Skip to main content

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Rhondda wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau STEM Cymru.

School Visits 1

Mae defnyddio ein stori ryngwladol epig am gloddio i ysbrydoli gwyddonwyr a pheirianwyr y dyfodol wedi sicrhau lle i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog.

Mae'r atyniad arobryn, gafodd ei adeiladu yn ôl troed Glofa fawreddog Lewis Merthyr yn Nhrehafod, wedi denu sylw'r beirniaid yng Ngwobrau STEM Cymru 2026.

Mae'r gwobrau'n dathlu sefydliadau sy'n sbarduno arloesedd, rhagoriaeth ac effaith wirioneddol ar draws y sector STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) sy'n tyfu, ac sydd wedi'i nodi yn llwybr gyrfa allweddol i bobl ifainc.

Roedden nhw'n edmygu'r ffordd y mae'r amgueddfa'n defnyddio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Rhondda Cynon Taf ac yn ei chymhwyso ar gyfer dysgu heddiw – drwy deithiau ysgol, adnoddau ystafell ddosbarth, ymweliadau â'r amgueddfa a theithiau grŵp.

Mae pob agwedd ar bwll glo wedi'i wreiddio mewn STEM.  Peirianneg y peiriannau weindio.  Cemeg y glo.  Daeareg y tir. 

Mae lampau Davy yn cyflwyno gwyddoniaeth hylosgi a risg, ac mae cyfathrebu tanddaearol rhwng glowyr yn trin a thrafod sain. Mae llwch glo yn gyflwyniad i fioleg ac iechyd tra bod gwaddol cloddio glo yn esgor ar sgyrsiau am ein hamgylchedd ac ynni adnewyddadwy.

A ninnau'n hen bwll glo gweithredol, gyda chasgliad enfawr o beiriannau gwreiddiol ac arteffactau diwydiannol, yn ogystal ag atgofion byw cyn-lowyr sy'n gweithio yn dywyswyr, mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn trawsnewid y ffordd y mae plant ysgol, ymwelwyr a theuluoedd yn profi'r safle - ac yn cael eu cyflwyno i ddysgu STEM.

Mae staff yr amgueddfa wedi gweithio gydag athrawon i ddatblygu cynnig dysgu a oedd yn cynnwys gweithdai a diwrnodau dysgu, mannau dysgu rhyngweithiol a blychau benthyg manwl ar gyfer ystafelloedd dosbarth.

Rhaid pwysleisio nad yw dysgu STEM yn rhan ychwanegol o'r ymweliad, mae'n rhan o'r profiad. Mae'r disgyblion yn gwneud mwy nag ond clywed bod pwlïau yn cael eu defnyddio er mwyn codi'r glowyr a'r glo, maen nhw'n ymchwilio systemau'r pwlïau eu hunain. Maen nhw'n trin a thrafod hylosgi, nwyon, llwch glo a systemau resbiradol, nid dim ond darllen maen nhw am y peryglon yr oedd glowyr yn eu hwynebu.

Maen nhw'n dysgu trwy beiriannau go iawn, profiad ymarferol a straeon ac atgofion go iawn y dynion a fu'n byw (ac yn gweithio) trwy gloddio glo.  Maen nhw'n cael eu hysbrydoli gan y dreftadaeth maen nhw wedi clywed amdani drwy gydol eu bywydau, gan eu rhieni a'u neiniau a'u teidiau, ac yn dysgu o'r dirwedd maen nhw wedi tyfu i fyny ynddi.

Mae ymgysylltiad ysgolion wedi mwy na dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, gyda 25 o ymweliadau ysgolion yn ymgysylltu â hyd at 1,179 o blant a 300 o athrawon yn 2026 hyd yma. 

Roedd dros 1,000 o bobl wedi mwynhau diwrnod gwych o ddysgu diolch i'r Haf o Ddarganfod - roedd pobl ifainc wedi profi gwyddoniaeth a pheirianneg heb wybod!

Mae'r holl staff sydd wedi gweithio mor galed i newid y ffordd y mae meddyliau ifainc yn cael eu hysbrydoli bellach yn aros am rownd derfynol y gystadleuaeth ar 1 Hydref, gan obeithio y bydd llwyddiant yn y gwobrau yn sbarduno hyd yn oed rhagor o arloesedd a dysgu yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.

Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Mae cloddio glo wedi siapio cymunedau, diwylliant, treftadaeth a thirwedd Cwm Rhondda ac roedd wedi helpu i bweru’r byd diwydiannol.

“Mae'n stori bwerus a ddatblygodd yma ar ein stepen drws ac un sydd wedi dod yn fyw yn atyniad Amgueddfa arobryn Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Rydyn ni'n gwneud mwy nag ond cadw ein gorffennol diwydiannol ac yn rhannu ein straeon epig - rydyn ni'n ei ddefnyddio i ysbrydoli meddyliau ifainc.”

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees – Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: “Dyma gyflawniad anhygoel gan garfan Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae sicrhau lle yn rownd derfynol y gwobrau mawreddog yma yn gamp enfawr ac yn adlewyrchiad o'r gwaith caled sydd wedi'i wneud hyd yn hyn.

“Mae diwydiannau STEM yn cynnig llwybrau gyrfa cyffrous a llewyrchus i lawer o bobl ifainc.  Dw i'n meddwl ei bod hi'n wych ein bod ni'n defnyddio ein mawredd diwydiannol yn y gorffennol i ysbrydoli mawredd diwydiannol y dyfodol.”

Os oes gyda chi ddiddordeb yn y cynnig addysg yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, neu os hoffech chi siarad ag un o'r staff arbenigol mewn perthynas â sut mae modd iddyn nhw eich helpu chi a'ch dosbarth, ffoniwch 01443 682036 neu e-bostiwch

Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.  Mae modd i ymwelwyr gadw lle ar Daith Danddaearol Aur Du gyda chyn-löwr neu ddarganfod y cwrt, sy'n llawn arteffactau gwreiddiol, a'r arddangosfeydd. Mae caffi a siop anrhegion ar y safle a maes parcio mawr, am ddim i ymwelwyr. 

Am ragor o wybodaeth ac i gadw eich lle, cliciwch yma

 

Wedi ei bostio ar 01/10/2026