Skip to main content

Cau llwybrau troed i atgyweirio wal ar hen domen lo ym Mhenrhiwceiber

Penrhiwceiber

O ddiddordeb i drigolion Penrhiwceiber, mae cynllun gwaith lleol yn dechrau heddiw, dydd Llun, 2 Tachwedd, i atgyweirio arglawdd glan yr afon  wrth droed tomen glo, lle bydd angen cau nifer o lwybrau troed dros yr wythnosau nesaf.

Mae'r Cyngor yn cynnal y gwaith yma gan ddefnyddio cyllid sylweddol gan Lywodraeth Cymru er mwyn atgyweirio hen domenni glo, a'u cynnal a chadw.

Mae'r arglawdd sydd angen ei atgyweirio i'w weld yn y lleoliad yn y llun, ar hyd Afon Cynon i'r de o faes chwaraeon Pentwyn. Bydd contractwr y Cyngor, Edwards Diving Services, yn cynnal y gwaith dros y chwe wythnos nesaf er mwyn adfer rhan o'r arglawdd sydd wedi erydu.

Er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith yn ddiogel, mae'r contractwr angen mynediad cyhoeddus cyfyngedig ar hyd rhan o'r llwybr troed, a fydd ar gau dros dro yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd. Bydd y contractwr yn gosod arwyddion a rhwystrau priodol i roi gwybod i drigolion lleol bod ardaloedd ar gau.

Mae'r cynllun wedi derbyn cyllid trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru yn 2026/27. Mae'r Cyngor wedi sicrhau £13.7 miliwn trwy'r grant yma i barhau ag arolygiadau, mesurau cynnal a chadw a gwaith ledled safleoedd hen domenni glo yn Rhondda Cynon Taf eleni.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 02/11/2026