Skip to main content

Arweinydd y Cyngor i roi'r gorau iddi ar ôl arwain Cyngor RhCT am 12 mlynedd

Leader - Copy

Mae'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE wedi ailgadarnhau ei benderfyniad i beidio â chynnig ei enw i ail-sefyll yn 2027. Oherwydd hynny, bydd y Cynghorydd Morgan yn rhoi'r gorau i fod yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf cyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor ym mis Mai.

Y Cynghorydd Morgan, sydd hefyd yn arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru,  yw’r Arweinydd llywodraeth leol sydd wedi gwasanaethu hiraf, gan arwain Cyngor Rhondda Cynon Taf dros y 12 mlynedd diwethaf.

Mae Andrew Morgan yn gwneud y cyhoeddiad hwn ar yr un pryd ag y mae'r Cyngor Llawn yn ystyried Asesiad Cyflawniad Panel yr awdurdodau lleol, sy'n canmol y Cyngor o fod yn un da, uchelgeisiol sy'n cael ei redeg yn dda, ac sy'n canolbwyntio ar wella bywydau ei ddinasyddion.

Wrth siarad cyn ei gyhoeddiad ffurfiol i'r Cyngor Llawn, meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE: “Mae wedi bod yn fraint arwain Cyngor Rhondda Cynon Taf dros y ddeuddeg mlynedd diwethaf a chynrychioli fy nghymuned yn Aberpennar am y ddwy flynedd ar hugain diwethaf.

“Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle rwy wedi'i gael yn ystod y cyfnod hwn, i helpu i lunio a thrawsnewid Rhondda Cynon Taf dros y cyfnod hwn. Er na fyddwn i'n newid unrhyw un o'r cyfleoedd hynny yn ystod y cyfnod hwn, gan wella gwasanaethau a gwireddu buddsoddiad gweladwy ar draws y Fwrdeistref Sirol, penderfynais yn ôl yn etholiad 2022 mai dyma fyddai fy etholiadau lleol olaf, a'i bod hi'n bryd chwilio am heriau newydd.

“Gan nad ydw i’n sefyll yr etholiad yn 2027 ac i roi cyfle i gydweithwyr yn fy mhlaid ddewis Arweinydd newydd i arwain y Cyngor i’r dyfodol, bydda i'n rhoi'r gorau i fod yn Arweinydd y Cyngor yn y misoedd nesaf. Roedd fy mwriad i gamu o'r neilltu yn rhan o'r rhesymeg dros ddod ag aelodau newydd i'r Cabinet yr hydref diwethaf, i ddod ag aelodau newydd i'r Cabinet, i ennill profiad o'r cyfrifoldebau a'r atebolrwydd sy'n dod o wasanaethu yn y Cabinet.

“Yr un peth rwy’n fwyaf diolchgar amdano yn ystod fy amser fel Cynghorydd yw ein staff. Rwyf am gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi gweithio ac sy'n parhau i weithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf.

“A minnau’n rhywun a ddechreuodd ei yrfa fel prentis llywodraeth leol, rwy’n cydnabod pwysigrwydd y cyfleoedd cyflogaeth lleol y mae’r Cyngor yn eu darparu. Ni yw'r cyflogwr mwyaf yn lleol, a dyna pam rydw i, yn ystod fy nghyfnod fel Arweinydd, wedi buddsoddi mewn creu bron i 400 o brentisiaethau a thros 150 o swyddi i raddedigion, er mwyn sicrhau ein bod ni'n meithrin ac yn tyfu ein talent lleol.

“Dim ond trwy ymdrechion ac ymroddiad ein staff y mae fy nghydweithwyr a minnau wedi gallu ymdopi â’r heriau digynsail rydyn ni wedi’u hwynebu yn ystod fy nghyfnod fel Arweinydd - degawd o gyni yn y sector cyhoeddus, pandemig covid ac effaith tywydd garw yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

“Er gwaetha’r heriau hyn rydyn ni wedi parhau i drawsnewid a gwella darpariaeth gwasanaethau rheng flaen a thrawsnewid y Fwrdeistref Sirol drwy’r rhaglen buddsoddi cyfalaf fwyaf yng Nghymru, o filiwn o bunnoedd mewn Ysgolion yr 21 ain Ganrif newydd i gyfleusterau gofal preswyl newydd i ddiwallu anghenion y genhedlaeth nesaf o bobl hŷn.

“Yr edau aur sydd wedi bodoli yn ystod fy nghyfnod fel Arweinydd, ac Arweinwyr blaenorol y ces i'r fraint o wasanaethu yn swyddi Cabinet pob un ohonyn nhw, yw pwysigrwydd trefniadau rheoli ariannol cadarn. Mae'r dull yma wedi sicrhau bod Rhondda Cynon Taf mewn sefyllfa dda i ymateb ac addasu i heriau, buddsoddi mewn meysydd fel Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan sicrhau bob amser y gallwn ni ddarparu'r gwasanaethau rheng flaen y mae trigolion yn dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd yn effeithiol. Dylai pwysigrwydd y dull hwn barhau i fod yn flaenoriaeth i'm holynydd a gweinyddiaethau'r dyfodol bob amser.

“Hoffwn gofnodi fy niolch i’m cyd-Gynghorwyr, am y gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i mi yn ystod fy nghyfnod yn Arweinydd dros y degawd. Mae wedi bod yn bleser a braint go iawn.”

Etholwyd y Cynghorydd Andrew Morgan i Gyngor Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf yn 2004, ar ôl gweithio cyn hynny i adran dai'r Cyngor. Daeth y Cynghorydd Morgan yn aelod o'r Cabinet yn 2008 ac yn Arweinydd y Cyngor yn 2014.

Dyfarnwyd yr OBE i'r Cynghorydd Andrew Morgan yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines ym mis Mehefin 2022 am ei wasanaeth cyhoeddus. Mae’r anrhydedd yn dilyn ei arweinyddiaeth gref o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn ystod ei gyfnod yn Arweinydd y Cyngor, ond mae'r anrhydedd yn fwyaf penodol, i gydnabod ei arweinyddiaeth yn ystod y llifogydd difrifol yn 2020, a effeithiodd ar dros 1,500 o adeiladau, cartrefi a busnesau ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Yn dilyn hynny, roedd pandemig byd-eang Covid-19 a laddodd llawer o drigolion, ac effeithio ar bawb. Drwy gydol yr argyfwng cenedlaethol, roedd y Cynghorydd Morgan wrth y llyw yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, gan hefyd weithio gydag awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru ac yntau'n Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.   

Yntau wedi'i eni a'i fagu yn Aberpennar, mynychodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE Ysgol Gynradd y Darren-las, Ysgol Gyfun Isaf Bryngolwg ac Ysgol Gyfun Aberpennar cyn dod yn Brentis yn adran dai Cyngor Bwrdeistref Cwm Cynon, cyn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn nes ymlaen.  

Bydd Grŵp mwyafrifol y Cyngor yn dechrau'r broses o ddewis Arweinydd Grŵp newydd yn fuan. Mater i'r Cyngor Llawn yw ethol Arweinydd Cyngor newydd.

Wedi ei bostio ar 28/01/2026