Skip to main content

Oedolion ag Anableddau Dysgu yn Dathlu Treftadaeth Cymru gyda Phrosiect Celfyddydau Perfformio Cynhwysol

Welsh Christmas Caper tn

Mae unigolion anabl lleol sy'n mynychu canolfan Learning Curve RhCT – gwasanaeth cyfleoedd oriau dydd Cyngor Rhondda Cynon Taf i oedolion ag anableddau dysgu – yn dathlu treftadaeth Cymru yn rhan o raglen o weithdai creadigol dan arweiniad Forget-Me-Not Productions. Mae’r prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, yn sicrhau bod cyfleoedd ymarferol a hygyrch ar gael i oedolion ag anableddau dysgu ym meysydd treftadaeth a'r celfyddydau, a hynny gan  ddefnyddio dulliau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol (AAC), dulliau rheoli dyfais gyda’r llygaid ac offerynnau wedi'u haddasu i sicrhau bod modd i bawb gymryd rhan mewn ffordd sy'n gyfleus iddyn nhw.

Mae'r artistiaid Clary Saddler, Shevaughn Georgiou, Sue Lewis, a Mel Saddler – yng nghwmni artistiaid Word Groove Collective, Mr X a Gavin Clifton – wedi bod yn gweithio gyda chanolfannau Learning Curve ledled Rhondda Cynon Taf yn ardal Gadlys, Tŷ Draw a Llwynypia.

Mae tri cham i'r prosiect. Arweiniodd Cam Un, a gyflwynwyd drwy gydol mis Rhagfyr, at berfformiad yn y gymuned o The Welsh Christmas Caper yn Nhonysguboriau. Roedd y perfformiad yn cyfuno theatr fyw â nodweddion ffilm arddull ‘One Show’ a grëwyd gan gyfranogwyr o bob canolfan Learning Curve. Fe wnaethon nhw actio fel cyflwynwyr, adroddwyr straeon, cerddorion, dawnswyr, neu gymeriadau o lên gwerin a phantomeim Cymru.

Mae Cam Dau a Thri bellach ar y gweill, a byddan nhw’n parhau tan 8 Mai, pan fydd teuluoedd, cynhalwyr, a'r gymuned ehangach yn dod ynghyd ar gyfer dathliad a pherfformiad. Mae gweithdai yn y camau diweddarach yma'n cyflwyno cyfranogwyr i ystod o weithgareddau creadigol, gan eu hannog i weithio ar raglenni dogfen, podlediadau, animeiddiadau, cyfweliadau a gweithgareddau sy'n seiliedig ar dreftadaeth.

Mae’r cyfranogwyr wrthi’n archwilio’r Fari Lwyd, carolau Plygain, Noson Gyflaith, Calennig a bwydydd traddodiadol Cymreig. Mae'r sesiynau'n cynnig cymysgedd o weithgareddau drama, cerddoriaeth, adrodd straeon, a hynny gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol, offerynnau cynhwysol, coginio, a darnau wedi'u ffilmio – gan helpu unigolion i archwilio ac ennill sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm a chydlynu newydd, yn ogystal ag archwilio balchder a diwylliant Cymru trwy dreftadaeth a thraddodiad.

Dyma enghraifft ymarferol o gymorth cynhwysol, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar waith. Mae sesiynau wedi'u cyd-gynhyrchu mewn lleoliadau cymunedol, ac mae staff ac artistiaid yn addasu'r cynnig yn unol â chryfderau ac anghenion unigryw pob unigolyn. Mae hefyd yn dangos sut y gall cyllid wedi'i dargedu – megis cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – roi cyfle i unigolion gael mynediad at offer a gwasanaethau arbenigol, gan adael gwaddol o sgiliau i gyfranogwyr.

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i Gymru: "Mae'r prosiect yma'n dangos yr hyn y mae modd ei gyflawni pan fydd creadigrwydd, treftadaeth a chynhwysiant yn dod at ei gilydd. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydyn ni wrth ein bodd yn cefnogi'r fenter yma sy'n grymuso oedolion ag anableddau dysgu gyda'r offer, yr hyder a'r cyfleoedd i rannu eu lleisiau."

Meddai Clary, Cyd-sylfaenydd Forget-Me-Not Productions: “Mae’r prosiect yma, ym marn Forget-Me-Not Productions, yn rhoi cyfle i unigolion weld eu hunain yn niwylliant Cymru. Pan fydd cyfranogwyr yn defnyddio eu lleisiau eu hunain, boed ar lafar, gan ddefnyddio iaith arwyddion neu drwy dechnoleg gynorthwyol, i rannu traddodiadau Cymru, mae treftadaeth yn dod yn rhywbeth y maen nhw'n berchen arni, nid rhywbeth sy'n digwydd o'u cwmpas. Dyna sut olwg sydd ar gynhwysiant i ni ac mae'n newid popeth.”

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r prosiect cymunedol gwych yma'n arddangos gwerthoedd y Cyngor ar waith – mae wedi’i gyd-gynhyrchu, yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ac wedi’u gwreiddio yn ein cymunedau lleol.

“Trwy sesiynau yn ein canolfannau Learning Curve yn ardal Gadlys, Tŷ Draw, a Llwynypia, mae cyfranogwyr yn llunio straeon drwy ddefnyddio dulliau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol, dulliau rheoli dyfais gyda’r llygaid, ac offerynnau cynhwysol - gan archwilio podlediadau, rhaglenni dogfen, cyfweliadau, dawnsio a cherddoriaeth wrth iddyn nhw ddod â threftadaeth Cymru yn fyw.

“Caiff y cymorth yma ei addasu ar gyfer pob unigolyn, ac mae’r pecyn arbenigol yn bosibl o ganlyniad i gyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae gweithio gydag oedolion lleol ag anableddau dysgu fel hyn yn eu helpu nhw i feithrin sgiliau, hyder a chysylltiadau newydd.

“Diolch yn fawr iawn i Forget-Me-Not Productions, Word Groove Collective, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a staff, teuluoedd a chyfranogwyr gwych Learning Curve am eu hymdrechion yn rhan o’r prosiect yma. Rydw i'n edrych ymlaen at eu gweld nhw'n gwneud cynnydd dros y misoedd nesaf."

Gweledigaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yw bod gwaith treftadaeth yn cael ei werthfawrogi, yn cael sylw ac yn hygyrch i bawb. Y gronfa yw prif gyllidwr gwaith treftadaeth yn y DU, maen nhw'n cefnogi prosiectau sy'n cysylltu cymunedau â threftadaeth mewn ffyrdd ystyrlon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.heritagefund.org.uk/cy

Mae Forget-Me-Not Productions yn rhoi cyfleoedd i bobl ag anableddau corfforol a gwybyddol cymhleth gymryd rhan yn annibynnol mewn prosiectau creadigol trwy'r celfyddydau cynhwysol a thechnoleg gynorthwyol. Maen nhw'n credu bod gan bawb yr hawl i fynegi eu hunain yn greadigol, waeth beth fo'u hamgylchiadau. Mae’r gwaith yn cynnwys:

  • Gweithdai celfyddydau cynhwysol i blant ac oedolion ag anableddau cymhleth
  • Hyfforddiant, ymgynghoriaeth ac asesiadau ym maes celfyddydau, addysg, iechyd a meysydd eraill
  • Stiwdio recordio symudol ar gyfer cerddorion, actorion a gwneuthurwyr ffilmiau anabl
  • Ymchwil i dechnoleg gynorthwyol ac arferion celfyddydol cynhwysol a gweithio i'w datblygu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Forget-Me-Not-Productions - Making the Arts Accessible for All

Tîm cyfansoddi caneuon dan arweiniad Clary Saddler (Forget-Me-Not Productions) a Gavin Clifton (a elwir hefyd yn The Disabled Writer) yw Word Groove Collective ac mae'n cynnwys cyfansoddwyr caneuon a cherddorion anabl a rhai nad ydyn nhw'n anabl. Maen nhw'n cynnig sesiynau cyfansoddi caneuon wedi'u llunio ar gyfer pobl anabl ac ar y cyd â nhw, gan gynnwys y rhai sydd ddim yn siarad, sy’n defnyddio dulliau cyfathrebu amgen ac atgyfnerthol (AAC), neu sydd ag anghenion corfforol.

Am ragor o wybodaeth, mae modd i chi ddod o hyd iddyn nhw ar-lein: Facebook | Soundcloud | TikTok

Learning Curve RhCT yw gwasanaeth cymorth anableddau dysgu Cyngor Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n darparu cyfleoedd yn ystod y dydd i oedolion ag anabledd dysgu, gan eu galluogi i ddysgu, creu a chysylltu trwy weithgareddau cynhwysol a phrosiectau yn y gymuned.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan: Anableddau Dysgu | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 23/03/2026