Skip to main content

Proses ymgysylltu parthed llety gofal newydd yng Nghwm Rhondda Fach

Ferndale dementia care

Mae modd i'r gymuned gael rhagor o fanylion a chael dweud eu dweud ar y Cartref Gofal Dementia Preswyl modern ar gyfer Glynrhedynog y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w ddarparu. Mae dyluniad yr adeilad yn cael ei baratoi a'i ddatblygu ar hyn o bryd, a bydd adborth y cyhoedd yn helpu i lywio cais cynllunio terfynol.

Bydd y Cyngor yn darparu'r cartref 32 gwely, a fydd yn gyfleuster o'r radd flaenaf ar gyfer gofal dementia preswyl yn lle'r cartref gofal presennol, Tŷ Glynrhedynog, ar Heol yr Orsaf. Bydd gweithlu sefydledig ac ymroddedig y cartref presennol yn trosglwyddo i'r datblygiad newydd pan fydd wedi'i gwblhau, ochr yn ochr â'r preswylwyr presennol.

Bydd y cartref gofal newydd yn canolbwyntio ar ofalu am bobl sy'n byw gyda dementia, ac yn elwa o ddyluniad pwrpasol a chyfleusterau modern fel ystafelloedd synhwyraidd. Bydd y cyfleuster yn cael ei adeiladu ar safle hen Ffatri 'Chubb' yn Ferndale, ger yr ysgol gynradd newydd ei hadeiladu. Mae gwaith sylfaenol ac arolygon cychwynnol wedi mynd rhagddynt ar gyfer y datblygiad newydd.

Cynhaliwyd arddangosfa gyhoeddus leol a sesiwn 'galw heibio' ym mis Mawrth 2025, lle gallai'r gymuned ddysgu mwy a gofyn cwestiynau am y cartref gofal newydd arfaethedig. Rydyn ni nawr yn cynnal Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais i roi mwy o fanylion am y cynigion dylunio. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal gan yr ymgynghorwyr cynllunio, LRM Planning.

Caiff y gymuned gyrchu'r dudalen ymgynghori bwrpasol ar wefan LRM Planning, sy'n darparu mwy o fanylion ynghylch sut i gael dweud eich dweud yn y broses. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhedeg tan ddydd Iau, 19 Mehefin.

Mae'r dudalen we yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol am ddyluniad a defnydd y datblygiad arfaethedig, yn ogystal â gwybodaeth fanylach am y cais cynllunio drafft – gan gynnwys cynlluniau safle, lluniadau ac adroddiadau fel y datganiad Dylunio a Mynediad. Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn ystod yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ystyried cyn cyflwyno'r cais cynllunio, y disgwyl ar hyn o bryd yw bydd hynny yn haf 2025.

Meddai'rCynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r Cyngor yn ymrwymo'n llwyr i ddarparu cartref gofal newydd, modern yng Nglynrhedynog – sy’n arbenigo mewn gofal dementia. Bydd hyn yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn y Rhondda Fach, gyda'r llety yn elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf. Rwy'n falch bod y broses o gyflawni'r datblygiad hwn bellach wedi cyrraedd yr Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais, sy'n galluogi'r gymuned i gael gwybod mwy.

“Y prosiect yma yng Nglynrhedynog fydd ein llety gofal diweddaraf o’r radd flaenaf, ar ôl i’r Cyngor gyflwyno cynlluniau tai Gofal Ychwanegol yn Aberaman a’r Graig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd yn adeiladu trydydd cynllun Gofal Ychwanegol yn y Porth ar hyn o bryd, ynghyd â llety gofal arbenigol yn y Gelli. Ynghyd â chynllun Ferndale, rydym hefyd wedi gwneud ymrwymiadau i adeiladu llety Gofal Ychwanegol a gofal dementia ar y cyd yn Aberpennar, a llety i oedolion ag anableddau dysgu, ym Mhentre'r Eglwys.

“Byddwn i'n annog pob aelod o’r gymuned sydd â diddordeb i gael manylion am y cynigion dylunio ar gyfer cartref gofal dementia newydd Glynrhedynog, cyn 19 Mehefin. Mae hyn yn cynnwys gweld y cynlluniau, lluniadau a dogfennau allweddol a fyddai'n ffurfio'r cais cynllunio terfynol ar gyfer y datblygiad. Dyma'r ail gyfle i drigolion roi mewnbwn yn dilyn yr arddangosfa gyhoeddus ym mis Mawrth, gan ein bod yn awyddus i gynnwys y gymuned leol gymaint â phosibl." 

Wedi ei bostio ar 30/05/2025