Skip to main content

Mae Wythnos Diogelu yn annog cymunedau i edrych y tu hwnt i'r hyn sy'n amlwg

Dyw niwed cudd ddim bob amser yn hawdd i'w weld, ond o ddeall arwyddion posibl, gwrando heb farnu a gwybod sut i ymateb, bydd modd helpu i amddiffyn plentyn neu oedolyn sydd efallai mewn perygl.

Mae Wythnos Diogelu 2026 yn digwydd o ddydd Llun, 9 Tachwedd, tan ddydd Gwener, 13 Tachwedd, ac mae'r thema ranbarthol eleni yn canolbwyntio ar Niwed Cudd yn Ein Cymunedau.

Drwy gydol yr wythnos, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymuno â Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg a sefydliadau partner eraill i godi ymwybyddiaeth o'r ffyrdd gwahanol y gall niwed aros yn gudd a'r rôl bwysig mae modd i drigolion, gweithwyr proffesiynol a chymunedau ei chwarae wrth nodi pryderon ac ymateb iddyn nhw.

Mae modd i niwed cudd fod ar sawl ffurf. Efallai ei fod yn digwydd heb i neb wybod, o fewn perthnasoedd, ar-lein neu drwy sefyllfaoedd ac ymddygiadau nad ydyn nhw'n cael eu nodi ar unwaith yn bryderon diogelu.

Efallai bod rhywun sy'n profi niwed hefyd yn ei chael hi'n anodd dweud wrth rywun beth sy'n digwydd oherwydd ofn, cywilydd, unigedd neu ddibyniaeth, neu oherwydd ei fod yn cael ei reoli. Er nad oes un arwydd o reidrwydd yn golygu bod rhywun mewn perygl, ni ddylid diystyru newidiadau mewn ymddygiad neu amgylchiadau heb feddwl.

Cyfrifoldeb pob un ohonon ni yw diogelu. Ystyr hyn yw edrych y tu hwnt i'r hyn sy'n amlwg, cymryd pryderon o ddifrif a'u rhannu drwy'r llwybrau diogelu priodol.

Mae rhaglen gweithgareddau rhanbarthol Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau ar-lein sy'n ymdrin â materion diogelu pwysig.

Mae'r sesiynau'n cynnwys deallusrwydd artiffisial a cham-drin rhywiol plant, niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, hunanladdiad a hunan-niweidio, cam-drin domestig, ymddygiad troseddwyr, camfanteisio troseddol ar blant, llinellau cyffuriau, cyfrifoldebau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, chwilfrydedd proffesiynol, hunan-esgeulustod a chelcio, sbeicio a chamfanteisio rhywiol ar blant.

Mae'r rhaglenyn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth o sefydliadau a siaradwyr, gan gynnwys Respect, Sefydliad Lucy Faithfull, Wes Cunliffe, TARIAN ROCU, y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac eraill.

P'un a ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant neu oedolion, â chyfrifoldebau diogelu neu eisiau datblygu eich gwybodaeth, mae Wythnos Diogelu yn rhoi cyfle i ddysgu rhagor am rai o'r niwed sy'n effeithio ar bobl a chymunedau.

Cymerwch gip ar y rhaglen lawn a chadw eich lle ar y sesiynau sydd o ddiddordeb i chi.

Gyda'n gilydd, mae modd i ni helpu i nodi niwed cudd a chryfhau diogelu ledled Rhondda Cynon Taf.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gofal Cymdeithasol: “Dyw niwed ddim bob amser yn weladwy, ac efallai na fydd rhywun sydd angen help yn teimlo ei fod yn gallu dweud wrth eraill beth sy'n digwydd. Os bydd newidiadau mewn ymddygiad, amgylchiadau heb eu hesbonio neu rywbeth nad yw'n ymddangos yn iawn, efallai bod hyn yn arwydd bod angen rhagor o gymorth.

“Mae diogelu yn gyfrifoldeb pawb, ond does dim disgwyl i unrhyw un ymchwilio i bryder eu hunain. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gwrando heb farnu, yn edrych y tu hwnt i'r hyn sy'n amlwg ac yn rhannu pryderon drwy'r llwybrau diogelu priodol.

“Mae rhaglen eleni yn gyfle pwysig i drigolion a gweithwyr proffesiynol ddysgu rhagor am y ffyrdd gwahanol y gall niwed cudd effeithio ar bobl yn ein cymunedau, sut i nodi pryderon posibl a sut i ymateb yn briodol.

“Rwy’n annog pawb i archwilio’r rhaglen a chymryd rhan yn y sesiynau sy’n berthnasol iddyn nhw.”

Adrodd pryder diogelu

Mae cyfrifoldeb ar unrhyw berson sydd â phryderon ynghylch diogelwch plentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, neu ymddygiad gweithiwr tuag at blentyn/oedolyn sy'n agored i niwed, i roi gwybod am ei bryderon:

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i wefan Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg: Bwrdd Diogelu | Diogelu, Cwm Taf Morgannwg

Wedi ei bostio ar 09/11/2026