Mae bellach modd i chi fwrw golwg ar gynlluniau i greu llwybr beicio oddi ar Heol yr Orsaf a Stryd y Taf yn ardal Glynrhedynog. Dyma gynlluniau arfaethedig ar gyfer Safle Derbyn a gafodd ei ddefnyddio yn rhan o waith adfer yn dilyn Tirlithriad Tylorstown.
Erbyn hyn, mae modd i drigolion fwrw golwg ar ddogfennau allweddol mewn perthynas â'r cynigion ar Borth Cynllunio'r Cyngor, gan gynnwys y Datganiad Dyluniad, Mynediad a Chynllunio manwl sydd wedi’i lunio gan yr ymgynghorwyr Redstart ar ran y Cyngor. Mae'n ffurfio rhan o gais cynllunio i adfer y safle gan sicrhau defnydd parhaol newydd.
Mae'r safle wedi'i leoli oddi ar Heol yr Orsaf ger y ffin â Blaenllechau. Cyfeiriwyd at y safle fel 'Safle Derbyn A1' – cafodd y safle ei ddefnyddio i storio'r deunydd a oedd wedi llithro o Domen Uchaf Llanwynno yn ystod Storm Dennis (Chwefror 2020) dros dro yn rhan o Gynllun Adfer yn dilyn Tirlithriad Tylorstown.
Mae'r cynlluniau bellach wedi'u cyflwyno yn ffurfiol gan y Cyngor. Dysgwch ragor am y cynigion, a dweud eich dweud ar Borth Cynllunio'r Cyngor ar-lein (gan ddefnyddio'r cyfeirnod cais '24/1049/GREG’).
Byddai'r datblygiad arfaethedig yn defnyddio darn o dir sydd ag arwynebedd o 9,625 metr² er mwyn sefydlu’r llwybr beicio yn ogystal â’r mannau draenio, tirlunio a chreu cynefinoedd. Byddai'r llwybr yn defnyddio oddeutu chwarter o’r tir sydd ar y safle.
Byddai'r cyfleuster yma yn llwybr beicio wyneb caled ar gyfer beiciau BMX, yn ogystal â beiciau cydbwyso a sgwteri. Byddai’r llwybr wedi'i leoli ar ran o ochr serth y cwm yn ogystal â darn o dir gwastad cyfagos. Byddai'r llwybr ei hun yn cynnwys rhannau syth, troeon serth (banked), troeon cambr a thwmpathau - gyda'r toniadau a’r cloddiau yn cael eu creu o ddeunydd wedi'i gludo i'r safle. Byddai'r llwybr ei hun wedi'i amgylchynu â ffens isel.
Byddai llwybr byr i’r gymuned yn cael ei greu gan gysylltu â llwybr cyfagos - Llwybr 881 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae'r llwybr yma'n cael ei wella ar hyn o bryd yn rhan o Gam Pedwar Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach.
Bydd y rhan fwyaf o'r safle dan sylw yn cael ei adael er mwyn iddo adfywio'n naturiol. Byddai'r elfen ddraenio yn mynd i'r afael â’r dŵr wyneb sy’n llifo oddi ar y llwybr a'r safle gyfan - gan ddefnyddio cyfuniad o ddraeniau hidlo a sianel ddraenio agored, a phant gwanhau. Byddai'r rhain yn cyfyngu ar faint o ddŵr wyneb sy’n llifo oddi ar y safle gan gydymffurfio ag egwyddorion System Draenio Gynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'r cais cynllunio ar gyfer llwybr beicio yn ardal Glynrhedynog wedi'i gyflwyno a bydd yn mynd trwy'r broses gynllunio statudol. Mae hyn yn golygu y bydd modd i drigolion fwrw golwg ar y cynlluniau a dweud eu dweud cyn i swyddogion baratoi'r cais er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ei drafod yn ffurfiol.
"Os yw’r cynllun yn cael ei gymeradwyo, bydd y datblygiad yn creu cyfleuster i’r gymuned sy'n hyrwyddo hamdden awyr agored - gan ddod o hyd i ddefnydd parhaol ar gyfer y darn yma o dir oedd yn cael ei ddefnyddio fel Safle Derbyn yn rhan o’r Cynllun Adfer yn dilyn Tirlithriad Tylorstown. Byddai'n ategu’r buddsoddiad parhaus yn Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach, gyda Cham Pedwar y llwybr a rennir yn mynd heibio'r safle.
"Byddwn i'n argymell trigolion lleol sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor i fwrw golwg ar y dogfennau cynllunio gan fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud mewn perthynas â'r materion sydd dan sylw. Bydd hyn yn llywio trafodaeth ffurfiol mewn perthynas â’r cais yn ystod cyfarfod cynllunio yn y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 18/11/2024