Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Croeso i Rondda Cynon Taf

 

Posted: 26/03/2021

Croeso i Rondda Cynon Taf

Mae llawer ohonon ni'n teimlo ei bod hi'n bryd i ni ddechrau dychwelyd i'r byd eto (mewn ffordd ddiogel).

I fwynhau awyr iach a golygfeydd newydd.

I dreulio amser diogel gyda'n hanwyliaid, gwneud atgofion a mwynhau anturiaethau.

Dewch o hyd i rywle gwahanol.

Croeso i Dde Cymru.

Croeso i Rondda Cynon Taf, trysor sydd heb ei darganfod yn swatio rhwng Bannau Brycheiniog a Chaerdydd.

Mae gyda ni'r lle mae pawb yn dyheu amdano ar hyn o bryd.  Dyma'r lle perffaith i ymlacio ac ailgysylltu.

Lle perffaith i ymlacio ac ailgysylltu, neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau llawn adrenalin, anturiaethau awyr agored, cael hwyl gyda'r teulu a mwynhau bwyd a diod anhygoel.

Gofyn am e-lyfryn

Cewch hedfan drwy'r awyr o gopa Mynydd y Rhigos ar y weiren sip gyflymaf yn y byd, yn Zip World Tower

Rydyn ni'n falch o fod yn gartref i unig atyniad Zip World yn ne Cymru. Mae'n amlwg pam taw ni oedd eu dewis cyntaf! Edrychwch ar yr olygfa.

zip4

Mae bistro Cegin Glo ar y safle yn lle gwych i ymlacio ar ôl eich antur. Mae'n deyrnged i'r glowyr a fu’n gweithio yng Nglofa'r Tŵr, sef y safle y cafodd Zip World Tower ei adeiladu arno.

ceginglo

Dewch i ddarganfod ein treftadaeth ddiwydiannol unigryw yn Nhaith Pyllau Glo Cymru arobryn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Cewch gwrdd â'r dynion a oedd yn gweithio fel glowyr pan oedden nhw'n fechgyn.  Maen nhw'n eich tywys ar daith “danddaearol” ac yn mynd yn ôl mewn amser i'r dyddiau pan oedden ni'n pweru'r byd gyda'n “aur du”.

wme

Daliwch eich gafael yn dynn wrth i chi fynd ar DRAM!, y dram olaf o lo wrth iddi ymlwybro tua'r wyneb. Gwnewch yn siŵr eich bod chi hefyd yn treulio amser yn ein harddangosfeydd rhyngweithiol hynod ddiddorol. 

wme3

Mae Caffe Bracchi yn anrhydeddu'r siopau coffi traddodiadol a agorodd ar draws Rhondda Cynon Taf yn y 1900au cynnar gan ymfudwyr o'r Eidal a heidiodd yma i weithio. Cewch hefyd fynd ati i grefftio yn siop a gweithdai Craft of Hearts.

WME - Cafe March 2019-3

Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw!

Yn blentyn neu'n oedolyn, cewch eich cyfareddu. Ewch y tu ôl i'r llenni i fyd casglu darnau arian, yr arian mae gwahanol wledydd yn ei ddefnyddio a sut mae medalau anhygoel y Gemau Olympaidd yn cael eu gwneud.

Gwnewch eich darn arian eich hun, gyda gwerth £1 miliwn mewn darnau arian £1 o'ch cwmpas, ac ewch ar daith o amgylch arian y byd! Os ydych chi'n casglu darnau arian neu gofroddion, rhaid ymweld â'r siop anrhegion, ac mae'r caffi ar y safle yn gweini ystod wych o fwydydd a diodydd i'w mwynhau.

mint

Mae'r glaw y mae Cymru yn enwog amdano yn cael ei hidlo o'n mynyddoedd a'n nentydd a'i droi'n wisgi byd-enwog. Dysgwch sut mae hyn yn digwydd yn Nistyllfa Wisgi Penderyn. Cewch flasu'r wisgi, yn ogystal â fodca a gwirodydd eraill sy'n cael eu gwneud ar y safle, a'u prynu yn y siop anrhegion!

penderyn

Dewch i mewn, mae'r dŵr yn berffaith yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Dyma'r unig Lido o'i fath yng Nghymru. Mae yna dri phwll nofio wedi'u gwresogi i nofwyr, cwrs rhwystrau teganau gwynt a phwll sblash i blant bach.

lido

Peidiwch ag anghofio ymweld â maes chwarae antur enfawr Lido Play – bydd y plant wrth eu boddau! Mae Parc Coffa Ynysangharad, sy'n gartref i Lido Ponty, yn hynod o brydferth. Yn y parc mae bandstand, gardd isel, a cherflun yn dathlu Evan a James James, a gyfansoddodd 'Hen Wlad Fy Nhadau' wrth gerdded yn y parc.  Ar y naill ochr i'r parc mae'r Afon Taf, gyda Llwybr Taith Taf ar y llall. Mae'n berffaith ar gyfer cerdded a beicio ac mae'n mynd o Gaerdydd i Aberhonddu.

ywmp

Mae'r parc hefyd yng nghanol tref hanesyddol Pontypridd, sydd ag ystod eang o siopau a llefydd da a diogel i fwyta ac yfed... a llawer yn rhagor. O amgylch y dref mae yna lwybrau cerdded, fel yr un ar draws y comin, lle cewch weld “Côr y Cewri de Cymru”, sef y Maen Chwyf.

ponty

Os mai canol trefi a siopa sy'n mynd â'ch bryd chi, mae gan Rondda Cynon Taf lawer i'w gynnig i chi. Rydyn ni'n gartref i enillydd Gwobr Stryd Fawr Orau'r DU, Treorci. Mae ganddo nifer o siopau annibynnol - o ddillad a melysion i werthwyr blodau a chelf gain. 

treorchy

Os yw'n well gyda chi fod ymhell o'r dref, ac yn cerdded mynyddoedd yn lle hedfan oddi arnyn nhw, mae gyda ni'r ateb!

Mae Penpych yn un o ddim ond dau fynydd pen-bwrdd yn Ewrop - ac yn un o ugeiniau o deithiau cerdded prydferth yn Rhondda Cynon Taf.

Cewch ddod o hyd i goedwigoedd a rhaeadrau wrth gerdded i'r copa, gan fwynhau golygfeydd syfrdanol.

penpych

Wrth gwrs mae gyda ni fynyddoedd y Garth a'r Maerdy hefyd...

maerdygarth

 Ynghyd â'r Rhigos, y Bwlch, Clydach a llawer yn rhagor.

mountains

Gweld pob taith gerdded

Beth am ymweld â Pharc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr, sydd â maes chwarae antur, caffi, teithiau cerdded, llynnoedd, natur a llawer yn rhagor! Dewch â'r garafán, y babell yn y trelar neu'r cartref ar olwynion. Cewch aros a mwynhau ein llety ar y safle a gafodd ei adnewyddu'n ddiweddar. Mae ystafelloedd i'r teulu ar gael hefyd.

dvcp

Mae Parc Cefn Gwlad Barry Sidings yn boblogaidd ymhlith teuluoedd, gyda llwybrau beic, cyfleuster llogi beiciau, llyn, maes chwarae antur, caffi ar gyfer bwyd a diod tecawê a theithiau cerdded mynyddig.

Barry Sidings - Ducks - Playground - Bike Track - Cafe - August 2018 - GDPR Approved-42

 Dewch o hyd i goetir a rhaeadrau hynafol, fel y rhai yn Llanwynno.

llan

 

 

Beiciwch trwy dirwedd epig gyda llwybrau gwefreiddiol a reidiau ysgafn - chi sy'n dewis! 

mountain bike

Tynnwch y llun perffaith

 photography

Cewch fwyta mewn steil ac aros i fwynhau gardd gyfrinachol wedi'i lleoli ar dir gwesty a sba moethus

miuskin

Cewch sbwylio'ch hun gyda rywbeth melys

ice cream

Neu cewch fwynhau amrywiaeth o brydau blasus, o pizza o ffwrn goed, i brydau tafarn traddodiadol a gwreiddiol

food55

Arhoswch mewn gwestai rhagorol

lll

Mwynhewch le i chi'ch hun – ynghyd â thwba twym

famhouses2

Arhoswch yn eich carafán neu'ch tŷ modur mewn amgylchedd tawel

DVCP - Accommodation - Cafe - Camping - Shower Blocks - Signage - courtyard-69

Neu swatiwch mewn llety cyfforddus sy'n berffaith ar gyfer pobl sy'n chwilio am antur neu wefr.

DVCP - Accommodation - Cafe - Camping - Shower Blocks - Signage - courtyard-3

Dewch i ddarganfod Rhondda Cynon Taf, lle mae modd i chi fwynhau gwyliau diogel ac ymlaciol mewn golygfeydd godidog. Mae croeso cynnes y Cymoedd yn enwog ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi!

 

  • Mae'r cyfyngiadau cyfredol sy'n gysylltiedig â Covid yng Nghymru yn caniatáu i lety a chyfleusterau bwyta a lletygarwch dan do agor ar 17 Mai
  • Mae modd i chi deithio i lety o'r fath ac aros ynddo gyda phobl rydych chi'n byw gyda nhw yn unig. 

 

 

Diolch i:

Keith Jones

Adam John

Maureen Watkins/Muddy Boots RCT

Delme Thompson

Lee Williams

Tracey Purnell

 Andrew Cooper