Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu'r gwahaniaeth gwirioneddol y mae Grant Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan wedi'i achosi. Dyma gyhoeddi cymorth newydd ar gyfer sefydliadau lleol y trydydd sector a'r sector gwirfoddol.
Ers lansio Grant Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan yn 2022, mae'r cyllid wedi helpu grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau gwirfoddol i gyflawni prosiectau sydd wedi cael effaith sylweddol ar fywydau pobl ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Mae'r cyllid wedi'i ddefnyddio i greu mannau croesawgar a gwella cyfleusterau lleol, hybu lles, mynd i'r afael ag unigrwydd a sicrhau cyfleoedd gwirfoddoli. Mae'r rhaglen wedi cefnogi mentrau lleol sy'n helpu cymunedau i deimlo'n gryfach ac wedi'u cydgysylltu.
Dros bedair blynedd ddiwethaf y rhaglen, mae £6.58 miliwn wedi'i rhannu yn rhan o bedair rownd Grant Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan a dwy rownd o Ficrograntiau. Derbyniodd cyfanswm o 212 o sefydliadau gymorth, gan gyflawni 464 o brosiectau unigol a chyrraedd bron i 42,000 o drigolion.
Mae'r effaith yn arbennig o bwysig yn y cymunedau sy'n wynebu'r heriau mwyaf. Cafodd 40% o gyfanswm y cyllid grant ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau a oedd o fudd uniongyrchol i drigolion mewn 12 ardal a gafodd eu nodi fel yr ardaloedd lleiaf gwydn. Cefnogodd y rhaglen 105 o rolau llawn amser, rhan amser a swyddi fesul sesiwn. Cafodd 267 o gyfleoedd gwirfoddoli newydd eu creu, yn ogystal ag 15 o gyfleusterau cymunedol newydd. Cafodd y cyllid ei ddefnyddio i osod tri thoiled Changing Places.
Rydyn ni wedi clywed cannoedd o straeon gan drigolion a chymunedau sydd wedi elwa o'r gefnogaeth. Mae pobl wedi nodi eu bod nhw wedi gwneud ffrindiau newydd, yn teimlo'n llai unig, gwella eu hiechyd meddwl a'u lles, a theimlo'n fwy hyderus yn ymwneud â ble i droi am gymorth. Tynnodd eraill sylw at bwysigrwydd y mannau cynnes lleol, croesawgar a fforddiadwy. Yno, maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn rhan o rywbeth cadarnhaol yn eu hardal leol.
Gyda Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan yn dod i ben ar 31 Mawrth 2026, mae'r Cyngor yn rhoi trefniadau newydd ar waith i barhau â'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'n cymunedau. Mae Cronfa Partneriaeth Gymunedol newydd yn lansio ym mis Mai 2026. Bydd £600,000 yn cael ei ddyranu dros ddwy flynedd. Bydd y cyllid yn cefnogi sefydliadau cymunedol a gwirfoddol rhwng 2026 a 2028. Bydd y gronfa’n canolbwyntio ar flaenoriaethau lleol, cynnal lleoliadau pwysig ac asedau cymunedol, a chefnogi gwaith sy’n mynd i’r afael â thlodi, yn cryfhau cymunedau ac yn helpu trigolion gydag effaith barhaus cost byw.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau:
“Mae llwyddiant Grant Cymunedol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan yn helpu pobl a sefydliadau lleol, gan dynnu sylw at y gwahaniaeth sydd modd ei wneud pan mae'r gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi.
“Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r grwpiau a’r sefydliadau yma. Yn aml, mae pobl yn ymddiried ynddyn nhw, maen nhw'n gyfarwydd â nhw ac maen nhw wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn ein cymunedau. Maen nhw'n werthfawr iawn.”
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan OBE:
“Dros y pedair blynedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld grwpiau cymunedol a gwirfoddol yn cyflawni prosiectau sydd wedi dod â phobl ynghyd, gwella lles, cefnogi trigolion sy'n agored i niwed a chryfhau ardaloedd Rhondda Cynon Taf.
“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi bod modd i ni barhau i gefnogi’r gwaith gwych sy’n digwydd ar draws ein cymunedau tan 2028, gan fanteisio ar gyllid y Gronfa Partneriaeth Gymunedol newydd. Cadwch lygad ar wefan y Cyngor a'r cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am ragor o fanylion.”
Mae'r Gronfa Partneriaeth Gymunedol newydd wedi derbyn £500,000 gan Lywodraeth San Steffan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Daeth £100,000 ychwanegol o Gronfa Effaith Balchder Bro ar gyfer 2026/27. Mae £70,000 ychwanegol hefyd yn cael ei ddyrannu i gefnogi prosiectau cyfalaf Strategaeth a Phartneriaeth Bwyd RhCT.
Mae'r gronfa newydd wedi'i llywio gan brofiadau'r bobl a'r sefydliadau dan sylw. Rydyn ni wedi ystyried adborth gan sefydliadau’r trydydd sector, partneriaid, trigolion a swyddogion y Cyngor yn rhan o waith datblygu'r cynnig. Rhwng 2023 a 2025, nododd 774 o gyfranogwyr brofiad gwell yn rhan o weithgareddau cymunedol a gafodd eu darparu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin o’i gymharu â’r ddarpariaeth flaenorol. Roedd 139 o Sgyrsiau Cymunedol ar ddiwedd 2025 a dechrau 2026 yn cael eu defnyddio i glywed barn trigolion ar werth gweithgareddau lleol yn eu hardal leol.
Mae'r adborth yma wedi helpu ni ddeall y darlun clir o ran beth sydd bwysicaf i gymunedau. Siaradodd trigolion am bwysigrwydd cael cyfle i gymdeithasu ag eraill, lles meddyliol, mynediad gwell at gefnogaeth, gweithgareddau ystyrlon a lleoliadau croesawgar sy'n teimlo'n gynhwysol ac yn hygyrch.
Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion maes o law yn ymwneud â meini prawf a sut i wneud cais am gyllid gan y Gronfa Partneriaeth Gymunedol.
Wedi ei bostio ar 24/03/2026