Skip to main content

Ymgyrch Newydd 'Cadw RhCT yn Daclus' yn lansio

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn lansio ei ymgyrch newydd Cadw RhCT yn Daclus. Dyma fenter fawr sydd â'r nod o fynd i'r afael â throseddau gwastraff – gan gynnwys sbwriel, baw cŵn, tipio anghyfreithlon a phroblemau amgylcheddol eraill sy'n effeithio ar gymunedau lleol.

Bydd yr ymgyrch yn annog pawb i ymfalchïo yn lle maen nhw'n byw, dathlu'r camau cadarnhaol sy'n cael eu gwneud gan drigolion cyfrifol ac atgyfnerthu'r neges bod cadw Rhondda Cynon Taf yn lân ac yn daclus yn gyfrifoldeb rydyn ni i gyd yn ei rannu.

Yn rhan o'r ymgyrch, mae sticeri a rhifau adnabod newydd yn cael eu gosod ar finiau sbwriel cyhoeddus ledled y fwrdeistref sirol i helpu trigolion i roi gwybod yn gyflymach am finiau sy'n llawn, wedi'u difrodi neu wedi'u fandaleiddio.

Bydd y sticeri hefyd yn tynnu sylw at y ffaith mai dim ond ar gyfer gwastraff wrth fynd y mae biniau sbwriel cyhoeddus - mae gadael bagiau o sbwriel wrth eu hymyl yn achos o dipio'n anghyfreithlon.

Daw'r lansiad wrth i Rondda Cynon Taf ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall o ailgylchu, gyda thrigolion yn helpu'r Cyngor i ragori ar y targed ailgylchu o 70% a gafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd o 21% yn y gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu, cynnydd o 11% yn y gwastraff ailgylchu sych a gostyngiad o 33% yn y gwastraff bagiau du a gasglwyd.

Mae ailgylchu yn RhCT mor hawdd! Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaeth ailgylchu cyfleus a rhad ac am ddim i drigolion, gan gynnwys casgliadau bagiau ailgylchu clir wythnosol, casgliadau gwastraff bwyd wythnosol, casgliadau gwastraff gwyrdd wythnosol a chasgliadau cewynnau wythnosol.

Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod y mwyafrif llethol o drigolion yn gwneud y peth iawn ac yn gwneud defnydd llawn o'r holl wasanaethau sydd ar gael.

Yn anffodus, mae lleiafrif bach yn parhau i roi gwastraff cartref mewn biniau sbwriel cyhoeddus neu'n gadael bagiau o wastraff wrth eu hymyl pan fydd biniau'n llawn. Mae'r camddefnydd hwn yn llenwi biniau sydd wedi'u bwriadu ar gyfer caniau diodydd, deunydd pecynnu brechdanau, pecynnau creision ac eitemau bach eraill o sbwriel sy'n cael eu cynhyrchu pan fydd pobl allan ar hyd y lle. Unwaith y bydd biniau'n llawn, yn aml caiff rhagor o wastraff ei adael wrth eu hymyl, gan greu tipio anghyfreithlon hyll ac ardaloedd â phroblem o ran sbwriel mewn cymunedau lleol. Dydy biniau sbwriel cyhoeddus ddim wedi'u cynllunio i ddal gwastraff cartref. Ddylen nhw byth cael eu defnyddio fel dewis amgen yn lle casgliadau gwastraff ailgylchu a chasgliadau gwastraff cartref.

Dywedodd y Cynghorydd Louisa Addicott, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Seilwaith Cyfalaf:

"Mae'r rhan fwyaf o drigolion ledled Rhondda Cynon Taf yn falch o ble maen nhw'n byw ac yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw ein bwrdeistref sirol hardd yn DACLUS!" Mae trigolion eisoes wedi ein helpu i ragori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru ac maen nhw'n ailgylchu mwy o wastraff bwyd a gwastraff ailgylchu sych nag erioed o'r blaen.

“Yn anffodus, mae lleiafrif bach yn dal i drin biniau sbwriel cyhoeddus fel biniau gwastraff cartref, gan dipio gwastraff yn anghyfreithlon y byddai modd ei gymryd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned, neu drwy beidio â glanhau ar ôl eu cŵn – mae'r holl bethau hyn yn difetha'r gymuned ac yn ei gwneud yn hyll i'r mwyafrif. Fel Cyngor mae gyda ni hanes cryf o gymryd camau yn erbyn troseddau amgylcheddol a byddwn ni'n parhau i ymchwilio i ddigwyddiadau a chyhoeddi Hysbysiadau Cosb Benodedig ble y bo'n addas.

“Mae biniau sbwriel cyhoeddus yno ar gyfer sbwriel wrth fynd. Dydyn nhw ddim wedi'u bwriadu ar gyfer bagiau du, sbwriel cartref na gwastraff bwyd. Pan fydd gwastraff cartref yn cael ei roi ynddyn nhw, mae biniau'n gorlifo'n gyflym, gan greu problemau sbwriel a thipio anghyfreithlon i gymunedau lleol. Drwy'r ymgyrch newydd hon, Cadw RhCT yn Daclus, rydyn ni'n gofyn i bawb chwarae eu rhan. Boed yn ailgylchu'n gywir, glanhau ar ôl eich ci, rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon, rhoi sbwriel yn y bin neu ein helpu i roi gwybod am finiau llawn neu finiau sydd wedi'u difrodi, mae modd i ni gyd wneud gwahaniaeth.

Os yw bin yn llawn, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio'r rhif bin newydd. Peidiwch â gadael sbwriel wrth ei ymyl. Gyda'n gilydd mae modd i ni gadw ein strydoedd, ein parciau a'n cymunedau'n lân ac yn DACLUS!"

Yn rhan o'r ymgyrch, bydd pob bin sbwriel bellach yn arddangos rhif adnabod unigryw i helpu'r Cyngor i ymateb yn gyflymach i adroddiadau. Mae modd i drigolion sy'n gweld bin sy'n llawn, wedi'i ddifrodi neu wedi'i fandaleiddio nodi'r rhif wrth gysylltu â'r Cyngor, gan helpu swyddogion i nodi a datrys problemau'n gyflymach.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion i wneud y canlynol:

  • Defnyddio biniau sbwriel cyhoeddus yn gywir ar gyfer gwastraff wrth fynd.
  • Ailgylchu gwastraff cartref gan ddefnyddio gwasanaethau casglu wythnosol am ddim y Cyngor.
  • Glanhau ar ôl eu cŵn a gwaredu gwastraff yn gyfrifol.
  • Rhoi gwybod am finiau sbwriel sy'n llawn, wedi'u difrodi neu wedi'u fandaleiddio.
  • Peidio byth â gadael bagiau o sbwriel wrth ymyl biniau cyhoeddus.
  • Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon a throseddau amgylcheddol pan fyddan nhw'n eu gweld.
  • Cymryd balchder yn eu cymuned a helpu i Gadw RhCT yn Daclus.

Mae'r neges yn un syml:

Dewch i ni GADW RHCT YN DACLUS.

Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch ewch i www.rctcbc.gov.uk/CadwRhCTynDACLUS neu dilynwch Gyngor RhCT ar Facebook ac Instagram.

Wedi ei bostio ar 30/09/2026