Skip to main content

Gwaith yn dechrau i adeiladu maes parcio newydd yng Nghwm Clydach

Clydach Vale Car Park 1

Bydd gwaith yn dechrau'n fuan i greu maes parcio 'gorlif' a fydd yn cynnwys 50 o leoedd parcio yng Nghwm Clydach. Mae modd gweld lleoliad y maes parcio yn y llun. Bydd y lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer y nifer cynyddol o ymwelwyr â Pharc Gwledig Cwm Clydach, lleoliad hamdden a thwristiaeth pwysig i'r Fwrdeistref Sirol. Bydd y prosiect yn gwella diogelwch ar ffordd yr ystad ddiwydiannol – a bydd y cyfleuster yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio. Bydd y maes parcio'n cael ei reoli'n lleol, ac yn cael ei gloi bob nos i atal mynediad heb awdurdod.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi i'r cynllun ym mis Ebrill 2026, ac mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction Ltd i adeiladu'r maes parcio. Bydd gwaith paratoi’r safle’n dechrau ar 1 Hydref, a hynny cyn i'r prif gam adeiladu gychwyn ar ddydd Llun, 5 Hydref. Mae disgwyl i'r prif waith adeiladu bara tua 10 wythnos, gyda gwelliannau ehangach yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

Bydd gan y maes parcio newydd gysylltiadau hygyrch i gerddwyr, gan ei gysylltu â Pharc Gwledig Cwm Clydach a'r cae chwaraeon cyfagos. O ddydd i ddydd, bydd y maes parcio'n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian, a hynny o dan yr un trefniadau â maes parcio cyfagos Lakeside Café. Bydd modd i drigolion ac ymwelwyr barcio yma'n rhad ac am ddim.

Bydd ffordd fynediad chwe metr o led rhwng rhesi parcio, gydag wyneb graean/cerrig glân sy'n hawdd ei gynnal a chadw, yn wydn, ac yn gallu bod yn addas ar gyfer cilfachau wedi'u marcio. Bydd ffensys yn cael eu gosod o amgylch perimedr y safle a bydd llinellau melyn dwbl yn cael eu gosod ar y briffordd fel un o elfennau olaf y gwaith. Bydd y maes parcio ar agor erbyn i'r llinellau melyn dwbl gael eu gosod.

Yn rhan o'r cynllun bydd lleoedd parcio i bobl anabl a mannau gwefru cerbydau trydan yn cael eu creu yn y maes parcio presennol cyfagos. Byddai modd creu lleoedd parcio i fysiau a gosod mannau storio beiciau yn y dyfodol hefyd, a hynny ar gyfer ymweliadau grŵp a defnyddwyr llwybrau teithio llesol.

Does dim disgwyl i'r gwaith, sy'n mynd rhagddo o 5 Hydref, darfu llawer ar y gymuned, gan fod y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynnal dir nad yw'n cael ei ddefnyddio. Mae'n bosibl y bydd y contractwr yn gofyn i drigolion sy'n byw y tu ôl i'r safle symud eu cerbydau ar gyfer rhannau penodol o'r gwaith, ond fydd hyn ddim yn digwydd yn aml. Mae'n bosibl y bydd angen symud y cerbydau sydd wedi'u parcio ar y briffordd ar adegau hefyd.

Mae'r cynllun yn defnyddio cyllid trwy Gronfa Y Pethau Pwysig Lywodraeth Cymru.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae'r Cyngor wedi cyflwyno'r buddsoddiad yma i gynyddu mynediad at y cyfleusterau sydd ar gael yng Nghwm Clydach, gan leddfu’r problemau parcio y mae trigolion ac ymwelwyr yn eu hwynebu yn aml. Bydd y maes parcio yn darparu 50 o leoedd parcio am ddim yn yr ardal brysur yma, lle mae pobl yn mwynhau Parc Gwledig Cwm Clydach, cyfleusterau'r cae chwaraeon yng Nghlwb Pêl-droed Cambrian United, Lakeside Café Bar, a Thrac Athletau'r Brenin Siôr – gydag Ysgol Cambrian yn agor yn yr hydref, 2026.

“Bydd y cynllun yn gwella diogelwch i gerddwyr ac i draffig yn sylweddol, oherwydd na fydd angen i gerbydau barcio ar hyd ffordd yr ystad ddiwydiannol bellach. Bydd y maes parcio newydd yn cael ei reoli'n lleol gan sicrhau ei fod ar gael yn ôl yn angen ac ar gau yn ystod y nos er mwyn atal parcio heb awdurdod ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd y trefniadau sydd ar waith ym Maes Parcio Lakeside Café ar waith yn y maes parcio yma hefyd.

“Diolch ymlaen llaw i’r gymuned leol am eich cydweithrediad wrth i’r cynllun yma gael ei gyflawni o 5 Hydref. Rydyn ni'n disgwyl y bydd ychydig iawn o darfu cyffredinol dros yr wythnosau nesaf ac rydyn ni'n rhagweld y bydd angen ychydig iawn o fesurau rheoli traffig.”

Dysgwch ragor am fuddsoddiad sylweddol, parhaus y Cyngor mewn Adfywio ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT. 

Wedi ei bostio ar 30/09/2026