Skip to main content

Dathlu camau cyntaf gwaith tuag at agor ysgol a chanolfan gymunedol arloesol

Glyncoch 2

Mae'r Cyngor a'i gontractwr ar gyfer datblygiad ysgol Glyn-coch wedi cynnal achlysur sy'n nodi dechrau cam adeiladu'r prosiect. Mae disgwyl i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn hydref 2026, a bydd yr ysgol a'r ganolfan gymunedol yn gyfleuster gwirioneddol gynaliadwy, gyda'r nod o gyflawni safonau adeiladu gwyrdd achrededig.

Cafodd yr achlysur ei gynnal ddydd Gwener, 23 Mai, gyda gwesteion yn mynychu Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, lle mae'r datblygiad trawiadol yn cael ei adeiladu. Dechreuodd y gwaith cychwynnol ym mis Mawrth 2025, ac mae'r prif gam adeiladu bellach wedi dechrau. Mae'r prosiect ar flaen y gad o ran datblygu cynaliadwy yng Nghymru, a bydd yn cyfrannu at ymrwymiadau newid yn yr hinsawdd a rennir y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae'n un o ddim ond tri phrosiect yng Nghymru i sicrhau buddsoddiad drwy Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Bydd Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ac Ysgol Gynradd y Cefn gerllaw yn ffurfio ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar y cyd y flwyddyn nesaf, ar gyfer cymuned Glyn-coch – gyda disgyblion ac aelodau o staff yn barod i elwa ar adeilad newydd gwerth miliynau o bunnoedd. Bydd y datblygiad ehangach yn cynnwys dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt a mannau chwarae, a maes parcio â 43 o leoedd parcio, cilfachau gwefru cerbydau trydan, a storfa ar gyfer beiciau/pramiau er mwyn annog teithio cynaliadwy. Bydd yna hefyd dair ystafell bwrpasol at ddefnydd y gymuned, a Meithrinfa cyfrwng Cymraeg.

Bydd y datblygiad yn targedu cymwysterau gwyrdd megis Safon Passivhaus, achrediad Building With Nature, a'r Safon Adeiladu WELL – gan ganolbwyntio ar greu amgylcheddau iach ar gyfer defnyddwyr adeiladau at ddibenion gwella llesiant.

Cynhaliodd y Cyngor a'r contractwr Willmott Dixon achlysur ddydd Gwener, 23 Mai – gan gynnwys diweddariad ar gamau cynnar y gwaith, taith o amgylch y safle, a 'thorri tir' traddodiadol a oedd yn dathlu dechrau'r prosiect.

Ymhlith y rhai a fynychodd roedd Aelodau o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Rhys Lewis a'r Cynghorydd Christina Leyshon; y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Aelod o'r Senedd dros etholaeth Cwm Cynon, Vikki Howells; ac Aelod Seneddol Pontypridd, Alex Davies-Jones.

Roedd Cyfarwyddwr Addysg a Chynhwysiant y Cyngor, Cyfarwyddwr Gwasanaeth y Cyngor ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif, a'r Aelod Etholedig dros ward Glyn-coch, y Cynghorydd Doug Williams, hefyd yn bresennol.

Yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ers dechrau'r gwaith 

Ers y gweithgaredd cyntaf ddau fis yn ôl, mae gwaith cychwynnol wedi cynnwys gosod ffensys a byrddau'r contractwr, ynghyd â gosod rhywfaint o ffensys amddiffyn coed o fewn ffin y safle. Mae gwasanaethau presennol ar y safle hefyd wedi'u lleoli, tra bod ardal pwll wedi'i ffurfio i reoli'r defnydd o ddŵr yn ystod y prif gam adeiladu. Mae gwaith i brif fynedfa'r safle hefyd wedi mynd rhagddo.

Ar hyn o bryd, y prif weithgaredd yw bwrw ymlaen â'r broses 'torri a llenwi', sy'n cynnwys cloddio a symud cyfeintiau mawr o bridd o amgylch y safle – i sefydlu lefel sylfaenol ar gyfer y datblygiad. Ar ôl i hyn gael ei gwblhau, bydd modd i waith fynd rhagddo i adeiladu'r sylfeini a slab llawr gwaelod yr adeilad newydd.

Mae gwaith adeiladu maes parcio newydd yr ysgol hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. Bydd y contractwr yn anelu at gwblhau hyn fel un o'i dasgau cychwynnol, gan y bydd yr ardal yn darparu digon o leoedd parcio i garfan y safle, peiriannau ac ymwelwyr – gan ddarparu lle ar gyfer cam olaf y safle ar gyfer y peiriannau/offer a'r cyfleusterau lles.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Roeddwn i wrth fy modd yn mynychu achlysur ddydd Gwener yn Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, i ddathlu dechrau’r cam adeiladu ar gyfer yr ysgol a’r ganolfan gymunedol newydd wych yma yn ardal Glyn-coch. Roedd yn wych gweld y safle a chael y newyddion diweddaraf ar waith cychwynnol y datblygiad gan ein contractwr. Mae datblygiad cyffredinol wedi bod yn wych dros y misoedd diwethaf, gyda chaniatâd cynllunio wedi'i sicrhau ym mis Ionawr, gan ganiatáu i waith ddechrau ym mis Mawrth, a bellach mae'r cam adeiladu yn mynd rhagddo.

"Bydd yr ysgol fodern yn darparu amgylchedd cyffrous i ddisgyblion ac aelodau o staff sy'n mynychu Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg ar hyn o bryd. Bydd ysgol fodern sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys mannau awyr agored gwych ar gyfer dysgu a chwarae, yn cymryd lle dau hen adeilad – gan ddarparu cyfleoedd newydd yn nhaith addysg ein disgyblion. Bydd Dosbarthiadau Cynnal Dysgu, cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg, a meithrinfa, hefyd yn cael eu cynnwys ar y safle.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth mor sylweddol gan Lywodraeth Cymru i’n helpu i ddarparu cyfleusterau newydd ledled y Fwrdeistref Sirol, sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n pobl ifainc. Yn ei gais llwyddiannus i Her Ysgolion Cynaliadwy, mae prosiect Glyn-coch wedi dangos sut y bydd hefyd yn darparu defnyddiau allweddol ar gyfer y gymuned ehangach, tra bydd y datblygiad yn cyflawni safonau adeiladu gwyrdd achrededig trwy dechnolegau arloesol.

"Mae prosiect Glyn-coch yn un o naw prosiect a gafodd eu cyflwyno i'r Cabinet ym mis Mawrth sy'n mynd rhagddyn nhw diolch i ymrwymiad ariannu gwerth £414 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y chwe blynedd nesaf. Mae'r prosiectau eraill wedi eu clustnodi ar gyfer Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Llanhari, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Gynradd Aber-nant, Buarth y Capel, ac ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghwm Clydach. Mae hyn yn dilyn sawl prosiect a gyflawnwyd yn ddiweddar – cyfleusterau gwerth £79.9 miliwn ar gyfer ardal ehangach Pontypridd ac ysgolion newydd yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn.

“Byddwn ni'n parhau i weithio’n agos gyda’n contractwr i wneud cynnydd da gyda’r datblygiad, gan sicrhau ei fod yn tarfu cyn lleied â phosibl ar weithrediad presennol Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, a’r gymuned ehangach. Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cerrig milltir allweddol yn y datblygiad.”

Bydd dysgu yn Ysgol Craig yr Hesg yn parhau yn ôl yr arfer, gyda'r adeilad newydd yn cael ei adeiladu ar dir gerllaw'r ysgol bresennol. Bydd cam cyntaf y cam adeiladu yn cynnwys darparu prif adeilad newydd sbon yr ysgol, a bydd cam dau yn cynnwys dymchwel hen adeiladau i greu elfennau allanol y datblygiad.

Mae modd i chi hefyd ddilyn blog fideo newydd gwych a grëwyd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd y Cefn ac Ysgol Gynradd Craig yr Hesg, trwy sianel YouTube ‘Fern Criw’, wrth iddyn nhw ddilyn y broses o adeiladu’r ysgol newydd sbon ar gyfer eu cymuned.

Wedi ei bostio ar 30/05/2025