Derbyn plant i ysgolion a gofal plant
Rhowch amser i blant a phobl ifainc setlo ac adfer ar ôl cyrraedd a pheidiwch â rhuthro i wneud cais am le mewn ysgol.
Mae modd i chi neu'r teulu sy'n lletya wneud cais am le i'ch plentyn mewn ysgol yn Rhondda Cynon Taf. Bydd angen i chi wneud cais am le mewn ysgol drwy'r broses Derbyn Disgyblion.
Mae modd i'ch Aseswr Lles eich helpu gyda hyn hefyd. Unwaith y bydd eich plentyn/plant yn yr ysgol bydd modd iddyn nhw roi cymorth pellach i chi yn awtomatig lle bo angen, gan gynnwys unrhyw anghenion addysgol arbennig y bydd eu hangen arnoch chi.
Cyflwyno cais am le mewn ysgol
Mae modd i rieni Wcreineg wneud cais am le mewn ysgol i'w plentyn cyn gynted ag y byddan nhw'n cyrraedd. Bydd angen iddyn nhw ddilyn y broses arferol ar gyfer cyflwyno cais am le mewn ysgol.
Dylai bod modd i'ch noddwr ddweud wrthoch chi pa ysgol sydd agosaf at ble byddwch chi'n byw ond mae modd i chi hefyd 'chwilio am ysgol' ar y wefan yma.
Mae'r wefan Refugee Education UK yn rhoi cyngor a chymorth i helpu ffoaduriaid ifainc i gael mynediad at addysg.
Grant gwisg ysgol
Mae modd i rieni wneud cais am grant untro i helpu i dalu am wisg ysgol. Bydd modd i'ch ysgol neu'ch Aseswr Lles eich cynorthwyo chi gyda hyn os oes angen.
Mae rhagor o wybodaeth am y grant ar gael ar y tudalennau canlynol.
Mae cyllid o hyd at £125 ar gael ar gyfer pob disgybl cymwys, ac eithrio'r rhai ym mlwyddyn 7. Bydd gan ddisgyblion cymwys ym Mlwyddyn 7 hawl i hyd at £200.
Prydau Ysgol am Ddim
Mae modd i rieni wneud cais am brydau ysgol os ydyn nhw'n gymwys.
Mae rhagor o wybodaeth ar y tudalennau canlynol.
Gofal Plant
Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) y Cyngor yn cynnig gwybodaeth a gwasanaeth atgyfeirio am ddim i BOB rhiant, cynhaliwr a gwarcheidwad ar ystod eang o faterion, o chwilio am opsiynau o ran gofal plant, achlysuron a gweithgareddau a chynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau.
Mae rhagor o wybodaeth am blant a theuluoedd ar gael ar y tudalennau pwrpasol yma.
Addysg i Oedolion
Bydd modd i chi astudio ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) am ddim, mewn dosbarthiadau yng nghampws Trefforest Prifysgol De Cymru
Cyfeiriad: Heol Llanilltud, Pontypridd, CF37 1DL.
Mae Coleg y Cymoedd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael i ddisgyblion ôl-16 eu mynychu a chymwysterau mewn pynciau megis chwaraeon, cyfrifiaduron, arlwyo a harddwch. Bydd Coleg y Cymoedd hefyd yn cynnig ESOL.
Mae Addysg i Oedolion RhCT yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i ennill sgiliau newydd, gan gynnwys cyfrifiaduron ac ieithoedd, a datblygu hobi. Maen nhw hefyd yn cynnig ystod o gyrsiau sy’n ddelfrydol ar gyfer y sawl sy’n edrych am rywbeth gwahanol, e.e. coginio bwydydd Indiaidd, seryddiaeth, roboteg a thriniaethau harddwch.
Rhagor o wybodaeth:
Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg
Heol Sant Illtyd
Pentre'r Eglwys
Pontypridd
CF38 1RQ
Ebost addysgoedolion@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 570077