Mae Gwobr y Faner Werdd, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol, wedi ei dyfarnu i BEDWAR parc cyhoeddus prydferth yn Rhondda Cynon Taf unwaith yn rhagor.
Bydd pob un ohonyn nhw’n chwifio Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus gyda balchder, ar ôl bodloni'r safonau uchaf posibl o ran yr amgylchedd, cynnal a chadw a chyfleusterau i ymwelwyr.
Mae Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, Parc Aberdâr, Parc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr a Pharc Ffynnon Taf i gyd wedi cipio Gwobr y Faner Werdd 2026 – ac mae pob un wedi cael y fraint yna flwyddyn ar ôl blwyddyn am hyd at 12 mlynedd!
Mae llwyddiant y parciau yn y seremoni wobrwyo yn dyst i waith caled ac ymrwymiad llawer iawn o staff Cyngor Rhondda Cynon Taf sy'n gweithio drwy gydol y flwyddyn, ym mhob tywydd, i sicrhau bod y mannau agored ar gael i bawb.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o allu cynnig mannau gwyrdd a pharciau sydd wedi'u cynnal a'u cadw mor brydferth, a byddwn ni'n parhau i gynnal y safonau yma.
Mae diolch a llongyfarchiadau hefyd yn ddyledus i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol o'r un meddylfryd a gipiodd statws y Faner Werdd ar gyfer y mannau maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. At ei gilydd, cafodd y Faner Werdd ei dyfarnu i 21 o barciau a mannau agored yn Rhondda Cynon Taf yn 2026.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Unwaith eto mae mannau agored prydferth Rhondda Cynon Taf wedi blodeuo yng Ngwobrau Baner Werdd Cadwch Gymru'n Daclus 2026.
“Mae ein llwyddiant parhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, wrth gyrraedd y safon fyd-eang yma'n dyst i’r ymrwymiad rydyn ni wedi’i wneud i’n cymunedau i sicrhau bod parciau a mannau agored yn ddiogel, yn gynaliadwy ac yn cynnig y profiad gorau posibl i ymwelwyr.
“Dyma ein dyhead ar gyfer pob un o’r 100 o barciau a’r 215 o ardaloedd chwarae rydyn ni’n eu rheoli ledled y fwrdeistref sirol, nid dim ond y pedwar sydd wedi cipio statws y Faner Werdd.
“Rydyn ni'n cydnabod pa mor bwysig yw hi i bobl o bob oed allu manteisio ar fannau agored o safon, lleoedd lle maen nhw'n gallu cerdded, ymlacio, chwarae, mwynhau chwaraeon a’u hamser hamdden.
“Mae rhaid rhoi clod a diolch enfawr i staff y Cyngor sy’n gweithio ym mhob tywydd i gynnal a diogelu ein parciau a’n mannau agored – o blannu a chynnal gwelyau blodau a phlanhigion a gosod ffensys a llwybrau newydd i gasglu sbwriel, atgyweirio mannau chwarae a chadw ystafelloedd newid mewn cyflwr da.
“Da iawn i’r holl sefydliadau cymunedol a weithiodd mor galed i gipio statws y Faner Werdd ar gyfer y mannau maen nhw’n eu rheoli – rhyngom ni rydyn ni wedi darparu amrywiaeth o barciau a mannau agored eithriadol i bawb eu mwynhau.”
Y parciau cyhoeddus sydd wedi cipio statws y Faner Werdd yn 2026 yw:
Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd: Perl o barc yng nghalon hanesyddol Pontypridd a chartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Mae hefyd yn ymfalchïo mewn erwau o fannau agored, safle seindorf sy'n dathlu ei ganmlwyddiant eleni a gardd isel "gudd". Gyda maes chwarae antur Lido Play yn ogystal â chyrtiau chwaraeon, mae'n cynnig rhywbeth i bawb. Mae Canolfan Calon Taf yn y parc yn brysur a chroesawgar, gan gynnig amrywiaeth o sesiynau gwirfoddoli a chymunedol, achlysuron, dosbarthiadau a mwy.
Parc Aberdâr, Aberdâr: Mae gan y parc Fictoraidd hardd yma ardal chwarae a gafodd ei hadnewyddu'n ddiweddar gyda pharth synhwyraidd i blant bach ac offer ffitrwydd awyr agored i blant hŷn, ynghyd â llyn cychod gyda chychod pedlo siâp elyrch a dreigiau, caffi, cyrtiau tennis a mwy. Cafodd yr eisteddfod fodern gyntaf ei chynnal yn y parc yn 1861 ac mae modd gweld cylch cerrig yr Orsedd yma. Yn y parc hefyd mae ffynnon drawiadol sy'n dathlu Coroni Brenin Siôr V - un o ddim ond dwy yn y byd. Mae'r llall y tu allan i westy Raffles yn Singapore.
Parc Ffynnon Taf, Ffynnon Taf: Mae gan y parc tawel a hamddenol yma diroedd wedi'u tocio'n ofalus, ardal chwarae, cwrt tennis, lawnt fowlio a chyfleusterau chwaraeon eraill. Mae hefyd yn gartref i'r unig ffynnon thermol yng Nghymru.
Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr: Mae gan y man agored enfawr yma gannoedd o fannau agored i'w canfod trwy lwybrau cerdded, teithiau cerdded ar lan y llyn a chyfleoedd i ddringo i gopa'r mynydd, ynghyd â maes chwarae antur, caffi, llety ar y safle a pharc carafanau.
Hefyd, mae gan y parc ei lwybrau beicio mynydd pwrpasol ei hun a thraciau 'Lan a Lawr' ym Mharc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd, yn ogystal â Physgodfa Frithyll Cwm Dâr, cyfleoedd ar gyfer ffitrwydd awyr agored ac achlysuron lles. Rhagor o wybodaeth yma:
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn cynnal Gwobrau'r Faner Werdd bob blwyddyn ac mae beirniaid annibynnol yn ymweld â phob safle i ddyfarnu marciau yn erbyn meini prawf llym ar sail themâu megis bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth yr amgylchedd, diogelwch, rhan y gymuned yn y safle, a phrofiad ymwelwyr.
Mae modd i'r parciau sy'n cipio'r wobr chwifio'r Faner Werdd gyda balchder, sef arwydd rhyngwladol o'r safonau maen nhw wedi'u bodloni.
Yn ogystal â phedwar parc y Cyngor, cipiodd y mannau agored isod Wobrau’r Faner Werdd hefyd:
- Grŵp Coetir Cymunedol Cwmaman
- A Time to Grow, Treherbert
- Coed Pont Nant Saerbren ('Pixie Bridge'), Treherbert
- Perllan Penyrenglyn
- Gardd Penyrenglen
- Tŷ Mynydd
- Gardd Cymdeithas Cymuned y Gilfach-goch
- Gardd Dawel Capel Blaen y Cwm
- Gardd Gymunedol Rhandir Brynna
- Parc Gwledig Cwm Clydach
- Canolfan Awyr Agored Daerwynno
- Eithin
- Pwll Butchers
- Pwll Gerddi Lee
- Canolfan Groeso Penrhiwceiber
- Gardd Gymunedol a Choetir Stryd y Ddôl
- Eglwys Santes Winifred Penrhiwceiber
Dysgwch ragor am Wobrau’r Faner Werdd yma.
Wedi ei bostio ar 14/07/2026