Mae siop yn Nhonypandy wedi'i gorfodi i GAU ar unwaith yn dilyn ymchwiliad llwyddiannus i weithgareddau anghyfreithlon o werthu sigaréts, tybaco a fêps gan garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae Gorchymyn Cau wedi’i sicrhau a’i orfodi’n llwyddiannus yn My Pandy, 110 Stryd Dunraven, Tonypandy, CF40 1AS, yn dilyn ymchwiliad hir i weithgareddau masnachu anghyfreithlon parhaus yn y safle. Mae hyn yn anfon neges glir fydd gwerthu tybaco a fêps sydd ddim yn cydymffurfio â rheoliadau ddim yn cael ei oddef yn y Fwrdeistref Sirol.
Mae'r gorchymyn cau yma'n dilyn cyfres o gamau gorfodi pwysig gan garfan Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf. Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd pedwar busnes arall i gau ledled y Fwrdeistref Sirol yn dilyn ymchwiliadau i werthu cynhyrchion tybaco a fêps yn anghyfreithlon. Mae hyn yn dangos ymrwymiad parhaus y Cyngor i fynd i'r afael â masnachu anghyfreithlon ac amddiffyn cymunedau lleol.
Yn ystod yr ymchwiliad, derbyniodd swyddogion Safonau Masnach saith cwyn a chwe adroddiad cudd-wybodaeth yn ymwneud â'r busnes, gan gynnwys honiadau ynghylch gwerthu cynhyrchion tybaco i blant.
Llwyddodd swyddogion i wneud saith pryniant prawf llwyddiannus, gyda sigaréts yn cael eu gwerthu dro ar ôl tro am brisiau sylweddol is ac yn is na chyfradd leiaf y Doll Tybaco.
Er gwaethaf derbyn cyngor, rhybuddion ac ymweliadau gorfodi dro ar ôl tro, parhaodd y busnes i fasnachu'n anghyfreithlon. Fe wnaeth swyddogion hefyd ddarganfod tystiolaeth bod cynhyrchion tybaco yn cael eu cuddio'n fwriadol ar y safle.
Ar 4 Medi 2026, arweiniodd ymgyrch ar y cyd oedd yn cynnwys gweithwyr Safonau Masnach, Operation CeCe, Cyllid a Thollau EF a Heddlu De Cymru at atafaelu nifer fawr o gynhyrchion tybaco anghyfreithlon a chynhyrchion fepio nad oedden nhw’n cydymffurfio â rheoliadau.
Roedd y nwyddau a atafaelwyd yn cynnwys:
- 363 pecyn o sigaréts
- Dau bwrs o dybaco rholio â llaw
- 21 fêp tafladwy capasiti uchel
Roedd y cynhyrchion naill ai'n torri rheoliadau tybaco a fêps neu'n cael eu hamau o fod yn ffug.
Tynnodd yr ymgyrch gynhyrchion â gwerth ‘stryd’ amcangyfrifedig o fwy na £5,600 allan o gymunedau lleol.
Mae tybaco anghyfreithlon yn tanseilio busnesau lleol cyfreithlon, ac mae'n gallu ei gwneud hi'n haws i bobl ifainc gael gafael ar gynhyrchion niweidiol. Mae hefyd yn gallu rhwystro ymdrechion ysmygwyr i roi'r gorau i ysmygu drwy ddarparu mynediad at ddewisiadau amgen anghyfreithlon rhad. Mae'r fasnach tybaco anghyfreithlon hefyd yn aml yn gysylltiedig â gweithgareddau troseddol ehangach.
Er bod llawer o drigolion wedi galw am fusnesau sy'n gwerthu tybaco anghyfreithlon i golli eu trwydded, does dim cynllun trwyddedu ar hyn o bryd ar gyfer gwerthu cynhyrchion tybaco yn fanwerthol yng Nghymru. O ganlyniad, mae Gorchmynion Cau yn parhau i fod yn un o'r pwerau cryfaf sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth fynd i'r afael â masnachu anghyfreithlon parhaus. Byddwn ni'n parhau i ddefnyddio'r rhain i weithredu bob tro y bydd busnes sy'n gweithredu'n anghyfreithlon yn ymddangos yn RhCT.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
"Mae'r gorchymyn cau yma'n anfon neges glir fydd gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon ddim yn cael ei oddef yn Rhondda Cynon Taf.
"Cynhaliodd ein carfan Safonau Masnach ymchwiliad hir i'r busnes yma yn dilyn cwynion, adroddiadau cudd-wybodaeth a thystiolaeth dro ar ôl tro o fasnachu anghyfreithlon. Er gwaethaf derbyn cyngor a rhybuddion, parhaodd y busnes i dorri'r gyfraith.
"Rydyn ni'n gwybod bod trigolion yn teimlo'n rhwystredig pan maen nhw'n gweld busnesau sy'n gysylltiedig â gwerthu tybaco anghyfreithlon yn parhau i weithredu, ac rydyn ni'n rhannu'r rhwystredigaeth honno. Mae llawer o bobl yn gofyn pam dydyn ni ddim yn tynnu trwyddedau oddi wrth fusnesau, ond y gwirionedd yw bod dim angen trwydded i werthu cynhyrchion tybaco yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hynny'n golygu bod achosion fel hyn yn aml yn gofyn am gasglu tystiolaeth sylweddol, gwneud nifer o bryniannau prawf a gweithio mewn partneriaeth cyn mae modd cymryd camau gweithredu drwy'r llysoedd."
Serch hynny, mae'r achos yma, ynghyd â'r pedwar gorchymyn cau a sicrhawyd yr wythnos diwethaf, yn dangos y byddwn ni'n parhau i ddefnyddio pob pŵer sydd ar gael i ni. Ni waeth pa mor hir y mae ymchwiliad yn ei gymryd, byddwn ni'n mynd ar drywydd y dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau Gorchmynion Cau i amharu ar y busnes a chymryd camau yn erbyn y rhai sy'n ymwneud â masnachu anghyfreithlon."
Ni ddylai'r rhai sy'n ymwneud â masnachu anghyfreithlon dybio bod modd iddyn nhw osgoi camau gorfodi drwy newid lleoliad neu geisio parhau i fasnachu mewn man arall. Bydd ein swyddogion yn parhau i gasglu gwybodaeth, gweithio gyda phartneriaid a chymryd camau cadarn lle bynnag y mae'r dystiolaeth yn arwain."
"Mae masnachu mewn tybaco anghyfreithlon yn tanseilio busnesau lleol gonest, yn aml mae'n gysylltiedig â gweithgareddau troseddol ehangach, ac mae'n gallu ei gwneud hi'n haws i bobl ifainc gael gafael ar gynhyrchion niweidiol. Dyna pam rydyn ni'n parhau i fod wedi’n hymrwymo i fynd i'r afael â'r mater yma ac amddiffyn ein cymunedau."
"Hoffwn ddiolch i'n swyddogion Safonau Masnach ac asiantaethau partner am eu gwaith caled parhaus. Mae eu dyfalbarhad a'u hymroddiad yn golygu, lle mae busnesau'n gwrthod cydymffurfio â'r gyfraith, y bydd camau'n cael eu cymryd."
Roedd rhan o'r gweithgaredd sy'n gysylltiedig â'r achos yma'n rhan o waith partneriaeth ehangach o dan Operation CeCe, y fenter rhwng Safonau Masnach Cymru a Lloegr a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi sy'n anelu at amharu ar y farchnad tybaco anghyfreithlon a mynd i'r afael â throseddau cyfundrefnol.
Mae swyddogion Safonau Masnach yn parhau i weithio gydag asiantaethau partner i nodi ac ymchwilio i fusnesau sy'n ymwneud â gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps yn anghyfreithlon ledled Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco, sigaréts neu fêps anghyfreithlon i roi gwybod amdanyn nhw drwy ffurflen ar-lein y Cyngor ar gyfer Gweithgarwch Anghyfreithlon.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach
Wedi ei bostio ar 28/09/2026