Skip to main content

Siop yn Aberdâr yn CAU yn sgil Gwerthu Cynnyrch Fêpio / Tybaco yn Anghyfreithlon!

Mae Hysbysiad Cau wedi ei gyflwyno i siop Aberdare Off Licence, a’i orfodi arni. Y gobaith yw y bydd hyn yn anfon neges glir i fangreoedd yn Rhondda Cynon Taf nad yw gwerthu cynnyrch tybaco a fêpio yn anghyfreithlon yn cael ei ganiatáu ar unrhyw gyfrif yn y Fwrdeistref Sirol yma!

Ddydd Gwener, 8 Tachwedd, cafodd Hysbysiad Cau ei gyflwyno i berchnogion siop Aberdare Off Licence, 33 Sgwâr Fictoria, Aberdâr. Cafodd y cam yma'i gymryd o ganlyniad i gyflenwi cynnyrch tybaco a fêpio yn anghyfreithlon, gan gynnwys gwerthu i unigolion dan oed. Cafodd yr Hysbysiad Cau yma ei gyflwyno dan Adran 76 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Ddydd Llun, 11 Tachwedd, cyhoeddodd Lys Ynadon Merthyr Tudful Orchymyn Cau ar gyfer y fangre. O ganlyniad i hynny, mae'r siop nawr wedi ei gorchuddio â byrddau diogelwch, a bydd hi’n aros ar gau am gyfanswm o dri mis.

Cyn i'r Hysbysiad Cau gael ei gyflwyno, roedd siop Aberdare Off Licence yn destun sawl cwyn ac archwiliad.

  • Y Cwynion Ddaeth i Law: Cafodd 25 cwyn ei hanfon gan aelodau'r cyhoedd a rhieni pryderus at y Safonau Masnach, ynghylch y busnes. Roedd y rhain yn amrywio o gwynion ynghylch gwerthu cynnyrch fêpio a thybaco i unigolion dan oed, i werthu sigarennau a fêps â thanc maint mawr, anghyfreithlon, i oedolion.
  • Adroddiadau Cudd-Ymchwil: Cyflwynodd Heddlu De Cymru wyth adroddiad cudd-ymchwil i'r Safonau Masnach, a chyflwynodd Cyllid a Thollau ei Fawrhydi un.
  • Prynu er mwyn Profi, ac Atafael: Cafodd Prynu er mwyn Profi ei gynnal 8 gwaith, ac arweiniodd hyn at chwe ymweliad gorfodi gan y Safonau Masnach.  Yn sgil yr ymweliadau yma, cafodd 796 fêp anghyfreithlon ei atafael, yn ogystal â 16,656 sigarét anghyfreithlon, sydd gyfwerth â 832.8 phecyn. Cafodd peth o'r cynnyrch ei ganfod mewn mannau cudd yn y fangre.
  • Gwiriadau Dilysrwydd: Cafodd samplau o'r cynnyrch oedd wedi'i atafael eu gwirio; daeth cadarnhad bod y cynnyrch i gyd yn ffug.

Yn ystod yr ymweliad pan gafodd yr Hysbysiad Cau ei gyflwyno, llwyddodd swyddogion i stopio fêp ac ynddo danc mawr, anghyfreithlon, rhag cael ei werthu.

Gall gwerthu fêps anghyfreithlon achosi niwed sylweddol i'r cyhoedd, gan fod ynddyn nhw'n aml lefel nicotin sy'n uwch na'r terfyn cyfreithlon sy'n 2%, neu mae ynddyn nhw danc sy'n gallu dal mwy na'r terfyn o 2ml.

Mae'n bosib hefyd bod ynddyn nhw gemegau anghyfreithlon, a allai achosi niwed.

Mae gwerthu sigarennau anghyfreithlon, sydd heb fod yn cydymffurfio â safonau angenrheidiol y cynnyrch, yn golygu bod defnyddwyr yn wynebu risg o anadlu lefelau anniogel o fetelau fel nicel, led a chromiwm, a sylweddau peryglus eraill.

Mae'r garfan Safonau Masnach yn Rhondda Cynon Taf, fel Bwrdeistrefi Sirol eraill yn y DU, yn gweld cynnydd yng nghyflenwad fêps anghyfreithlon ledled y stryd fawr, gyda fêps yn aml yn cyrraedd plant a phobl nad ydyn nhw'n ysmygu. Hyd yn hyn, mae mwy na 1,700 fêp wedi cael ei atafael eleni.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:

“Rydw i'n falch o weld yr Hysbysiad Cau yma'n cael ei gyflwyno ac rwy'n gobeithio y bydd yn anfon neges glir ynghylch ein hymrwymiad i fynd i'r afael, yn gadarn, â'r materion yma.

“Rydyn ni'n annog y cyhoedd i fod yn dra gwyliadwrus o'r hyn maen nhw'n ei anadlu. Mae'r cyfreithiau ynghylch e-sigarennau yno am reswm.

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw effeithiau tymor hir fêps anghyfreithlon, ac mae risg sylweddol y gallai fêps nad ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio fod yn cynnwys naill ai lefel beryglus o nicotin neu gemegau nad ydych chi'n ymwybodol eich bod yn eu hanadlu.

"Rydyn ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i roi stop ar y werthu fêps yn anghyfreithlon, yn enwedig i blant dan-oed. Er hynny, rydyn ni'n ymwybodol ei fod yn parhau i ddigwydd ac rydyn ni'n annog unrhyw berson ifanc sy'n prynu fêps, unai ar-lein neu mewn siop, i wirio beth sydd y tu mewn iddyn nhw.

"Mae ar bob fêp cyfreithlon farc barcud a'r arwydd C3 –  mae hyn yn dangos ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol.

"Peidiwch â rhoi'ch iechyd mewn perygl drwy geisio effaith nicotin."

“Mae'r Safonau Masnach wedi ymrwymo o hyd i orfodi ac ail-orfodi gorchmynion cau yn Rhondda Cynon Taf pan fo angen gwneud hynny, gan roi neges glir yn erbyn cyflenwi cynnyrch anghyfreithlon yn y gymuned. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i warchod y gymuned rhag y perygl y gallai'r cynnyrch yma ei achosi."

Mae wedi dod i sylw'r Cyngor hefyd bod cysylltiad rhwng fêpio a chamfanteisio ar blant.

Mae fêps yn cael eu defnyddio, yn amlwg felly, ymhlith pobl ifainc; oherwydd hynny mae troseddwyr a grwpiau llinellau cyffuriau, yn fwyfwy aml, yn addo fêps i bobl ifainc yn ogystal â defnyddio'r dulliau traddodiadol fel arian, sgidiau chwaraeon a bwyd.

Gall y camfanteisio olygu camfanteisio’n rhywiol, neu recriwtio unigolion dan oed, ymhlith mathau eraill o gamfanteisio; bydd troseddwyr yn cymell pobl ifainc i ddosbarthu a gwerthu cynnyrch fêpio'n anghyfreithlon.

Mae'r Cyngor yn gofyn i rieni fod yn ymwybodol o'r cysylltiad yma ac i gadw llygad am yr arwyddion y gallai eu plentyn fod yn wynebu camfanteisio.

Bydd Rheoliadau Gwarchod Amgylcheddol (Fêps Untro) (Cymru) 2025, sydd ar y gweill, yn dod i rym o 1 Mehefin 2025. Y bwriad o ran y rheoliadau yma yw mynd i'r afael â'r materion dan sylw.

Mae'r garfan Safonau Masnach, ymroddedig, yn Rhondda Cynon Taf yn defnyddio amryw o ddulliau gan gynnwys cŵn canfod cynnyrch fêpio a thybaco i ganfod cynnyrch sy'n cael ei guddio. Mae'r ffaith bod y cynnyrch yma'n cael ei guddio'n awgrymu bod y sawl sy'n gyfrifol amdano'n ymwybodol bod eu gweithredoedd yn rhai anghyfreithlon. Mae partneriaethau yn y Cyngor a'r tu allan iddo yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater yma sy'n gwaethygu o hyd.

Er bod achosion llys wedi arwain at ganfod pobl yn euog yn aml, dyw dirwyon yn aml ddim yn ddigon o ataliad. Mae busnesau'n newid perchnogion yn aml i osgoi'r canlyniadau, a phan fydd gorchymyn cau wedi dod i ben, gallai'r gweithgarwch ail ddechrau.

Os oes gan aelodau'r cyhoedd unrhyw wybodaeth ynghylch pobl sydd, yn eu barn nhw, yn ymwneud o bosib â gweithgareddau masnachu anghyfreithlon, neu os oes gyda nhw wybodaeth ynghylch unrhyw un sydd, yn eu barn nhw'n, ddioddefwr gweithgaredd o'r fath, gallan nhw roi gwybod am eu pryder i'r garfan Safonau Masnach yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r Ffurflen Ar-lein ynghylch Gweithgarwch Anghyfreithlon. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: www.rctcbc.gov.uk/SafonauMasnach

Wedi ei bostio ar 21/11/2024