Skip to main content

Dewch i ni ailgylchu'n ŵy-ch dros y Pasg yma!

Yn ogystal â bod yn gyfle gwych i driglion Rhondda Cynon Taf fwynhau digon o siocled - mae'r Pasg hefyd yn gyfle i greu rhagor o ynni!

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awyddus i barhau i fwrw ein targedau ailgylchu, ac mae angen i bawb fod yn rhan o'r ymdrech yma!

Y Pasg yma, mae'r Cyngor yn galw ar drigolion i helpu i droi eu gweddillion yn bŵer ychwanegol i'r gymuned. Er bod llawer yn meddwl am wyau siocled yr adeg yma o'r flwyddyn, mae gan blisgyn ŵy arferol y gallu i greu llawer o ynni.

Gyda dros 12.8 biliwn o wyau yn cael eu bwyta yn y DU bob blwyddyn, amcangyfrifir bod 222 tunnell o blisg wyau nad oes modd eu bwyta yn cael eu cynhyrchu bob dydd!

Os caiff y plisg yma eu hailgylchu yn ein cadis gwastraff bwyd, a'u prosesu yng nghanolfan ailgylchu Bryn Pica yn Llwydcoed, mae modd iddyn nhw gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i bweru dros 20 o gartrefi bob dydd.

“Peidiwch â gadael i fwyd da fynd yn wastraff”

Mae'r Cyngor hefyd yn tynnu sylw at y swm syfrdanol o fwyd y mae modd ei fwyta a gafodd ei wastraffu dros y gwyliau.

Dyma ganlyniadau'r Pasg ar gyfer y DU yn unig:

  • 8 miliwn o deisennau'r Groglith wedi'u gwastraffu
  • 5 miliwn o dafelli o gig rhost dros ben
  • 19 miliwn o datws yn weddill
  • 20 miliwn dogn o lysiau

Cofiwch, os oes gyda chi ormod o wyau, mae modd eu rhewi am hyd at dri mis i'w hatal rhag mynd yn ddrwg. Rhowch unrhyw fwyd nad oes modd ei fwyta - gan gynnwys melynwy, gwynwy a phlisg - yn y bagiau gwastraff bwyd gwyrdd.

Gyda 80 miliwn o wyau Pasg yn cael eu gwerthu bob blwyddyn, mae dros 9,000 tunnell o wastraff pecynnu yn cael ei gynhyrchu. Dyma annog trigolion i:

  • Lleihau: Chwiliwch am wyau Pasg gyda'r swm lleiaf o ddeunydd pacio cyn prynu.
  • Ailddefnyddio: Beth am fod yn grefftus ac ailddefnyddio'r ffoil sgleiniog i greu darnau crefft dros wyliau'r ysgol?
  • Ailgylchu: Rhowch yr holl gardfwrdd, plastig a ffoil glân a sych mewn bagiau ailgylchu CLIR.

Mae ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yn hawdd iawn! Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ailgychu'n RHAD AC AM DDIM. Rydyn ni'n casglu bagiau ailgylchu CLIR, gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd y gwanwyn a hen gewynnau o ymyl y ffordd bob wythnos.

Bydd llawer o ysgolion lleol yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn ymuno yn Her Ailgylchu'r Pasg, lle byddan nhw'n cystadlu i weld pa ysgol sy'n gallu ailgylchu'r nifer fwyaf o becynnau wyau Pasg ac ennill gwobrau gwerthfawr. Holwch y staff yn ysgol eich plentyn i weld a ydyn nhw wedi cofrestru i ymgymryd â'r her cyn anfon eich eitemau i mewn.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings,Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd:

“Dim ots p-ŵy ydych chi, mae ailgylchu yn RhCT yn hawdd ac yn hygyrch i bawb. Mae gyda ni drefn syml lle mae modd rhoi'ch holl wastraff ailgylchu sych mewn un bag, gyda chadi ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd.

"Eleni yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n falch o ddweud ein bod ni wedi bwrw targed 70% Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 a bod cynnydd o 21% wedi bod yn y gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu a gostyngiad o 33% yn y gwastraff bagiau du a gafodd ei gasglu, ynghyd â chynnydd o 11% yn y gwastraff sych a gafodd ei ailgylchu.

"Hoffwn i ddiolch i drigolion am ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd. Mae mwy a mwy o drigolion yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff wythnosol o ymyl y ffordd. Mae pob un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor i'r cyhoedd ac mae amserlen oriau estynedig yr haf bellach ar waith - mewn pryd ichi lanhau'r tŷ dros benwythnos gŵyl y banc!

Fydd DIM NEWID i gasgliadau ailgylchu a gwastraff wrth ymyl y ffordd yn ystod Gwyliau'r Pasg. Rhowch eich eitemau yn y man casglu arferol ar eich diwrnod arferol. Er mwyn helpu ein carfanau, parciwch yn synhwyrol fel bod modd i gerbydau ailgylchu gyrraedd pob stryd yn ystod y gwyliau banc prysur yma.

Bydd Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn aros ar agor drwy gydol gŵyl y banc rhwng 8:30am a 6:30pm.

Bydd yr holl gyfleusterau yma'n darparu ar gyfer pob un o'r holl anghenion ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a gaiff eu derbyn i'w chael ar http://www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu

Mae staff pob canolfan yn barod i roi cyngor i drigolion.

Am ragor o wybodaeth, neu i ddefnyddio'r canllaw ailgylchu A-Z, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 25/03/2026