Mae'r Cynghorydd Maureen Webber BEM wedi cyhoeddi ei phenderfyniad i roi'r gorau i'w swydd yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yng nghyfarfod y Cyngor Llawn y mis yma, a hynny yn rhan o'i bwriad i beidio â sefyll yn yr etholiad nesaf.
Mae'r Cynghorydd Webber wedi chwarae rhan flaenllaw yng Nghabinet y Cyngor ers 2010 ac wedi bod yn aelod etholedig o Gyngor Rhondda Cynon Taf ers 1996, gan wasanaethu cymunedau wardiau etholiadol Rhydfelen a Threfforest.
Yn ogystal â'i chyfrifoldebau yn Ddirprwy Arweinydd, cafodd y Cynghorydd Webber ei phenodi'n Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor, gan gefnogi ymrwymiad y Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog a helpu i sicrhau bod cyfraniad unigolion sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, a'u teuluoedd yn cael ei gydnabod ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn ystod ei chyfnod yn y Cabinet, mae'r Cyngor wedi ymateb i rai o'r heriau mwyaf arwyddocaol i wynebu llywodraeth leol dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny gan barhau i fuddsoddi mewn cymunedau a'r gwasanaethau rheng flaen y mae trigolion yn dibynnu arnyn nhw.
Wrth siarad cyn cyfarfod y Cyngor Llawn, dywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Maureen Webber BEM: “Mae hi wedi bod yn fraint enfawr bod yn Ddirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ers 2016, a chael y cyfle i chwarae fy rhan wrth gynrychioli ein cymunedau a helpu i lunio dyfodol ein Bwrdeistref Sirol.
“Yn y pen draw, mae llywodraeth leol yn ymwneud â phobl a chymunedau, a thrwy gydol fy amser yn Gynghorydd, rydw i wedi bod yn effro iawn i'r cyfrifoldeb sydd gyda ni, gynrychiolwyr etholedig, i weithio’n galed ar ran y trigolion a’r ardaloedd rydyn ni'n eu gwasanaethu.
“Rydw i hefyd wedi bod yn hynod falch o fod yn Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor. Mae cymuned ein Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, ein cyn-filwyr a'u teuluoedd, yn gwneud cyfraniad enfawr i Rondda Cynon Taf, ac mae hi wedi bod yn fraint hyrwyddo eu buddiannau a helpu i sicrhau bod y cyfraniad hwnnw'n cael ei gydnabod mewn modd priodol.
“Felly, hoffwn ddiolch o galon i bob aelod o staff ym mhob rhan o'r Cyngor. Fyddai dim modd i ni ddarparu gwasanaethau na rhoi'r fath gymorth i'n cymunedau heb eu holl waith caled.
“Yn bwysicaf oll, mae hi wedi bod yn fraint gwasanaethu a chynrychioli’r gymuned sy'n gartref i mi, ac eiriol yn gryf dros anghenion trigolion lleol.
“Roedd hi’n fraint bod yn Aelod o'r Cabinet o dan bedwar Arweinydd yn y Cyngor, a hoffwn ddiolch o galon i’m cydweithwyr yn y Cabinet a’m Cyd-gynghorwyr am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch dros y blynyddoedd yma.
“Mae Rhondda Cynon Taf yn lle gwahanol iawn heddiw, ac rydw i'n falch o fod wedi chwarae rhan yn y cynnydd rydyn ni wedi’i wneud a’r buddsoddiadau sydd wedi mynd rhagddyn nhw ym mhob un o'n cymunedau.
“Mae rhoi'r gorau i fy swydd yn Ddirprwy Arweinydd wedi bod yn benderfyniad anodd wrth gwrs, ond rydw i'n hynod falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd ac yn ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle yma i wasanaethu pobl Rhondda Cynon Taf.”
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Maureen wedi gwneud cyfraniad enfawr i Gyngor Rhondda Cynon Taf dros nifer o flynyddoedd, ac mae hi wedi bod yn gydweithiwr ac yn ffrind dibynadwy a gwerthfawr.
“Wrth ei gwaith yn Ddirprwy Arweinydd, mae hi wedi manteisio ar ei phrofiadau ac wedi dangos ymrwymiad ac angerdd gwirioneddol dros y cymunedau rydyn ni’n eu cynrychioli. Mae ei chyfraniad at waith y Cabinet a’r Cyngor ehangach wedi bod yn amhrisiadwy.
“Mae ei hymrwymiad hefyd wedi bod yn amlwg drwy ei gwaith yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, lle mae hi wedi gweithio’n ddiflino i hyrwyddo ein cymuned Lluoedd Arfog a sicrhau bod unigolion sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd yn cael y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth y maen nhw'n eu haeddu.
“Mae record gwasanaeth cyhoeddus Maureen yn ymestyn yn ôl dros dri degawd, ac mae’r hirhoedledd hwnnw’n dweud cyfrolau am ei hymroddiad i’r cymunedau y mae hi'n eu cynrychioli.
“Ar lefel bersonol, hoffwn ddiolch i Maureen am y gefnogaeth y mae hi wedi’i rhoi i mi yn Arweinydd, ac am y cyfeillgarwch, y profiad a’r ymroddiad y mae hi wedi’u cyfrannu i waith y Cabinet.
“Ar ran y Cyngor, hoffwn ddiolch i Maureen am ei gwasanaeth yn Ddirprwy Arweinydd ac am y cyfraniad sylweddol y mae hi wedi’i wneud, ac y mae hi’n parhau i’w wneud, i Rondda Cynon Taf. Rwy’n siŵr y bydd hi’n parhau i fod yn Aelod gweithgar o’r Cabinet ac yn Gynghorydd lleol am weddill tymor presennol y Cyngor.”
Mae'r Cynghorydd Webber wedi cynrychioli ei chymuned leol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ers mwy na thri degawd. Cafodd hi ei hethol gyntaf ym 1996 i gynrychioli ward Trefforest, ac ers hynny mae hi wedi cynrychioli ardal Rhydfelen, gan gynnwys hen ward Canol Rhydfelen/Ilan. Ar hyn o bryd mae hi'n cynrychioli ward Canol Rhydfelen yn dilyn y newidiadau i'r ffin yn 2022.
Bydd y Cynghorydd Webber yn ymddiswyddo'n ffurfiol o'i gwaith yn Ddirprwy Arweinydd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 11 Tachwedd, 2026.