Skip to main content

Newyddion

Y Cyngor yn mabwysiadu Cynllun Corfforaethol newydd - Gweithio Gyda'n Cymunedau

Mae Aelodau Etholedig wedi cytuno ar Gynllun Corfforaethol newydd y Cyngor (2024-2030) yn dilyn gweithgarwch ymgysylltu helaeth - gan nodi'r weledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'n pedwar Amcan Lles a'n blaenoriaethau ar...

07 Mai 2024

Cyllid pwysig wedi'i sicrhau i leihau perygl llifogydd mewn cymunedau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod y Cyngor wedi sicrhau dros £1.48 miliwn ar draws rhaglenni ariannu allweddol ar gyfer 2024/25 – a hynny er mwyn cyflawni gwaith lleol i liniaru llifogydd a chynlluniau wedi'u targedu i greu ffyrdd...

03 Mai 2024

Adnewyddu adeiladau masnachol yng Nghanol Tref Pontypridd

Cyn hir, bydd y sawl sy'n ymweld â Phontypridd yn sylwi bod gwaith yn cael ei wneud i wella cyflwr ac edrychiad bloc o adeiladau'r Cyngor ar Stryd Taf. Mae disgwyl i'r gwaith achosi ychydig iawn o darfu, a bydd pob busnes yn parhau i...

03 Mai 2024

Cydnabod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Gymuned sy'n Gyfeillgar i Oed!

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi ein bod ni wedi cael ein cydnabod yn Gymuned sy'n Gyfeillgar i Oed. Mae hyn yn dilyn ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau sy'n Gyfeillgar i Oed.

03 Mai 2024

Plac Glas Er Cof Am Yr Unig Brentis Gowper yng Nghymoedd y Rhondda.

Cafodd Plac Glas er cof am yr unig Gowper yng Nghymoedd y Rhondda ei ddadorchuddio'n ddiweddar ym Mhont-y-gwaith.

02 Mai 2024

Teyrnged i Gyn-Feiri Rhondda Cynon Taf

Yn dilyn marwolaeth ddiweddar tri o'n cyn-Feiri annwyl, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn talu teyrnged i bob un ohonyn nhw.

02 Mai 2024

Caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer pont droed newydd ger Abercynon

Mae caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer pont droed newydd ar safle Pont Droed y Bibell Gludo rhwng Abercynon a Mynwent y Crynwyr gyda strwythur gwell gyda'r nod o fod yn lletach ac yn fwy cydnerth yn erbyn digwyddiadau storm...

29 Ebrill 2024

Lleihau'r perygl llifogydd yn Ynys-boeth gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith gwella cwlfer yn Nant y Fedw, Ynys-boeth, a'r rhan agos o Heol Abercynon, yn ddiweddar – a hynny er mwyn lliniaru perygl llifogydd yn y gymuned

29 Ebrill 2024

Mae gwaith atgyweirio pont ac ailbroffilio argloddiau yn Ystrad bellach wedi'u cwblhau

Mae gwaith sylweddol i atgyweirio a diogelu Pont Bodringallt, Ystrad, ar gyfer y dyfodol wedi'i gwblhau'n ddiweddar, gan hefyd sicrhau dyfodol rhan o'r A4058

26 Ebrill 2024

Eisteddfod 100 Diwrnod

Mae'r Eisteddfod yn agosáu - dim ond 100 diwrnod i fynd nes bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd!

25 Ebrill 2024

Chwilio Newyddion