Skip to main content

Newyddion

Cabinet i ystyried newid allweddol i chweched dosbarth yng Nghwm Cynon

Mae cynigion wedi'u cyflwyno er mwyn gwella cyfleoedd chweched dosbarth ar gyfer disgyblion yng Nghwm Cynon trwy drosglwyddo chweched dosbarth Ysgol Gyfun Aberpennar i Ysgol Gymunedol Aberdâr

15 Tachwedd 2024

Rhoi gwybod am fesurau cynnar i leihau'r gyllideb i Aelodau'r Cabinet

Bydd y Cabinet yn derbyn diweddariad ar waith pwysig i bennu mesurau lleihau cyllideb cynnar a newidiadau gweithredol a fydd yn lleihau'r bwlch cyllidebol rhagamcanol a wynebir gan y Cyngor ar gyfer 2025/26

15 Tachwedd 2024

Ein Treftadaeth RHCT

Mae hanes a threftadaeth ryfeddol Rhondda Cynon Taf wedi'i chofnodi a'i dathlu ar wefan newydd sbon.

15 Tachwedd 2024

Pobl ifainc yn Nhonyrefail yn dathlu eu murlun Cymreig arbennig

Mae gwaith celf hardd sy'n dathlu Tonyrefail a Chymru wedi cael ei ddadorchuddio mewn tanffordd leol. Mae'r gwaith arbennig yma wedi bywiogi'r ardal diolch i ymroddiad pobl ifainc talentog a'r artist graffiti enwog 'Tee2Sugars'

14 Tachwedd 2024

Dechrau ar ddatblygiad i greu llety gofal arbennig yn Gelli

Bydd gwaith adeiladu yn dechrau yn fuan er mwyn datblygu safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn yn Gelli - gan greu llety arbenigol modern sy'n darparu gofal i oedolion a phobl hŷn ag anableddau dysgu

13 Tachwedd 2024

Gwaith lliniaru llifogydd pwysig i gychwyn yn nhref Phorth

Bydd y Cyngor yn cyflwyno cynllun Ffyrdd Cydnerth sylweddol yn Heol Turberville, Porth, a bydd gwaith yn dechrau ar y safle wythnos nesaf (18 Tachwedd)

13 Tachwedd 2024

Newyddion sblashtastig i drigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf

Newyddion sblashtastig i drigolion ieuengaf Rhondda Cynon Taf - bydd sesiynau nofio newydd sbon i fabanod yn dechrau mewn canolfan Hamdden am Oes leol i chi'n fuan iawn!

12 Tachwedd 2024

Mae ymchwil newydd yn amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, mewn ymgais i annog rhagor o bobl i ddod yn rhieni maeth.

Mae mwy na 7,000 o bobl ifainc yn derbyn gofal ledled Cymru, felly mae'r angen am rieni maeth yn cynyddu'n sydyn.

12 Tachwedd 2024

Adam Harcombe: O Wellhad i Lwyddiant gyda Vision Products

Mae cyn-chwaraewr rygbi o ardal Trealaw, Adam Harcombe, wedi dod yn arwr lleol o ganlyniad i'w daith wella anhygoel a'i gydnerthedd yn dilyn digwyddiad a newidiodd ei fywyd yn 2020.

12 Tachwedd 2024

Cymorth wyneb yn wyneb ar gael i gwblhau ymgynghoriad gofal preswyl

Bydd y sesiynau 'galw heibio' yma yn galluogi'r cyhoedd i ofyn cwestiynau i'r swyddogion mewn perthynas â'r cynigion a derbyn cymorth i gwblhau arolwg yr ymgynghoriad

12 Tachwedd 2024

Chwilio Newyddion