
SSSI Llantrisant Common
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi sicrhau cyllid gwerth £247,000 gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur er mwyn amddiffyn a gwella cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig ledled y fwrdeistref sirol.
Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i ystod eang o dirweddau naturiol, sy'n cynnal rhywogaethau prin a phwysig. Mewn ardaloedd prysur fel Cymoedd De Cymru, mae modd i ddatblygiadau tai newydd gael effaith negyddol ar y cynefinoedd yma. Mae'r system gynllunio yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu a chryfhau'r cynefinoedd.
Bydd y Cyngor, ar y cyd â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru, ac yn rhan o drefniadau cydweithio â datblygwyr a rheolwyr tir lleol, yn ceisio nodi sut mae modd gwella'r broses o reoli tir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer bywyd gwyllt. Y nod yw creu “cerrig camu” rhwng safleoedd gwarchodedig, gan helpu rhywogaethau i symud yn haws ar draws y dirwedd a gwneud yr ardal gyfan yn fwy gwydn o ran newid yn yr hinsawdd.
Bydd y prosiect hefyd yn cyfrannu at bolisïau cynllunio yn y dyfodol, gan sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng cefnogi datblygiad a diogelu'r amgylchedd naturiol.
Yn rhan o'r gwaith yma, bydd y Cyngor yn cynnal sesiynau hyfforddi cymunedol i helpu trigolion i ddysgu sut i nodi cynefinoedd lleol a dysgu rhagor am y rhywogaethau sy'n byw ynddyn nhw.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Adfywio a Thai:
“Dyma newyddion ardderchog i ardal Rhondda Cynon Taf. Bydd y cyllid yn ein helpu ni i amddiffyn y bywyd gwyllt arbennig sydd ar ein stepen drws, gan sicrhau bod ein mannau naturiol yn ffynnu am genedlaethau i ddod. Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth sylweddol gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur.”
Rhaglen sy'n cael ei chyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru yw’r Gronfa Rhwydweithiau Natur. Mae'n cefnogi prosiectau sy'n cryfhau ac yn adfer rhwydwaith o safleoedd tir a morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae'n cynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Wedi ei bostio ar 24/03/2026