Green-Waste-2021-web-banner-WELSH

Gwastraff Gwyrdd

Oherwydd y rhybudd tywydd coch presennol am wres eithafol, mae casgliadau gwastraff gwyrdd wedi'u trefnu ar gyfer dydd Iau (25 Mehefin) a dydd Gwener (26 Mehefin) wedi cael eu canslo.

Cafodd y penderfyniad yma ei wneud er mwyn bod modd i'n criwiau helpu i gasglu gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchu eraill.

Os oedd eich gwastraff i fod i gael ei gasglu yfory neu ddydd Gwener, byddan nhw'n cael eu casglu yr wythnos nesaf ar eich diwrnod casglu arferol.

Os oes angen i chi gael gwared ar y gwastraff gwyrdd yn gynt, ewch ag ef i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned. Dewch o hyd i'ch un agosaf yma - www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu

Os na chafodd eich gwastraff ei gasglu yn gynharach yr wythnos yma (casgliadau a oedd i fod i gael eu casglu cyn dydd Iau), does dim angen rhoi gwybod am y casgliad wedi'i fethu. Gadewch eich eitemau wrth ymyl y ffordd a bydd y criwiau'n eu casglu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny dros yr ychydig ddyddiau nesaf.

Diolch am eich amynedd.

Green-waste-sack

Cofrestrwch a rheoli eich sachau a chasgliadau gwastraff gwyrdd.

Recycling-Truck

Dysgwch ragor am pryd mae casgliadau gwastraff gwyrdd yn cael eu cynnal yn ystod misoedd yr haf a'r gaeaf.

What-can-i-recycle

Dysgwch ragor am sut a beth mae modd ei roi a does dim modd ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd.

information

Atebion i'ch cwestiynau am gasgliadau gwastraff gwyrdd.

Green-waste-sack

Archebwch ragor o sachau gwastraff gwyrdd ar-lein 

location

Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau yn ymwneud â sachau sydd ar goll neu sydd wedi'u difrodi 

Recycling-Truck

Rhowch wybod i ni os nad yw eich gwastraff gwyrdd wedi cael ei gasglu.

information

Rhowch wybod i ni os oes angen i chi newid eich cyfeiriad neu os ydych chi eisiau gadael y cynllun gwastraff gwyrdd.