Skip to main content

Derbyn Plant o Oed Meithrin

Beth sydd angen i mi'i wneud?

Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2025 a 31 Rhagfyr 2025.

Rhaid i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ionawr 2026 a lle yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2026

Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Ionawr 2026 a 31 Mawrth 2026

Rhaid i chi wneud cais am le Cyn-feithrin ar gyfer Ebrill 2026 a lle yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2026

Os yw'ch plentyn yn troi'n 3 oed rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Awst 2026

Dim ond gwneud cais am le yn y Dosbarth Meithrin ar gyfer Medi 2026 sydd angen i chi ei wneud

Lleoedd yn y dosbarth Meithrin yn 2026 ar gyfer disgyblion a fydd yn 3 mlwydd oed cyn 01.09.26

  • Byddwn ni'n derbyn ceisiadau ar-lein rhwng 1 Medi 2025 a 7 Tachwedd 2025.
  • Byddwch chi'n derbyn canlyniad eich cais ar 16 Ebrill 2026.

Cyflwyno cais

Mae cyflwyno cais ar-lein yn syml. 

Nodwch - Bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch chi i wneud eich cais ar-lein.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Fydd y Porth Dinasyddion ddim yn gweithio rhwng 10.00pm a 12.00am (canol nos) bob nos.  Yn anffodus, fydd dim modd gwneud ceisiadau ar-lein yn ystod y cyfnod yma. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Nodwch:  Dyw pob teclyn symudol (iPhone / iPad a ffonau / llechen gyfrifiadur android) ddim yn addas ar gyfer y system derbyn disgyblion ar-lein. Cyngor y cwmni sydd wedi creu'r meddalwedd yw mai defnyddio cyfrifiadur neu gliniadur fyddai orau.  Os nad oes cyfrifiadur/gliniadur gyda chi, mae modd i chi ddefnyddio'r cyfrifaduron yn un o'n Llyfrgelloedd.

Gwybodaeth ddefnyddiol: