Browser does not support script.
Os ydych chi'n dod ar draws coeden beryglus, bydd rhaid ichi'n gyntaf ganfod pwy sy biau'r tir lle mae hi’n tyfu.
Rydyn ni'n sylweddoli bod mater y newid yn yr hinsawdd ar frig yr agenda i lawer o bobl ac rydyn ni'n gweithio’n galed i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng gwaith tocio/torri coed, y mae’n rhaid ei wneud am resymau iechyd a diogelwch, a phlannu coed i wrthbwyso'r newid yn yr hinsawdd.
Mae clefyd coed ynn yn afiechyd difrifol mewn coed ynn ac mae'n cael ei achosi gan ffwng (Hymenoscyphus Fraxineus). Mae'r clefyd yn lledu yn y DU gan achosi coed i golli dail a'u corunau wywo ac mae modd iddo arwain at farwolaeth y goeden