Skip to main content

Dathlu agor Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach

Rhondda Fach web image

Mynychodd disgyblion o bedair ysgol achlysur i ddathlu agor Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach. Fe ymunon nhw ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ann Crimmings, ac Aelod o'r Cabinet, y Cynghorydd Louisa Addiscott, i 'dorri'r rhuban' wrth i'r buddsoddiad sylweddol yma mewn teithio llesol groesi'r llinell derfyn.

Mae'r llwybr cerdded a beicio newydd a rennir yn ymestyn 10 cilometr rhwng Maerdy yn y gogledd a Tylorstown yn y de, a chafodd ei gyflawni dros bedwar cam gwaith rhwng 2023 a haf 2026. Mae'r prif lwybr yn cynnwys sawl llwybr cysylltu â chymunedau lleol, lle mae modd i drigolion ymuno neu adael y llwybr. Mae pumed cam o waith yn ddyhead ar gyfer y dyfodol, a byddai hyn yn creu llwybr cysylltu lleol newydd yn y Maerdy.

Dysgwch ragor am bum cam y gwaith, yn ogystal â gweld map o'r llwybr a fideo ohono ar feic, ar ein tudalen we #Trawsnewid newydd.

Trefnodd y Cyngor achlysur lleol ddydd Llun, 28 Medi, i ddathlu prif lwybr y cyfleuster newydd, sydd bellach ar gael i drigolion ac ymwelwyr ei fwynhau. Daeth rhai disgyblion o Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Parc y Darren, Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy, ac Ysgol Gynradd Tylorstown, â'u beiciau, a daeth eraill â'u hesgidiau rhedeg er mwyn ymuno â'r dathliadau, ger Parc Sglefrfyrddio Glynrhedynog (yn rhan o gam pedwar y llwybr).

Roedd Aelodau o’r Cabinet, y Cynghorydd Ann Crimmings a’r Cynghorydd Louisa Addiscott, swyddogion y Cyngor (Gwasanaethau Trafnidiaeth, Teithio Llesol a Threftadaeth), cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru, yr Aelodau Etholedig Lleol ar gyfer wardiau Glynrhedynog a’r Maerdy (y Cynghorydd Jayne Smith a'r Cynghorydd Susan Morgans), ac aelodau o'r Grŵp Cymunedol Lleol Envirofach, yn bresennol.

Mae'r llwybr teithio llesol newydd yn dilyn yr hen linell reilffordd drwy Gwm Rhondda Fach, ac mae nifer o strwythurau wedi cael eu hailadeiladu ar hyd y llwybr. Mae'r rhain yn cynnwys dwy bont ym Mlaenllechau (cam pedwar), pont droed y ganolfan hamdden yn ardal Glynrhedynog (cam pump) a dwy bont reilffordd yn Tylorstown (cam pump).

Cafodd y cynllun ei ddarparu gan y Cyngor ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a roddodd gymorth o’i Chronfa Teithio Llesol dros sawl blwyddyn. Roedd Trafnidiaeth Cymru hefyd wedi chwarae rhan bwysig wrth weinyddu a rhoi cyngor mewn perthynas â’r cynllun.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd yn wych ymuno â phobl ifainc Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Parc y Darren, Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy ac Ysgol Gynradd Tylorstown, wrth ddathlu cwblhau prif ran Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach dros yr haf eleni. Rydyn ni wedi derbyn adborth rhagorol gan drigolion ac ymwelwyr, ac mae modd i’r gymuned ddefnyddio’r cyfleuster cymunedol yn ei gyfanrwydd erbyn hyn – 10 cilometr rhwng Maerdy a Tylorstown. Mae modd i bobl o bob oedran fwynhau’r llwybr newydd a'r dirwedd hardd – o gerddwyr a rhedwyr i bobl yn olwyno ac yn beicio.

“Mae wedi bod yn wych gweld y prosiect yma yn dod at ei gilydd ar ôl blynyddoedd lawer o waith caled – o'r gwaith dylunio a datblygu, sicrhau cyllid, derbyn caniatâd cynllunio, ac adeiladu pob un o’r pedwar cam o waith. Rydyn ni’n diolch yn fawr i Lywodraeth Cymru am ei chymorth trwy’r Gronfa Teithio Llesol dros nifer o flynyddoedd, wrth i ni rannu'r uchelgais i wella'r ddarpariaeth cerdded a beicio yn ein cymunedau.”

Meddai'r Cynghorydd Louisa Addicott, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Seilwaith Cyfalaf:“Roedd yn wych gweld y wên ar wynebau’r plant wrth iddyn nhw ymuno â ni i ddathlu’r cyfleuster newydd gwych yma. Mae prosiectau fel hyn yn annog rhagor o bobl i gerdded, rhedeg a beicio rhagor o'u teithiau bob dydd, sydd â llawer o fanteision pwysig megis gwella iechyd a lles pobl, lleihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd, lleihau tagfeydd traffig, a helpu'r amgylchedd.

“Rydyn ni'n diweddaru ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn barhaus ar gyfer Rhondda Cynon Taf gyfan ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, er mwyn siapio ein buddsoddiad. Dros yr haf, cynhalion ni ymgynghoriad helaeth a oedd yn cynnwys 16 o achlysuron wyneb yn wyneb mewn cymunedau lleol – gan gofnodi barn trigolion mewn perthynas â sut y byddai modd gwella llwybrau cerdded a beicio yn eu hardal.

“Mae’r Cyngor wedi derbyn cyllid pwysig trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyfredol (2026/27) i barhau â'r gwaith o gyflawni prosiectau lleol. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r llwybr cerdded a beicio cymunedol ochr yn ochr â Choridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn y dyfodol, a datblygu a chyflawni Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn ardal Pen-y-waun. Mae swyddogion hefyd yn parhau i ddatblygu camau pellach y buddsoddiad mewn teithio llesol rhwng Treorci a Threherbert, gan ddefnyddio adborth o ymgynghoriad diweddar.”

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mawr mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar gael ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 29/09/2026