Skip to main content

Bagiau ailgylchu clir

Mae casgliadau bagiau ailgylchu clir ar gyfer eitemau ailgylchadwy sych ac maen nhw'n cael eu casglu o ochr y ffordd bob wythnos.

 

Dyma sut mae'n gweithio

Rydyn ni'n darparu bagiau ailgylchu clir ar gyfer eich eitemau ailgylchadwy cartref sych. Mae modd eu rhoi wrth ymyl y ffordd i'w casglu bob wythnos. Mae bagiau am ddim ac mae modd eu casglu o nifer o leoliadau yn Rhondda Cynon Taf.

Dysgwch ragor am le i gasglu rhagor o fagiau.

Rydyn ni'n mynd â'ch gwastraff ailgylchu i ganolfan ailgylchu Amgen Cymru yn Llwydcoed, lle mae'n cael ei ddidoli a'i hanfon i ganolfannau ailgylchu penodol ledled y DU. 

Sicrhewch y canlynol cyn rhoi eich bagiau allan i'w casglu:

  • Gwiriwch eich diwrnod casglu bagiau ailgylchu clir
  • Rhowch eitemau ailgylchadwy cartref yn unig yn eich bag
  • Golchwch eich plastigion, gwydrau a chaniau
  • Mae modd i bob eitem ailgylchadwy fynd yn yr un bag
  • Peidiwch â gorlenwi'ch bag
  • Clymwch ben eich bag yn dynn
  • Rhowch eich gwastraff allan yn eich pwynt casglu unrhyw bryd rhwng 7pm y noson gynt a 7am ar fore'r diwrnod casglu.
  • Mae modd i chi roi cynifer o fagiau ailgylchu clir ag sydd eu hangen arnoch chi allan i'w casglu.
Peidiwch â defnyddio bagiau ailgylchu ar gyfer eich gwastraff bagiau du. Mae modd i gamddefnyddio bagiau ailgylchu arwain at ddirwy o £100.

Beth sy'n cael a ddim yn cael mynd yn eich bagiau:

Yn cael mynd yn y bagiau:

  • poteli a jariau gwydr
  • caniau metel, tuniau, aerosolau a ffoil
  • poteli, potiau, tybiau a hambyrddau plastig
  • pacedi bwyd a diod
  • papur a chardbord
  • plastigion meddal - er enghraifft bagiau plastig, bagiau bara, bagiau salad a leininau blychau grawnfwyd, pecynnau bisgedi, gorchuddion melysion, selephane a phapur swigod

Ddim yn cael mynd yn y bagiau:

Mae cyfarwyddiadau llawn mewn perthynas â'r hyn sy'n cael mynd yn eich bagiau ailgylchu clir wedi'i argraffu ar y bag.

Os nad oes modd i chi ddod o hyd i eitem neu ateb ar y rhestr yma, bwriwch olwg ar ein chwilotwr ailgylchu Alffa i Omega.

Casglwch ragor o fagiau

Mae bagiau am ddim ac mae modd eu casglu o nifer o leoliadau yn Rhondda Cynon Taf.

Dysgwch ragor am le i gasglu rhagor o fagiau.

Mae sticer ar eich bag 

Os bydd bag ailgylchu yn cynnwys eitemau nad oes modd eu hailgylchu, yna fyddwn ni ddim yn ei gasglu.

Bydd sticer yn cael ei roi ar eich bag a bydd angen i chi ail-ddidoli'r bag, tynnu'r eitemau nad ydyn nhw'n gallu cael eu hailgylchu a'i roi yn ôl allan i'w gasglu'r wythnos ganlynol.

Bwriwch olwg ar ragor o wybodaeth mewn perthynas â'r hyn sydd angen i chi ei wneud os oes sticer ar eich bag.

Mannau casglu

Bydd eich man casglu naill ai wrth ymyl y ffordd neu mewn lleoliad cymunedol rydych chi'n ei rannu.

Rhowch eich bagiau ailgylchu clir yn eich man casglu, peidiwch â rhwystro palmentydd nac ymylon palmant isel.

Grwpiwch fagiau gyda'i gilydd yn ôl math mewn mannau casglu cymunedol er mwyn iddyn nhw fod yn hawdd eu gweld.

Os oes gyda chi broblemau o ran lle rydych chi'n rhoi eich bagiau, neu os yw eich cymdogion yn rhoi eu bagiau y tu allan i'ch eiddo, e-bostiwch: GorfodiGofalyStrydoedd@rctcbc.gov.uk gan nodi cymaint o wybodaeth â phosibl er mwyn i ni ymchwilio. Fyddwch chi ddim yn cael eich cosbi os dydych chi ddim ar fai.

Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu

Efallai y bydd ein criwiau’n rhedeg yn hwyr ac efallai na fydd modd iddyn nhw gasglu eich bagiau tan yn ddiweddarach yn y dydd. Os nad yw eich bagiau wedi cael eu casglu ar ôl 24 awr, mae modd i chi roi gwybod am wastraff sydd heb ei gasglu.

 

Tudalennau Perthnasol