Mae angen rhagor o bobl sy'n gallu gofalu yn rhan-amser ar gyfer ein plant ledled Rhondda Cynon Taf.
Mae nifer o bobl yn cyfrannu at fagwraeth plentyn, ac rydyn ni'n cydnabod bod gyda phob un ohonyn nhw ran i'w chwarae wrth lywio dyfodol ein plant. Mae angen oedolion diogel a chariadus ar blant sydd mewn gofal, a'r rheiny sy'n wynebu'r risg o fod mewn gofal, i chwarae eu rhan o ran cefnogi eu plentyndod a dylanwadu ar eu dyfodol.
Dyw bod yn rhiant maeth ddim bob amser yn golygu cefnogi plentyn yn llawn amser neu'n hirdymor. Weithiau mae angen amgylchedd meithringar ar ein plant a'n teuluoedd ar gyfer seibiannau byr, arosiadau dros nos a sefyllfaoedd brys.
Rydyn ni'n cydnabod bod gyda ni bobl yn ein cymunedau sydd â'r sgiliau a'r rhinweddau i newid bywydau plant ond efallai na fyddan nhw bob amser yn gallu ymrwymo i blentyn yn llawn amser. Drwy wella ein pecyn cymorth ariannol ar gyfer 'Rhieni Maeth Cymorth' yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n gobeithio annog rhagor o bobl ledled Rhondda Cynon Taf i gynnig y profiadau a'r sgiliau y gallai fod eu hangen ar ein plant a'n teuluoedd.
Mae ein gwasanaeth gofal cymorth yn golygu bod modd i bobl faethu ar sail hyblyg ac yn rhoi cyfle i deuluoedd gael cymorth ychwanegol gan riant maeth pan fydd ei angen arnyn nhw.
Mae hyn yn cynnwys cymorth i deuluoedd yn y gymuned sydd â phlant sy'n wynebu'r risg o fod mewn gofal, plant y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw oherwydd cyflyrau cyfyngol a chynnal sefydlogrwydd mewn teuluoedd sy’n maethu, teuluoedd â rhieni maeth sy’n berthnasau a theuluoedd sy’n mabwysiadu.
Efallai y bydd disgwyl i riant maeth cymorth helpu gyda’r canlynol:
- Helpu rhieni maeth eraill i fynychu hyfforddiant neu achlysuron eraill sydd wedi'u cynllunio
- Sefyllfaoedd brys megis argyfyngau meddygol
- Gweithio ochr yn ochr â theuluoedd maeth neu fabwysiadol llawn amser i gynnig seibiannau rheolaidd a dod yn rhan o'u cylch cymorth ehangach
- Helpu teuluoedd yn ein cymunedau lle mae gan blant anableddau ac anghenion ychwanegol er mwyn i'r plentyn a'i deulu elwa ar benwythnosau rheolaidd o gymorth
- Helpu teuluoedd mewn achosion lle gallai plant fod yn wynebu'r risg o fod mewn gofal, gan gynnig seibiant a chymorth emosiynol
Gobaith y fenter yw cynyddu sefydlogrwydd i blant mewn nifer o deuluoedd gwahanol, darparu nifer o oedolion gwahanol y mae modd i blant deimlo'n ddiogel yn eu cwmni, a dysgu ganddyn nhw, ac annog ystod ehangach o bobl i gynnig rhannu eu cymorth a'u cariad at blant ein cymunedau.
Meddai Shan a Steff Roberts, rhieni maeth Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf: "Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rydyn ni wedi gallu darparu llawer o gymorth i deuluoedd maeth eraill ledled Rhondda Cynon Taf ac mae wedi bod yn hyfryd cwrdd â'r plant a'r rhieni maeth a meithrin perthynas â nhw. Rydyn ni'n falch o allu bod yn rhan o gylch cymorth ehangach i bawb. Mae gyda ni 2 o blant biolegol sy'n 41 a 40 oed. Mae ein plentyn ieuengaf a'i wraig wedi bod yn maethu ers 7 mlynedd, ac roedden ni wedi chwarae rhan fawr yn hynny. Rydyn ni'n darparu seibiannau byr rheolaidd, o 1 noson hyd at 2 wythnos, i'r un plant ond hefyd yn ôl yr angen. Mae llawer o blant yn gofyn am ddod yn ôl atom ni. Rydyn ni wedi darparu gofal brys hefyd".
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Mae gofal cymorth yn golygu bod modd i bobl faethu ar sail hyblyg tymor byr ac mae’n rhoi cyfle i deuluoedd maeth gael cymorth ychwanegol gan riant maeth pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i deuluoedd yn ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf sydd â phlant sy'n wynebu risg o fod mewn gofal, plant y mae angen cymorth arnyn nhw oherwydd eu hanableddau a chefnogi sefydlogrwydd mewn teuluoedd sy'n maethu. Efallai y bydd angen rhywun ar deuluoedd sy’n maethu i gamu i mewn a gofalu am eu plant maeth pan fydd angen iddyn nhw fynd i angladd, mynychu hyfforddiant, mynd ar deithiau gwaith neu wyliau wedi'u cynllunio ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf a fyddai wrth eu boddau’n eu helpu."
Meddai Annabell Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant : "Yma yn Rhondda Cynon Taf, byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu teuluoedd maeth sy'n rhoi cymaint, ddydd ar ôl dydd. Mae ein rhieni maeth yn darparu gofal a sefydlogrwydd rhyfeddol i blant a phobl ifainc, ac i lawer, gall cael cymorth ychwanegol wneud gwahaniaeth go iawn wrth gynnal y rôl hanfodol maen nhw'n ei chyflawni, rôl sy'n newid bywydau. Mae dod yn rhiant maeth cymorth yn ddelfrydol i bobl sydd eisiau maethu ond efallai sydd ddim yn gallu ymrwymo'n llawn amser, efallai oherwydd eu bod yn gweithio neu fod ganddyn nhw gyfrifoldebau gofalu eu hunain. Drwy ddod yn rhiant maeth cymorth, mae modd i chi chwarae rhan hanfodol yn y garfan o amgylch y plentyn, gan ddarparu cymorth gwerthfawr i deuluoedd maeth mewn ffordd sy'n cyd-fynd â'ch bywyd fel y mae nawr."
Ydy hyn yn rhywbeth gallech chi ei wneud? Fyddech chi'n gallu gofalu am blant neu grŵp o frodyr a chwiorydd am benwythnos y mis, neu fod yn barod i ddarparu cartref i blentyn am ddiwrnod neu wythnos pan fo angen? Fyddech chi'n gallu darparu'r ymrwymiad ochr yn ochr â’ch gwaith o ddydd i ddydd? Os felly, byddai staff Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf wrth eu boddau yn clywed gennych chi i drafod yr opsiynau a'r broses gyda chi.
I ddysgu rhagor, ewch i www.rhct.maethucymru.llyw.cymru neu dewch i gwrdd â ni yma ym mis Hydref:
Ffair Swyddi Rhondda Cynon Taf, Llys Cadwyn, Pontypridd, ddydd Iau 15 Hydref rhwng 10am a 2pm.
Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Tonysguboriau, ddydd Mercher 21 Hydref rhwng 9.30am a 12.30pm.
Diwrnod Hwyl i'r Teulu, Canolfan Hamdden Llantrisant, ddydd Iau 29 Hydref rhwng 10am a 2pm.
Calan Gaeaf yn y Bathdy Brenhinol, Llantrisant, ddydd Sadwrn 31 Hydref rhwng 10am a 3pm.
Wedi ei bostio ar 01/10/2026