod unrhyw un sy'n gweithio yn yr ardaloedd hynny – gan gynnwys y rhai sy'n hunangyflogedig gan fusnesau sydd wedi'u cofrestru yn un o'r ddwy dref – hefyd yn elwa ar y cynllun.

Wedi ei bostio ar 02/02/2026