Skip to main content

Gwaith gwella cwlferi a mynediad ar fin dechrau yn Ystrad

Penrhys Road grid - Copy

Bydd y Cyngor yn dechrau gwaith cynllun draenio a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn Ystrad yr wythnos nesaf (9 Mehefin).

Bydd y cynllun oddi ar Heol Penrhys yn cynnwys cyfres o welliannau i gilfachau cwlferi, er mwyn gwrthsefyll llifogydd yn well yn ystod cyfnodau o law trwm.

Bydd hefyd yn gwella mynediad i'r lleoliadau yn y lluniau er mwyn sicrhau bod modd cynnal a chadw seilwaith draenio'n haws.

Fydd dim angen cau unrhyw ffyrdd ond mae'n bosibl y bydd rhywfaint o darfu ar ben gorllewinol Heol Penrhys pan fydd nwyddau'n cael eu cludo i'r safle gwaith.

Fydd y llwybr troed o Heol Penrhys i ardaloedd preswyl Dan-y-coed a Dan-y-graig ddim ar gael.

Bydd llwybr amgen i gerddwyr ar hyd Dan-y-coed, y ffordd ddienw oddi ar Dan-y-coed i Heol Penrhys, a Heol Penrhys.

Bydd angen cau llwybrau troed ychwanegol yn ystod rhai elfennau o'r gwaith, ond bydd llwybr amgen byr ac addas ar gael lle bydd modd.

Bydd Carfan Gofal y Strydoedd RhCT yn cynnal y cynllun o ddydd Llun 9 Mehefin, am gyfanswm o tua naw wythnos.

Mae'r cynllun wedi derbyn cyllid trwy Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth £1.69 miliwn trwy'r grant yma ar gyfer nifer o gynlluniau yn 2025/26.

Hefyd, mae £2.83 miliwn wedi'i sicrhau trwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol y flwyddyn ariannol yma, yn ogystal ag £1.5 miliwn trwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith yma gael ei gynnal yn Ystrad. 

Wedi ei bostio ar 03/06/2025