Skip to main content

Dathlu agor Ysgol Cambrian i staff a disgyblion heddiw

Cambrian

Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod Ysgol Cambrian yng Nghwm Clydach wedi agor i ddisgyblion a staff heddiw. Dyma'r pumed Ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r ysgol wedi agor ar safle newydd o'r radd flaenaf, diolch i fuddsoddiad mawr gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. 

Yn dilyn cwblhau’r gwaith adeiladu, trosglwyddodd y contractwr, Morgan Sindall Construction, yr ysgol wych yma i’r Cyngor yr wythnos ddiwethaf. Mae swyddogion wedi parhau i gefnogi'r ysgol wrth iddyn nhw symud i'r adeilad newydd a sefydlu'r cyfleusterau dros yr wythnos ddiwethaf - gyda staff hefyd yn manteisio ar ddau ddiwrnod HMS a gynhaliwyd dydd Llun a dydd Mawrth yr wythnos yma. Pennaeth Gweithredol yr ysgol yw Aron Bradley, ac Arweinydd yr Ysgol yw Nicola Clark.

Cafodd Ysgol Cambrian ei hagor i ddisgyblion a staff heddiw, ddydd Mercher, 4 Tachwedd, gan nodi dechrau pennod newydd ar gyfer addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf.

Mae gan yr adeilad modern o'r radd flaenaf 23 o ystafelloedd dosbarth yn ogystal â mannau ategol, gan gynnwys pwll hydrotherapi a chanolfan les. Ewch i'n gwefan am ragor o wybodaeth. Mae'r prosiect wedi cynnwys uwchraddo’r cae chwaraeon 4G ar safle'r maes chwaraeon cyfagos.Caiff y safle yma ei reoli gan Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian. Bydd modd i Ysgol Cambrian ddefnyddio'r cyfleuster yn ystod oriau dydd.

Bydd Ysgol Cambrian yn rhoi cymorth i ddisgyblion ag anhwylder y sbectrwm awtistig, anawsterau dysgu difrifol, anawsterau dysgu dwys a lluosog, anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol, ac amhariad ar y synhwyrau.

Mae'r buddsoddiad wedi ymateb i'r nifer cynyddol o ddisgyblion ADY yn Rhondda Cynon Taf, cymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, a phwysau o ran capasiti yn y pedair ysgol ADY bresennol. Mae’r ysgol wedi’i darparu yn rhan o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc: “Heddiw rydyn ni'n dathlu pennod gyntaf Ysgol Cambrian, ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd wych sy'n agor ar safle newydd o'r radd flaenaf yng Nghwm Clydach. Mae gan yr ysgol gyfleusterau modern sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu ystod eang o anghenion disgyblion, ac mae'n cynnwys pwll hydrotherapi, ystafell drampolîn, a chanolfan les - yn ogystal â nifer o fannau chwarae awyr agored ac ardal ddysgu awyr agored ar y balconi.

“Mae buddsoddi mewn cyfleusterau ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yn flaenoriaeth barhaus i’r Cyngor yma, gan ymateb i dwf yn nifer y dysgwyr ar draws ein pedair ysgol ADY bresennol, gydag anghenion disgyblion hefyd yn dod yn fwy cymhleth. Dydy ein buddsoddiad ddim yn dod i ben yma gan y bydd Buarth y Capel yn Ynys-y-bwl, safle lloeren ADY Ysgol Tŷ Coch, yn derbyn bloc addysgu newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Mae’r cynllun yma eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio. Mae'r prosiectau yma'n dilyn estyniad diweddar gwerth £1.5 miliwn yn Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghwmdâr, a lleoliad ADY Blynyddoedd Cynnar newydd sydd wedi'i agor yn Nhonyrefail.

“Ymwelais â safle Ysgol Cambrian yn ddiweddar i weld yr adeilad newydd yn ystod cam olaf y gwaith adeiladu, ac mae’n gyfleuster gwych. Mae'r amgylchedd dysgu newydd yn fodern, yn olau, yn llachar ac yn ysgogol – rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono. Bydd y cyfleuster yma’n gwasanaethu ein pobl ifainc am genedlaethau i ddod. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r ysgol yn fuan i weld sut mae pawb wedi ymgartrefu.

“Hoffwn i ddiolch i bawb a helpodd i wneud Ysgol Cambrian yn bosibl - o swyddogion y Cyngor sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect yma o’r cam cyntaf i’r cam olaf, i gontractwr y prosiect am ddarparu’r cyfleusterau gwych yma, yn ogystal â’r staff, y disgyblion a’u teuluoedd am eu cefnogaeth amhrisiadwy ar hyd y ffordd. Hoffwn i ddymuno pob lwc i bawb sydd ynghlwm â'r ysgol wrth iddi agor ei drysau am y tro cyntaf!”.

Dysgwch ragor am fuddsoddiad mawr y Cyngor mewn ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf ar ein tudalennau gwe #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 04/11/2026