Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o longyfarch Valley Veterans ar dderbyn Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn – y wobr uchaf yn y cynllun.
Mae Valley Veterans yn un o wyth cyflogwr o Gymru a enwyd ymhlith 162 o sefydliadau ledled y DU i dderbyn Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn eleni. Mae'r wobr yn cydnabod sefydliadau sy'n dangos cefnogaeth eithriadol a pharhaus i gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, teuluoedd milwrol, gwirfoddolwyr y lluoedd cadet sy'n oedolion a'r rhai sy'n trosglwyddo o fywyd yn y lluoedd arfog i fywyd sifil.
Mae Valley Veterans, a gafodd ei sefydlu dros 25 mlynedd yn ôl gan Paul Bromwell MBE, cyn-filwr a chyn-aelod o'r Gwarchodlu Cymreig a fu'n gwasanaethau yn ystod Rhyfel y Falklands, wedi tyfu o fod yn fenter sy'n ariannu ei hun i fod yn rhwydwaith cymorth hanfodol i gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf. Gan dynnu ar ei brofiadau personol o anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD) a'i hyfforddiant i fod yn fentor cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr, sefydlodd Paul y grŵp i gynnig amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol lle mae cyn-filwyr yn gallu cael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwmnïaeth gan gyfoedion a chymorth ymarferol.
Am flynyddoedd lawer, cefnogodd Paul a'i wraig, Sian, y grŵp yn bersonol, gan helpu i osod sylfeini'r hyn sydd wedi dod yn ffynhonnell gymorth mor werthfawr i gyn-filwyr a'u teuluoedd. Heddiw, mae Valley Veterans yn cefnogi mwy na 140 o gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnig mynediad at gymorth lles, eiriolaeth ym maes cyflogaeth, cyngor ar dai a chyfleoedd ar gyfer cymorth gan gymheiriaid.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys man naturiol pwrpasol ar gyfer therapi garddwriaethol, stablau ceffylau ar gyfer therapi sy'n ymwneud â cheffylau, a sesiynau brecwast wythnosol yn eu canolfan yng Nghanolfan Gymunedol Ton Pentre, lle mae mwy na 60 o gyn-filwyr yn dod at ei gilydd bob dydd Iau i gael pryd poeth, cwmnïaeth a chymorth ymarferol.
Mae Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn cyfnod rhyfeddol o gydnabyddiaeth i Valley Veterans a'i sylfaenydd. Y llynedd, cyflwynwyd MBE i Paul Bromwell yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin am ei wasanaethau eithriadol i'r Lluoedd Arfog lleol a chymunedau cyn-filwyr, tra cafodd Valley Veterans eu hanrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol – y wobr uchaf posibl i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU.
Meddai Paul Bromwell MBE, sylfaenydd Valley Veterans: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Valley Veterans wedi derbyn Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae'r gydnabyddiaeth yma'n golygu cymaint i bawb sy'n ymwneud â'r grŵp ac yn adlewyrchu ymrwymiad ein gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr, cefnogwyr a phartneriaid sy'n gweithio mor galed i gefnogi cyn-filwyr a'u teuluoedd.
“Mae Valley Veterans wastad wedi canolbwyntio ar sicrhau bod y rhai sydd wedi gwasanaethu yn gwybod eu bod nhw ddim ar eu pennau eu hunain. Boed hynny drwy gynnig paned o de neu bryd poeth, cefnogaeth gan gymheiriaid, cyngor neu ddim ond cael rhywle diogel i fynd iddo, rydyn ni'n falch o barhau i gefnogi cyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf.”
Mae'r fideo canlynol, gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA), yn esbonio sut mae therapi ceffylau wrth galon gwaith Valley Veterans a Paul Bromwell:
I gael rhagor o wybodaeth am Valley Veterans, ewch i: HOME | Valley Veterans
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: Ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf ac fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, hoffwn estyn fy llongyfarchiadau gwresog i Paul, Sian a phawb yn Valley Veterans ar dderbyn Gwobr Aur fawreddog Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn.
“Mae hwn yn gyflawniad sy'n wirioneddol haeddiannol, ac yn gydnabyddiaeth bellach o’r cyfraniad rhagorol y mae Valley Veterans yn parhau i’w wneud i’n cymuned Lluoedd Arfog. Mae'r grŵp yma wedi dod yn achubiaeth i lawer o gyn-filwyr, gan ddarparu cyfeillgarwch, cymorth ymarferol ac ymdeimlad o berthyn i'r rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad.
"Fel Cyngor, rydyn ni'n hynod falch o gefnogi sefydliadau fel Valley Veterans. Mae eu gwaith yn adlewyrchu gwerthoedd Cytundeb y Lluoedd Arfog ac yn helpu i sicrhau bod cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael y parch, y gofal a’r cymorth y maen nhw'n eu haeddu.
"Mae’r wobr ddiweddaraf yn dyst i’r ymroddiad, y tosturi a’r ymrwymiad hirdymor sy'n cael eu dangos gan Valley Veterans. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld eu gwaith yn cael ei gydnabod ar y lefel uchaf."
Mae Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, sydd bellach yn ei ddeuddegfed flwyddyn, yn parhau i ddathlu cyflogwyr a sefydliadau o bob maint a sector sy'n cydnabod y sgiliau, y profiad a'r gwerthoedd y mae aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn eu cyfrannu i'r gweithle ac i gymdeithas yn ehangach.
Er mwyn cyrraedd statws y Wobr Aur, rhaid i gyflogwyr ddangos cefnogaeth ragweithiol a hirdymor i gymuned y Lluoedd Arfog – gan gynnwys polisïau Adnoddau Dynol sy'n cefnogi'r lluoedd arfog, o leiaf 10 diwrnod o absenoldeb â thâl ychwanegol i staff sy'n aelodau o'r lluoedd wrth gefn, hyrwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog a chefnogi'r Adran Amddiffyn yn weithredol, ac ymrwymiad cyffredinol sy'n mynd y tu hwnt i ofynion sylfaenol y cynllun. Manylion yma: Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn – GOV.UK
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i fwy na 7,500 o gyn-filwyr y Lluoedd Arfog. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, gan ailddatgan ei ymrwymiad yn 2018 – mae hyn yn symbol o barch cyffredin rhwng cymunedau bywyd sifil a'r Lluoedd Arfog.
Yn gydnabyddiaeth o'i gefnogaeth, derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2017. Cadwyd yr anrhydedd yma ym mis Hydref 2022 ar ôl i'r Cyngor gyflwyno’r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer cyn-filwyr a milwyr wrth gefn ym mis Ionawr 2022.
Mae Llinell Gyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth cyfrinachol am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 01443 425 020 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar-lein i gael cymorth: Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas ag ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 29/09/2026