Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Arfaethedig ar gyfer Lôn Maesyffynnon, Aberaman

Mae'r Cyngor wedi cael Cymeradwyaeth Mewn Egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni bellach wedi cyflwyno'r achos busnes i'w adolygu gan Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni Cynllun Lliniaru Llifogydd mawr yn ardal Lôn Maesyffynnon yn Aberaman.

Yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid a phenodi contractwr wedi hynny, byddai'r cynllun yn lleihau'r risg o lifogydd i 56 eiddo preswyl a 3 eiddo masnachol. Bydd hyn yn darparu mesurau amddiffyn llawer gwell i'r gymuned leol trwy gyfres o ymyriadau wedi'u targedu. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Uwchraddio strwythurau mewnfa cwrs dŵr cyffredin presennol
  • Dargyfeirio dau gwrs dŵr cyffredin i wella capasiti llif
  • Adeiladu basn gwanhau newydd o 5,450m³ – sy'n gallu storio'r hyn sy'n cyfateb i 109,000 o faddonau o ddŵr, neu ddau bwll nofio maint Olympaidd, yn ystod stormydd
  • Gosod offer telemetreg o bell i gefnogi monitro amser real yn ystafell reoli argyfwng y Cyngor
  • Gwelliannau mynediad cysylltiedig i gefnogi gwaith cynnal a chadw parhaus

Bydd y cynllun arfaethedig hefyd yn rhesymoli sawl cwrs dŵr yn yr ardal, gan leihau'r angen am waith peirianneg sylweddol yn y dyfodol ar hyd Heol Caerdydd.

Mae tudalen we bwrpasol ar gyfer y cynllun yn cael ei diweddaru ar hyn o bryd a bydd yn darparu rhagor o fanylion wrth i'r prosiect fynd rhagddo tuag at ei gyflawni.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r Cyngor yn parhau i fynd ar drywydd ffynonellau ariannu allanol yn weithredol i gyflawni prosiectau fel rhan o raglen sylweddol o waith lliniaru llifogydd ledled y Sir, gan ganolbwyntio ar y cymunedau sydd fwyaf mewn perygl.

“Ers 2020, mae mwy na 150 o gynlluniau wedi’u cyflawni, ac er bod hyn yn cynrychioli cynnydd sylweddol, mae amlder cynyddol digwyddiadau tywydd garw yn dangos bod buddsoddiad parhaus yn hanfodol.

“Mae arwyddion bod y buddsoddiad yma'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol – yn ystod Storm Bert, amcangyfrifir bod 2,200 eiddo wedi’i ddiogelu drwy’r buddsoddiad pwrpasol rydyn ni wedi’i gyflawni.

“Mae ein cais diweddaraf i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27 yn rhan o becyn ehangach o fwy na £4 miliwn mewn cyllid allanol, a fydd yn caniatáu i 24 o gynlluniau blaenoriaeth wneud cynnydd dros y flwyddyn nesaf. Pan gaiff ei gyfuno â chyllid cyfatebol y Cyngor a dyraniadau sydd eisoes ar waith, bydd y buddsoddiad cyffredinol yn sylweddol uwch — gan adeiladu ar y £6 miliwn a sicrhawyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

“Mae cynllun Lôn Maesyffynnon yn rhan bwysig o’r gwaith parhaus yma, a bydd y Cyngor yn cyhoeddi diweddariad pellach unwaith y bydd cyllid wedi’i gadarnhau.”

Wedi ei bostio ar 24/03/2026