Skip to main content

Dewch i fwynhau hwyl hanner tymor yn rhad ac am ddim gyda'ch angenfilod bach yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda!

Get BOO-ked in for some free October half term fun with your little monsters at Rhondda Heritage Park Museum! We have organised FREE Bat-themed activity sessions to celebrate the Welsh Museums Fes

Dewch i fwynhau hwyl hanner tymor yr Hydref yn rhad ac am ddim gyda'ch angenfilod bach yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda!

Rydyn ni wedi trefnu sesiynau gweithgareddau RHAD AC AM DDIM ar thema ystlumod i ddathlu Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 2026. Thema eleni yw Hwyl Gynaliadwy – mae'r cyfan yn ymwneud â chael llwyth o hwyl wrth ddysgu am yr amgylchedd, natur a bywyd gwyllt sy'n ein hamgylchynu.

Mae yna lawer o ystlumod o gwmpas adeg Calan Gaeaf! Oeddech chi'n gwybod bod ystlumod yn ymgartrefu mewn hen byllau glo, fel ein un ni?

Mae sesiynau hwyl arswydus a brawychus yn aros amdanoch chi ddydd Mawrth, 27 Hydref. Gwnewch eich tŷ ystlumod eich hun, dysgwch ffeithiau am ystlumod, mwynhewch gelf a chrefft a mwynhewch fore mor hwyl, mae'n frawychus! 

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: "Diolch i staff Parc Treftadaeth Cwm Rhondda am gynnal hwyl hanner tymor rhad ac am ddim unwaith eto eleni.

“Mae’n atyniad sydd wedi ennill gwobrau ac yn rhan allweddol o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, mae'r garfan wedi gweithio'n galed i lunio sesiynau hwyl sydd ag ystyr.

“Mae’r sesiynau ystlumod yn edrych fel llawer o hwyl, yn enwedig gan fod cynifer o ystlumod yn byw yn hen Lofa Lewis Merthyr, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.

“Rwy’n siŵr y bydd plant ac oedolion fel ei gilydd wrth eu bodd â’r gweithgareddau hwyl ac y byddan nhw'n gadael gyda mwy o wybodaeth am y bywyd gwyllt a’r natur anhygoel ar eu carreg drws a’r rhan y mae modd iddyn nhw ei chwarae i’w diogelu.

“Does dim modd i ni warantu gweld ystlum go iawn yn ystod y sesiynau, ond dyma atgoffa'r rhai sy'n caru popeth arswydus a Chalan Gaeaf fod y Rhialtwch Calan Gaeaf hefyd yn digwydd yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn ystod hanner tymor.”

Cadwch eich lle ar un o'r tair sesiwn a gaiff eu cynnal ddydd Mawrth, 27 Hydref. Bydd modd i chi:

  • Gwneud eich blwch ystlumod eich hun
  • Mwynhau creadigaethau crefftus
  • Dysgu rhagor am y rhywogaethau ystlumod sy'n byw yma yn Rhondda Cynon Taf
  • Dysgu rhagor am sut y mae modd i chi a'ch teulu amddiffyn a chefnogi bywyd gwyllt lleol.

 

Dyma'r sesiynau:

10 am (30 o leoedd i blant)

12.15 pm (30 o leoedd i blant)

2.15 pm (30 o leoedd i blant)

Mae'r sesiynau yn addas ar gyfer plant 5 oed a hŷn. Mae'r sesiynau'n rhad ac am ddim, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw.

Mae modd i chi wneud hynny drwy'r ddolen yma.

Am ragor o wybodaeth am y Rhialtwch Calan Gaeaf ac i wirio a oes unrhyw docynnau ar ôl, ewch i'r wefan yma.

Os ydych chi wedi mwynhau dysgu am y rhywogaethau sy'n byw yma yn Rhondda Cynon Taf a pha mor wych yw'r Fwrdeistref Sirol ar gyfer natur a bywyd gwyllt, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn ein Partneriaeth Natur Leol ar Facebook. Mae’n trefnu llawer o achlysuron a gweithgareddau rhad ac am ddim sy'n berffaith ar gyfer fforwyr bach!

Wedi ei bostio ar 01/10/2026