Skip to main content

Mae Apêl Siôn Corn 2026 AR AGOR NAWR!

Untitled Design (35)

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi lansio ei Apêl Siôn Corn flynyddol i sicrhau y bydd gan bob plentyn yn y Fwrdeistref Sirol anrheg Nadolig eleni.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae trigolion, busnesau a sefydliadau partner hael yn rhoddi miloedd o anrhegion i sicrhau bod gan blant a phobl ifainc anrheg i'w hagor ar Ddydd Nadolig.

Diolch i'w haelioni, roedd gan bob un o'r plant yma - sydd wedi'u henwebu gan weithwyr cymdeithasol - anrheg i'w hagor ac roedd pob un o'r anrhegion yma wedi cael eu dewis gan ystyried oedran y plentyn.

Mae cefnogi Apêl Siôn Corn yn hawdd, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw e-bostio apelsioncorn@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425025 a nodi faint o blant yr hoffech chi brynu anrheg ar eu cyfer.

Bydd staff Gofal i Gwsmeriaid, trwy weithio gyda Gweithwyr Cymdeithasol, yn rhoi enw ffug i chi (er mwyn amddiffyn hunaniaeth y plentyn) ond bydd yn cynrychioli plentyn go iawn yn Rhondda Cynon Taf, a'i oedran.

Ar ôl dewis anrheg, rhowch hi mewn bag anrheg agored (peidiwch â lapio'r anrheg) ac ewch â hi i fan casglu erbyn y dyddiad cau.

Bydd staff Cyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n rhoi o'u hamser, yn casglu'r holl anrhegion a sicrhau eu bod nhw'n cyrraedd y ganolfan ddosbarthu, er mwyn i'r gweithwyr cymdeithasol eu rhoi nhw i'r plant erbyn Noswyl Nadolig.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Bob blwyddyn, rydyn ni'n cael ein syfrdanu gan garedigrwydd a haelioni ein trigolion, busnesau a phartneriaid trwy Apêl Siôn Corn.

“Mae wir yn dangos ysbryd yr ŵyl, wrth i bobl roi gwybod am eu bwriad i brynu anrhegion a dewis eitemau yn ofalus maen nhw'n gwybod y bydd y plentyn yn eu mwynhau.

“Mae pobl yn dweud mai'r Nadolig yw adeg orau'r flwyddyn ac mae hynny'n wir, wrth i ni gasglu miloedd o anrhegion, gan wybod bod pob un ohonyn nhw'n mynd i blant i'w hagor ar Ddydd Nadolig.

“Os ydych chi'n cefnogi Apêl Siôn Corn eto eleni, rydyn ni'n diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus. Os mai dyma'r flwyddyn gyntaf i chi gefnogi, croeso i un o'r pethau gorau y byddwch chi'n ei wneud eleni!”

Bydd Apêl Siôn Corn yn agor o 3 Tachwedd, sy'n golygu y bydd modd i chi e-bostio neu ffonio o'r dyddiad hwnnw. Bydd y llinellau ffôn ar agor rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener, 9.30am-4.30pm. Mae modd i chi roi gwybod am eich bwriad i brynu anrheg rhwng 3 Tachwedd ac 11 Rhagfyr.

Mae angen i anrhegion gyrraedd y mannau casglu erbyn 14 Rhagfyr.

Dyma'r mannau casglu ar gyfer 2026:

 

Llyfrgelloedd

Llyfrgell Aberpennar

Llyfrgell Tonypandy

Llyfrgell Aberdâr

Llyfrgell Glynrhedynog

Llyfrgell Treorci

Llyfrgell Porth

Canolfannau Hamdden

Canolfan Chwaraeon Abercynon

Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda

Canolfan Hamdden Sobell

Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen

Canolfan Hamdden Llantrisant

Llys Cadwyn, Pontypridd

Swyddfeydd eraill

Tŷ Catrin, Pontypridd

Tŷ Glantaf, Pontypridd

Tŷ Elái, Trewiliam

Prif Swyddfeydd Cwm Cynon

Wedi ei bostio ar 03/11/2026