Skip to main content

Cefnogi Pobl Hŷn i Fyw a Heneiddio'n Dda

Mae trigolion hŷn yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i ddysgu rhagor am y gweithgareddau, y gwasanaethau a'r rhwydweithiau cymunedol sydd ar gael yn lleol wrth i'r Cyngor nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ddydd Iau, 1 Hydref.

Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, sy'n cael ei ddathlu ledled y byd bob blwyddyn, yn cydnabod y cyfraniad pwysig y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas, gan godi ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n gallu dod gyda phoblogaeth sy'n heneiddio.

Mae thema’r DU eleni, Beth Sydd ar Eich Stepen Drws?, yn annog pobl i feddwl am y perthnasoedd, y gweithgareddau, y lleoedd a’r gwasanaethau sydd ar gael yn eu cymunedau. Mae hefyd yn dathlu'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud fel gwirfoddolwyr, cynhalwyr, gweithwyr, cymdogion ac aelodau o grwpiau cymunedol lleol.

Drwy raglen Cymunedau o Blaid Pobl Hŷn yn Rhondda Cynon Taf, mae'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â thrigolion hŷn, sefydliadau cymunedol a phartneriaid i helpu i wneud y Fwrdeistref Sirol yn lle lle mae pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u parchu wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.

Mae'r gwaith yma'n cael ei gefnogi gan rwydweithiau cymunedol sefydledig, gan gynnwys Fforymau 50+, Rhwydweithiau Cymdogaeth, y Grŵp Cynghori Pobl Hŷn a Grŵp Llywio Cymorth Cymunedol RhCT. Mae'r rhwydweithiau yma'n helpu trigolion hŷn i rannu eu profiadau, dylanwadu ar weithgarwch lleol a nodi'r hyn sydd bwysicaf i bobl yn eu cymunedau.

Mae Cydlynydd Pobl Hŷn y Cyngor, sydd wedi'i ariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru, yn chwarae rhan bwysig wrth ddod â'r gwaith yma at ei gilydd drwy gefnogi datblygiad gweithgareddau o blaid pobl hŷn a sicrhau bod profiadau a barn trigolion hŷn yn helpu i lunio gwaith lleol.

Mae enghreifftiau o'r gefnogaeth a'r gweithgareddau ehangach sydd ar gael yn cynnwys:

  • Fforwm i Bobl Hŷn: Mae pum fforwm ledled Rhondda Cynon Taf yn cynnig cyfleoedd i drigolion hŷn gwrdd ag eraill, gwneud ffrindiau newydd, cael eu lleisiau wedi'u clywed a helpu i lunio gwasanaethau a gweithgareddau lleol. Mae'r fforymau'n croesawu aelodau newydd ac yn trefnu gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.
  • Cymorth Dementia: Mae Canolfannau Dementia ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i ddarparu cymorth a gwybodaeth werthfawr i bobl hŷn, teuluoedd a'u cynhalwyr.
  • Ymwybyddiaeth a Gwybodaeth: Trefnodd Cylch Trafod Cwm Rhondda Uchaf i Heddlu De Cymru gynnal sesiwn ymwybyddiaeth o sgamiau, gan helpu pobl hŷn i adnabod twyll ac aros yn ddiogel ar-lein.
  • Men’s Sheds: Mae canolfannau 'Men’s Sheds' yn cynnig mannau croesawgar lle mae modd i bobl gwrdd ag eraill, rhannu sgiliau a diddordebau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol.
  • Iechyd a Lles: Mae gweithio mewn partneriaeth wedi galluogi aelodau'r fforwm i gael mynediad at wybodaeth a chymorth pwysig sy'n ymwneud ag iechyd. Rhoddodd ymweliad gan Garfan Gwella Lles WISE Cwm Taf Morgannwg wybodaeth i aelodau un fforwm am ffibriliad atrïaidd, pwysedd gwaed uchel ac atal strôc, ynghyd â gwiriadau cyfradd curiad y galon a phwysedd gwaed am ddim, gan arwain sawl aelod i geisio cyngor a thriniaeth feddygol bellach.
  • Ymgyrchoedd Cymunedol: Sefydlodd aelodau Fforwm 50+ Pont-y-clun yr ymgyrch flynyddol Troi Pont-y-clun yn Las i godi ymwybyddiaeth o ddementia a chreu cymuned fwy cefnogol. Mae'r fenter bellach yn dwyn ynghyd drigolion lleol, grwpiau cymunedol, busnesau a Chyngor Cymuned Pont-y-clun.
  • Gweithgareddau Cymdeithasol: Yr ystod eang o weithgareddau cymdeithasol sy'n cael eu trefnu gan fforymau drwy gydol y flwyddyn. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys teithiau haf i leoedd megis y Mwmbwls a Dyfnaint, yn ogystal â chiniawau Nadolig ac achlysuron tymhorol sy'n helpu i leihau unigedd a dod â phobl at ei gilydd yn gymdeithasol.

Dyma rai o'r enghreifftiau o'r gwaith sy'n digwydd i gefnogi trigolion hŷn ledled Rhondda Cynon Taf a helpu pobl i heneiddio'n dda yn eu cymunedau.

Meddai Maria, Cydlynydd Pobl Hŷn Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae llawer iawn o weithgarwch yn digwydd mewn cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf, ac mae llawer ohono’n cael ei greu neu ei gefnogi gan y bobl hŷn eu hunain.

“Mae ein Fforymau 50+, grwpiau cymunedol a rhwydweithiau lleol yn rhoi cyfleoedd i drigolion gwrdd ag eraill, rhannu eu profiadau a helpu i lunio’r hyn sy’n digwydd yn eu hardal.

“O drefnu gweithgareddau cymdeithasol ac ymgyrchoedd cymunedol i weithio gyda phartneriaid i ddarparu sesiynau gwybodaeth ac ymwybyddiaeth, mae’r fforymau’n ymateb i ddiddordebau a blaenoriaethau eu haelodau.

“Rydyn ni eisiau i drigolion hŷn wybod bod grwpiau, gwasanaethau a chyfleoedd ar gael yn lleol, a bod y fforymau bob amser yn awyddus i groesawu aelodau newydd.”

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn:  “Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn yn gyfle pwysig i ddathlu’r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf.

“Mae ein trigolion hŷn yn dod â gwybodaeth, profiad ac ymrwymiad i’w cymunedau, gan gefnogi cymdogion, gwirfoddoli, gofalu am eraill a helpu grwpiau a sefydliadau lleol i ffynnu.

“Trwy ymgyrch Rhondda Cynon Taf o Blaid Pobl Hŷn, ein Cydlynydd Pobl Hŷn a’n gwaith gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau partner, rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i wrando ar drigolion hŷn a chefnogi cymunedau lle mae pawb yn gallu byw a heneiddio’n dda.”

Mae Rhondda Cynon Taf yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-gyfeillgar. Rhagor o wybodaeth: Rhondda Cynon Taf o Blaid Pobl Hŷn | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dysgwch ragor am Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (Saesneg): Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn 2026: Beth Sydd ar Eich Stepen Drws? | Canolfan Heneiddio'n Well

Wedi ei bostio ar 01/10/2026