Skip to main content

Adroddiad cynnydd ar brosiect yn y dyfodol ar safle gorsaf heddlu Pontypridd

Police Station

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun adfywio sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer safleoedd gorsaf yr heddlu a Maes Parcio Heol Berw ym Mhontypridd. Mae cynigion ar gyfer prosiect defnydd cymysg yn cael eu datblygu, a bydd dymchwel y safle yn ddiweddarach eleni yn rhyddhau'r man yma ar gyfer ailddatblygu yn y dyfodol.

Yn 2024, cafodd y Cyngor adeilad presennol Gorsaf Heddlu Pontypridd oddi wrth Heddlu De Cymru, tra bydd swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Trevithick, yn Abercynon yn cael eu trosglwyddo i Heddlu De Cymru i'w defnyddio fel Hwb Rhanbarthol. Bydd yr heddlu hefyd yn cadw presenoldeb ym Mhontypridd, mewn lleoliad newydd yng nghanol y dref.

Yn y cyfamser, mae Maes Parcio Heol Berw cyfagos yn eiddo i'r Cyngor ac mae mewn cyflwr gwael yn gyffredinol. Mae i'r adeilad sawl her, gan gynnwys hygyrchedd cyfyngedig – er enghraifft, does dim lifft, a lleoedd parcio ceir sy'n llai na safonau dylunio modern. At ei gilydd, mae'r adeilad wedi dyddio a ddim yn iawn i'w ddiben gwreiddiol mwyach.

Felly, mae swyddogion yn datblygu cynigion ar gyfer prosiect defnydd cymysg sy'n integreiddio'r ddau safle. Mae'r opsiynau sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd yn cynnwys maes parcio modern newydd, gwella'r parth cyhoeddus, gwelliannau i'r gyffordd wrth Stryd y Bont/Heol Berw gyda chysylltiadau teithio llesol, a chyfleoedd ar gyfer datblygiad preswyl, masnachol a diwylliannol.

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (£304,076) a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru(£3.2miliwn). Y disgwyl ar hyn o bryd yw y bydd y gwaith dymchwel wedi'i gwblhau erbyn Gwanwyn 2027.

Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am hynt y prosiect wrth nesáu at gam y gwaith dymchwel, a datblygu cynigion yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Adfywio a Thai:  “Mae’r Cyngor wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun adfywio sylweddol hwn yng Nghanol Tref Pontypridd, a fydd yn ymgorffori safle’r orsaf heddlu bresennol, ynghyd â Maes Parcio Heol Berw. Rydyn ni eisiau creu ardal fwy agored a deniadol, yn un o brif byrth Pontypridd. Mae natur y prosiect yn cael ei ddatblygu, a bydd swyddogion yn cyflwyno cynnig manwl, sy'n cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau, maes o law – gan ein bod yn bwriadu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion wrth ddod i bob carreg filltir bwysig.

“Nododd y cyhoeddiad ar y cyd â Heddlu De Cymru yn 2024,  y byddai’r Cyngor yn cael safle’r orsaf heddlu, y byddai’r heddlu’n cadw presenoldeb yng nghanol y dref mewn lleoliad canolog. Mae'n bwysig sicrhau trigolion bod hyn yn dal i fod yn wir. Mae unrhyw gynnydd gyda chynllun adfywio'r Cyngor a'r amserlen, yn dibynnu ar yr heddlu yn sicrhau lleoliad newydd yng Nghanol Tref Pontypridd.

“Mae’r prosiect cyffrous hwn yn rhan o Gynllun 'Creu Lleoedd' Pontypridd y Cyngor, sy’n cyflawni buddsoddiad adfywio mawr ar draws canol y dref a’r ardaloedd cyfagos. Rydym ni eisoes wedi llwyddo i gyflawni Y Muni, YMa Pontypridd, datblygiad Llys Cadwyn, adfywio safle'r neuadd bingo, a chyfleuster Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf – tra bod prosiect 'plaza glan yr afon' ar safle hen siop M&S ar Stryd y Taf ar fin cyrraedd ei gamau olaf.

“Rwy’n falch ein bod wedi sicrhau cyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ar gyfer cam dymchwel yr orsaf heddlu, ochr yn ochr ag adnoddau’r Cyngor ei hun.

“Efallai y bydd trigolion ac ymwelwyr yn gweld hysbysiadau yn yr wythnosau nesaf, am y gwaith dymchwel, a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni.  Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod am ddyddiadau a threfniadau perthnasol i’r cyhoedd yn y dyfodol, unwaith y bydd cynnydd pellach.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: “Drwy’r buddsoddiad hwn rydym ni'n paratoi’r ffordd ar gyfer ailddatblygu, yn rhyddhau safle allweddol yng nghanol y dref ac yn creu cyfleoedd ar gyfer datblygiad cymysg, uchelgeisiol y mae cymunedau’n ei haeddu.

“Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi yn cefnogi cynghorau i ddod â mannau sydd heb eu defnyddio’n ddigonol yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol—gan greu mannau bywiog a hygyrch lle mae pobl eisiau byw, gweithio a threulio amser.

“Mae’r prosiect hwn yn gam pwysig wrth ailddychmygu canol tref Pontypridd, sy’n adeiladu ar y buddsoddiadau adfywio sylweddol eraill yn y dref yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau hyn yn datblygu yn y misoedd nesaf.”

Wedi ei bostio ar 24/03/2026