Skip to main content
`

Cwestiynau cyffredin am y newid arfaethedig o finiau i fagiau

Mae'n debyg y bydd gyda chi gwestiynau am y newidiadau, ac rydyn ni wedi ceisio ateb rhywfaint ohonyn nhw isod.

Gweld atebion i gwestiynau sepcifig:

Gweld yr holl Cwestiynau Cyffredin

Pam rydyn ni’n safoni casgliadau gwastraff cyffredinol? 

Mae'r Cyngor yn safoni ei ddulliau casglu gwastraff yn ardaloedd Cwm Cynon a Thaf-elái, i gyd-fynd â threfniadau ardal Cwm Rhondda. Mae hyn yn golygu y bydd y strydoedd yn edrych yn fwy taclus ar ôl casgliadau, a bydd yn darparu gwasanaeth mwy effeithlon, gan arbed bron i £1 miliwn mewn costau gweithredu ac osgoi dirwyon y llywodraeth.

 

Bydd hefyd yn helpu'r Cyngor i gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.

 

Bydd yr HOLL ddeunydd sydd i’w ailgylchu yn dal i gael ei gasglu BOB WYTHNOS – rhagor o wybodaeth yma 

 

Yn ôl i'r brig

Pryd byddwn ni'n dechrau safoni casgliadau gwastraff?

 

Bydd y Cyngor yn safoni casgliadau gwastraff o'r cartref ledled Rhondda Cynon Taf o'r wythnos sy'n dechrau ar 30 Medi.

Bydd llythyr a thaflen yn cael eu hanfon i BOB cartref y bydd y broses safoni yma'n effeithio arnyn nhw o'r wythnos sy'n dechrau ar 9 Medi.

 

Mae hyn yn golygu y bydd angen i drigolion roi eu TRI bag du safonol allan i'w casglu ar ymyl y ffordd/yn y man casglu (NID MEWN BIN AR OLWYNION) ar eu diwrnod casglu nesaf o 30 Medi ymlaen.

 

Dewch o hyd i'ch diwrnod casglu nesaf, yma – www.rctcbc.gov.uk/diwrnodcasglu

 

Yn ôl i'r brig

 

A fydd gen i fin ar olwynion o hyd?

Mae modd i drigolion GADW eu biniau ar olwynion er mwyn storio bagiau rhwng casgliadau.

 

Yr unig newid yw bydd angen tynnu'r bagiau du allan a'u rhoi yn y man casglu ar y diwrnod arferol.

 

Yn ôl i'r brig

 

Does dim angen bin ar olwynion arna i bellach. Ydych chi'n gallu trefnu ei gasglu?

Ydyn, a byddwn ni'n gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ailgylchu! Gwnewch gais i gasglu eich bin ar-lein.

 

Yn ôl i'r brig

A fydd unrhyw newidiadau i'm diwrnod casglu?

Does dim newid i'r diwrnodau casglu.

 

Mae CASGLIADAU GWASTRAFF bagiau du bob 3 WYTHNOS. Bydd angen rhoi bagiau du allan ar ymyl y ffordd rhwng 7pm y noson cyn y diwrnod casglu a 7am ar y diwrnod casglu.


Yn ôl i'r brig

Faint o fagiau du caf i eu rhoi allan?

Mae hawl gan drigolion roi uchafswm o 3 bag du safonol allan. Ddylai'r bagiau ddim bod yn fwy na maint bag du arferol h.y. 70 litr.

Yn ôl i'r brig

Pa faint y dylai’r bagiau du rydych chi’n eu casglu fod?

Bydd 3 bag du safonol (70 litr) yn cael eu casglu. Fydd unrhyw fagiau du sy'n rhy fawr ddim yn cael eu casglu, na bagiau du maint bin ar olwynion/maint diwydiannol.

 

Yn ôl i'r brig

Oes rhaid i'r bagiau fod yn ddu?

Oes, achos dydy'r Cyngor ddim eisiau casglu bagiau sydd i fod ar gyfer casgliadau elusennol ar ddamwain. 

 

Yn ôl i'r brig

Os ydw i'n colli casgliad, oes hawl gyda fi ddyblu nifer y bagiau rydw i'n eu rhoi allan y tro nesaf?

Nac oes, serch hynny, os oes gyda chi amgylchiadau arbennig, mae modd i chi ofyn am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol ar-lein neu e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk i drafod ymhellach.

 

Yn ôl i'r brig

Beth os ydw i'n mynd ar wyliau ac yn colli fy nghasgliad?

Os byddwch chi ar wyliau ac yn methu â rhoi eich eitemau allan i'w casglu, gofynnwch i'ch teulu, ffrindiau neu gymdogion roi'ch bagiau allan i chi.

 

Fel arall, mae modd i chi fynd â hyd at 3 bag du i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol. Efallai bydd swyddogion yn gofyn i chi am gynnwys eich bagiau du ac os ydyn nhw'n cynnwys gwastraff mae modd ei ailgylchu, mae'n bosibl y cewch chi eich gwrthod.

 

Byddai angen i'r holl ffrydiau ailgylchu eraill gael eu didoli a'u gwaredu trwy eich casgliadau o ymyl y ffordd wythnosol. 

 

Efallai y cewch eich gwrthod hefyd os nodir eich bod yn ymweld â'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn rheolaidd i gael gwared ar wastraff bagiau du cyffredinol. 

 

Yn ôl i'r brig

Sut mae modd i fi leihau fy ngwastraff bagiau du?

Ailgylchwch bopeth y gallwch chi a manteisiwch ar yr ystod lawn o wasanaethau'r Cyngor – ailgylchu wythnosol, cynllun gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd wythnosol, gwastraff cewyn/anymataliaeth wythnosol (trwy gofrestru). Defnyddiwch ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar gyfer eitemau eraill y mae modd eu hailgylchu.

 

COFIWCH fod gwastraff y mae modd ei ailgylchu'n cael ei gasglu BOB WYTHNOS. 

 

Cael gwybod rhagor am ailgylchu

 

Yn ôl i'r brig

Mae angen i mi ddechrau ailgylchu bwyd. Sut ydw i'n derbyn bin gwastraff bwyd (cadi)?

  • Mae ein cynllun ailgylchu gwastraff bwyd yn rhad ac am ddim
  • Mae gwastraff bwyd yn cael ei gasglu bob wythnos
  • Rhowch eich gwastraff bwyd mewn bag gwastraff bwyd, a'i roi yn eich cadi. 

Cofrestrwch yma os hoffech chi dderbyn cadi gwastraff bwyd am ddim fel arall ffoniwch 01443 425001.

 

Yn ôl i'r brig

Mae angen i mi ddechrau ailgylchu fy ngwastraff gwyrdd. Sut ydw i'n cofrestru?

Mae gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu o gartrefi sydd wedi cofrestru, BOB WYTHNOS dros yr haf ac ar gais yn ystod y gaeaf.

 

Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd.

 

Hefyd, nodwch fod modd i chi ailgylchu gwastraff gwyrdd mewn Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. 

 

Cliciwch yma i gael gwybod ble mae'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf.

 

Yn ôl i'r brig

Mae angen i mi ddechrau ailgylchu cewynnau. Sut ydw i'n cofrestru?

Mae cewynnau'n cael eu casglu BOB WYTHNOS mewn bagiau porffor o gartrefi sydd wedi cofrestru. 

 

Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth Ailgylchu Cewynnau , fel arall ffoniwch 01443 425001.

 

Yn ôl i'r brig

Ble mae modd i mi gael bagiau ailgylchu?

Mae modd i chi alw heibio i un o'r mannau casglu bagiau ailgylchu a gwastraff bwyd. Mae sawl un ar gael ledled y Fwrdeistref Sirol. Rydyn ni bob amser yn edrych am lefydd newydd i fod yn ganolfannau dosbarthu ac yn diweddaru'r rhestr yn rheolaidd.

 

Dewch o hyd i'ch man casglu bagiau ailgylchu a gwastraff bwyd agosaf.

 

Yn ôl i'r brig

A fydd safoni casgliadau gwastraff cyffredinol yn denu fermin a phlâu?

Mae llygod mawr a fermin yn cael eu denu at wastraff bwyd mewn bagiau du, felly os ydych chi'n defnyddio’r ystod lawn o wasanaethau ailgylchu wythnosol, yn enwedig y gwasanaeth casglu gwastraff bwyd, ni ddylai fod llawer iawn yn eich bagiau du o gwbl. Ddylai fod dim drewdod felly dim rheswm i ddenu plâu ychwanegol.

 

I leihau ymweliadau gan y gwesteion digroeso yma, rhowch eich gwastraff bwyd mewn bag gwastraff bwyd a rhowch ef mewn cadi gwastraff bwyd, a golchwch bob cynhwysydd â dŵr cyn eu rhoi allan. 

 

  • Cofiwch fod modd i'r rhan fwyaf o gynwysyddion gael eu casglu bob wythnos mewn bag ailgylchu clir.

Pe hoffech chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd, mae modd i chi wneud hynny ar-lein.

 

Rydyn ni yma i helpu a chynghori trigolion ar sut i ailgylchu ac os ydych chi'n teimlo y byddwch chi'n cael trafferth ymdopi â'r newidiadau arfaethedig, mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

 

Yn ôl i'r brig

Ar bwy y bydd y broses o safoni casgliadau gwastraff cyffredinol yn effeithio?

Dim ond ar drigolion sy'n defnyddio biniau ar olwynion yng Nghwm Cynon a Thaf-elái, gan gynnwys Penrhiw-fer, Edmondstown, Tonyrefail a Threhafod, y bydd hyn yn effeithio.

 

Yn ôl i'r brig

A fydd hyn yn effeithio ar fy lwfans bagiau du?

Na fydd, os oes gyda chi lwfans bagiau du ychwanegol yn barod, bydd modd i hyn barhau yn ôl yr arfer.

 

Yn ôl i'r brig

Beth fydd yn digwydd os nad yw Rhondda Cynon Taf yn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%?

Os nad yw Cyngor megis Rhondda Cynon Taf yn cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25, bydd y Cyngor yn derbyn cosbau ariannol. Mae'r rhain yn gosbau ariannol mae Cynghorau megis Rhondda Cynon Taf am eu hosgoi er mwyn gwarchod gwasanaethau hanfodol eraill. Dyna pam rydyn ni'n cyflwyno'r newidiadau yma.

 

Yn ôl i'r brig

Mae fy magiau du'n rhy drwm i'w cario i'r man casglu? Sut y mae modd i chi helpu?

Mae Rhondda Cynon Taf yn deall bod gan rai trigolion wastraff trwm nad oes modd ei ailgylchu, megis lludw glo neu wastraff cathod. 

 

Rydyn ni'n awgrymu bod trigolion yn llenwi hanner eu bagiau fel bod modd eu cario'n ddiogel a gwneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol a fydd yn caniatáu iddyn nhw roi mwy o fagiau allan i'w casglu.

 

Os ydych chi'n teimlo y byddwch chi'n dal i gael trafferth codi'r bagiau, mae modd i chi hefyd wneud cais am gasgliad â chymorth ar-lein .

 

Nodwch, bydd ein Swyddogion Ymwybyddiaeth yn gwirio bod cartrefi'n ailgylchu cymaint â phosibl (gwiriad gweledol) cyn i lwfans gael ei ganiatáu.

 

Yn ôl i'r brig

A fyddwch chi'n darparu bagiau du?

Na fyddwn, rhaid i drigolion ddefnyddio'u bagiau du eu hunain fel sy'n digwydd ar hyn o bryd.

 

Yn ôl i'r brig

Oes modd defnyddio biniau sbwriel y Cyngor i gael gwared ar wastraff y cartref?

Nac oes. Dylech chi roi'r eitemau sy'n wastraff yn eich cartref mewn bagiau du yn rhan o'ch gwastraff y cartref. Dim ond ar gyfer cael gwared ar wastraff mewn parciau a mannau cyhoeddus y dylid defnyddio biniau sbwriel cyhoeddus. Gallai defnyddio bin sbwriel heb awdurdod arwain at gamau gorfodi. 

 

Yn ôl i'r brig

Sut mae modd cael gwared ar wastraff anifeiliaid?

 

Mae angen rhoi gwastraff anifeiliaid mewn bag, ei glymu a'i roi yn eich bag du a'i roi allan i'w gasglu.

 

Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du sy'n cynnwys gwastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf. 

 

Mae modd ailgylchu blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio mewn cwt anifeiliaid bach, e.e. moch cwta, cwningod, llygod. Rhowch y blawd llif yn eich sach WERDD amldro a byddwn ni'n ei chasglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd wythnosol.

 

Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd yma.

 

Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd defnyddio dim ond hyn a hyn o fagiau du oherwydd amgylchiadau personol, mae modd i chi wneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.


Rhaid rhoi gwastraff cathod a chŵn yn eich bagiau du. 

 

Rhagor o wybodaeth am waredu gwastraff anifeiliaid anwes ac anifeiliaid.

 

Yn ôl i'r brig

Rydw i'n ailgylchu popeth y galla' i ond dydw i ddim yn gallu ymdopi â 3 bag du yn unig. A oes modd i chi helpu?

 

Rydyn ni'n amcangyfrif bod modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref. Byddwn ni’n parhau i gasglu nifer diderfyn o fagiau ailgylchu sych, ailgylchu cewynnau, ailgylchu gwastraff bwyd ac ailgylchu gwastraff yr ardd bob wythnos.

 

Caiff cartrefi roi uchafswm o DRI bag du safonol (dim mwy na 70 litr) allan i'w casglu bob tair wythnos. 

 

Rydyn ni o'r farn y dylai’r nifer yma o fagiau fod yn ddigon os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y bo modd.

 

Fodd bynnag, os ydych chi'n teimlo y byddech chi'n cael trafferth, mae modd i chi ofyn am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol ar-lein.

 

Mae gan Rondda Cynon Taf garfan o Swyddogion Ymwybyddiaeth profiadol y mae modd iddyn nhw roi cyngor ar bob mater sy'n ymwneud ag ailgylchu yn y cartref. 

 

Os ydych chi eisiau cwrdd ag un o'n swyddogion, e-bostiwch ailgylchu@rctcbc.gov.uk

 

Yn ôl i'r brig

Oes modd gadael fy min ar olwynion allan rhwng casgliadau a mynd â fy magiau du allan ar y diwrnod casglu?

Nac oes. Bydd angen symud pob bin ar olwynion o'r briffordd ar ôl 30 Medi 2024. 

Os byddwch chi eisiau cadw'ch bin am resymau storio, rhaid i chi ei symud o'r briffordd a'i roi ar dir eich eiddo. Os nad ydych chi eisiau cadw'ch bin a hoffech chi i Gyngor Rhondda Cynon Taf ei gasglu, e-bostiwch ailgylchu@rctcbc.gov.uk

 

Yn ôl i'r brig

 

Oes hawl gyda fi adael fy magiau du yn y man casglu rhwng casgliadau?

Nac oes. Mae gan bob cartref ddyletswydd gofal gyfreithiol i gymryd yr holl fesurau rhesymol sydd ar gael i sicrhau bod gwastraff y cartref yn cael ei drosglwyddo i unigolion awdurdodedig yn unig.

 

Mae gadael eich bagiau du ar y briffordd yn cynyddu'r tebygolrwydd y byddan nhw'n cyrraedd dwylo rhywun allai eu tipio'n anghyfreithlon.

 

Yn ôl i'r brig

A fydd cynnydd o ran tipio’n anghyfreithlon?

 

Ni ddylai safoni casgliadau gwastraff effeithio ar lefelau tipio’n anghyfreithlon – nid oes esgus dros droseddau o'r fath.

 

Mae llawer o'r gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon rydyn ni'n ei glirio yn cynnwys dodrefn, offer cartref a gwastraff adeiladu sydd ddim yn cael eu casglu o ymyl y ffordd.

 

Os oes modd i chi yrru i fynydd neu lôn i dipio’r pethau yma’n anghyfreithlon, mae modd i chi yrru i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned i'w gwaredu. Does DIM RHAID I CHI DALU i ddefnyddio'r canolfannau yma a bydd eu defnyddio nhw yn golygu y byddwch chi’n osgoi dirwy fawr pan fyddwch chi'n cael eich dal. 

 

Rydyn ni hefyd wedi nodi'n glir y byddwn ni mor gymwynasgar â phosibl. Os oes gyda chi amgylchiadau personol rhesymol sy'n ei gwneud hi'n anodd cydymffurfio â'r cyfyngiadau, cysylltwch â ni. 

 

Byddai eitemau o'r fath yn cael eu gwaredu drwy'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned neu drwy gasgliad eitemau mawr sydd wedi'i drefnu ymlaen llaw.

 

Mae’r cyfyngiad rydyn ni wedi’i osod ar gasgliadau gwastraff yn seiliedig ar y ffaith bod modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref – gan gynnwys cewynnau, gwastraff bwyd a gwastraff gwyrdd. 

 

Os ydych chi'n ailgylchu cymaint â phosibl, dylai'r cyfyngiadau fod yn ddigon. 

 

Rydyn ni'n deall bod rhai amgylchiadau personol a all effeithio ar allu aelwyd i gadw at y cyfyngiadau ac mae modd gwneud cais ar-lein am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol.

 

Yn ôl i'r brig

Cyn 30 Medi 2024, cafodd fy min ei daflu'n ddamweiniol i mewn i'r cerbyd sbwriel yn ystod casgliadau. Oes modd i mi gael un newydd?

 

Os aeth eich bin ar goll yn ystod casgliad cyn 30 Medi, cewch chi un newydd am ddim. Bydd y gweithwyr casglu yn rhoi gwybod i chi beth i'w wneud os yw hynny wedi digwydd.

 

Yn ôl i'r brig

Sut byddaf i'n storio fy magiau du am hyd at dair wythnos?

 

Mae modd i gartrefi yng Nghwm Cynon a Thaf-elái a oedd â bin ar olwynion yn flaenorol gadw'r bin ar olwynion i storio eu bagiau du rhwng casgliadau. Mae modd defnyddio cynwysyddion storio eraill hefyd – dim ond i chi dynnu'r bagiau allan o'r bin a'u rhoi nhw yn eich man casglu ar y diwrnod casglu

 

Yn ôl i'r brig

Sut mae'r Cyngor yn mynd i wirio nad yw’r bagiau gwastraff yn cynnwys eitemau y mae modd eu hailgylchu? A fydd y Cyngor yn archwilio bagiau?

 

Rydyn ni'n canolbwyntio ar drigolion sydd ddim yn ailgylchu ac sy'n rhoi eitemau y mae modd eu hailgylchu yn eu bagiau du. 

 

Dydyn ni ddim yn bwriadu archwilio bagiau pawb am eitemau y mae modd eu hailgylchu. Mae modd i ni weld pwy sy'n gwneud eu gorau glas i ailgylchu, yn seiliedig ar yr hyn maen nhw'n ei roi allan i'w gasglu. Os ydych chi'n ailgylchu cymaint ag y gallwch, does dim byd gyda chi i boeni amdano.

 

Yn ôl i'r brig

 

Mae gen i fwy na thri bag du weithiau – a oes rhywle y gallaf i fynd â nhw?

Gan fod modd ailgylchu tua 80% o wastraff y cartref, gallwch chi sicrhau nad yw'r bagiau du'n cael eu gorlenwi trwy dynnu unrhyw eitemau y mae modd eu hailgylchu allan ohonyn nhw. Mae hyn yn cynnwys unrhyw eitemau y mae modd eu hailgylchu mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, gan gynnwys llyfrau a thecstilau.

 

Mae'n werth gwirio nad oes unrhyw beth arall yn eich bagiau du y mae modd ei ailgylchu. Defnyddiwch ein hadnodd chwilio A i Y  os nad ydych chi'n siŵr pa fag i osod eitem ynddo. 

 

Does dim terfyn ar faint o fagiau ailgylchu y mae modd i chi eu rhoi allan bob wythnos! 

 

Ar gyfer gwastraff does dim modd ei ailgylchu, mae croeso i chi fynd ag ef i Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. 

 

Byddwch yn effro i'r ffaith y bydd staff ar y safle yn gwirio eich bagiau ac yn gwrthod eu derbyn os oes eitemau ynddyn nhw y mae modd eu hailgylchu, gan gynnwys bwyd a chewynnau. 

 

Os oes gyda chi ormod o fagiau du yn rheolaidd oherwydd amgylchiadau personol, mae modd i chi ofyn am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol ar-lein.

 

Yn ôl i'r brig

A fydd fy mil Treth y Cyngor yn cael ei ostwng?

Na fydd. Does dim newidiadau i amlder na nifer y casgliadau gwastraff. 

 

Mae'r Cyngor yn dal i ddarparu gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu wythnosol i alluogi trigolion i gael gwared ar eu gwastraff, gyda gwasanaethau ychwanegol gan gynnwys casglu cewynnau, gwastraff gwyrdd, gwastraff bwyd a Chanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

 

Yn ôl i'r brig

 

Mae gen i dân glo/coed sy'n cynhyrchu lludw. Sut byddaf i'n ymdopi?

 

Gan nad oes modd ailgylchu'r gwastraff yma, bydd angen ei oeri a'i waredu mewn bagiau du.

 

Mae modd i drigolion sy'n cynhyrchu llawer o wastraff does dim modd ei ailgylchu wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol.

 

Yn ôl i'r brig

Sut ydw i'n cael gwared ar wastraff meddygol?

Rydyn ni'n gwerthfawrogi bod gan rai trigolion anghenion penodol. Caiff gwastraff clinigol ei gasglu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

 

Mae Gwastraff Clinigol yn cynnwys:

 

Offer miniog meddygol (nodwyddau, chwistrellau neu offer miniog eraill) sy'n cael eu cadw mewn biniau melyn;

Gwastraff clinigol peryglus (rhwymynnau neu glytiau sydd â gwaed arnyn nhw neu wastraff dialysis) sy’n cael ei storio mewn bagiau gwastraff clinigol oren.

 

Dydy padiau anymataliaeth a gwastraff stoma, cathetr/colostomi ddim yn cael eu casglu yn rhan o gasgliadau Gwastraff Clinigol. Rhaid rhoi'r gwastraff yma mewn bagiau du yn y cartref. Rydyn ni'n awgrymu bod angen rhoi'r gwastraff yma mewn bag, ei glymu a'i roi yn eich bag du a'i roi allan i'w gasglu.

 

Os oes angen casgliad gwastraff clinigol arnoch chi, ffoniwch y Gwasanaeth Negesydd Iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 0300 123 9208.

 

Mae modd ichi ofyn am lwfans bagiau du ychwanegol ar-lein.

Mae modd ichi ofyn am gasgliad â chymorth ar-lein.

 

Yn ôl i'r brig

Rwy'n gynhaliwr ac mae angen i mi gael gwared ar fenig, ffedogau ac eitemau dillad meddygol eraill – i ble mae'r rhain yn mynd?


Gan nad oes modd ailgylchu'r gwastraff yma, bydd angen ei waredu mewn bagiau du. Mae modd i drigolion sy'n cynhyrchu llawer o wastraff nad oes modd ei ailgylchu wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol

 

Yn ôl i'r brig

Os yw'r pecyn yn nodi nad oes modd ei ailgylchu – a ddylwn i ei roi yn fy mag du?


Gan nad oes modd ailgylchu'r gwastraff yma, bydd angen ei waredu mewn bagiau du. Mae modd i drigolion sy'n cynhyrchu llawer o wastraff nad oes modd ei ailgylchu wneud cais am lwfans bagiau du ychwanegol

 

Yn ôl i'r brig

Beth mae Rhondda Cynon Taf yn ei wneud i ddirwyo/gweithio gyda'r sefydliadau hynny sy'n cynhyrchu cynwysyddion nad oes modd eu hailgylchu?

 

Mae'r cyhoedd yn fwyfwy awyddus i leihau faint o blastig a defnydd pacio nad oes modd eu hailgylchu yn y diwydiant bwyd.

Mater i Lywodraeth y DU a’r diwydiant yw hwn, nid y Cyngor. Serch hynny, byddwn ni'n dal ati i weithio gydag asiantaethau partner i wneud gwahaniaeth lle mae hynny'n bosibl.

 

Cael gwybod beth y mae modd ei ailgylchu yn eich archfarchnad leol yma.

 

Yn ôl i'r brig

A fyddwch chi'n disgwyl i drigolion ag anableddau megis amhariad ar eu golwg a dementia gydymffurfio â’r cyfyngiadau yma?


Bydd y trefniadau yma'n berthnasol i bob cartref. Serch hynny, rydyn ni'n deall bod gan rai trigolion broblemau unigol. E-bostiwch y garfan ar ailgylchu@rctcbc.gov.uk i drafod ymhellach.

 

Yn ôl i'r brig

Beth fydd yn digwydd os bydd pobl yn rhoi eu gwastraff y tu allan i fy nhŷ i, ac felly mae'n edrych mai fy ngwastraff i ydyw? A fyddaf yn cael fy nghosbi?

 

Cysylltwch â'r Cyngor cyn gynted â phosibl os ydych chi'n gwybod bod hyn yn digwydd. Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni fel bod modd i ni ymchwilio. Chewch chi ddim eich cosbi os dydych chi ddim ar fai.

 

Rhowch wybod am hyn drwy e-bostio GorfodiGofalyStrydoedd@rctcbc.gov.uk

 

Yn ôl i'r brig

Sut ydych chi am reoli mannau casglu biniau cymunedol?

Mae mannau casglu biniau cymunedol yn cael eu monitro'n agos gan garfan Gorfodi'r Cyngor ac aelodau o staff tai cymdeithasol ledled Rhondda Cynon Taf. Ni ddylid rhoi gwastraff allan i'w gasglu rhwng casgliadau, a dylid rhoi gwastraff yn eich man casglu dynodedig yn unig. Byddwn ni’n delio ag unrhyw achos o wastraff gormodol/tipio’n anghyfreithlon yn unol â gweithdrefnau arferol y Cyngor. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â thai cymdeithasol i nodi trigolion sy'n methu â rheoli eu gwastraff.

 

Rhowch wybod am unrhyw broblemau trwy e-bostio gorfodigofalystrydoedd@rctcbc.gov.uk

 

Yn ôl i'r brig

Rydw i'n mynd i gael trafferth cyrraedd bag du sydd ar waelod fy min ar olwynion mawr. A oes modd i chi helpu?


Nid oes rhaid defnyddio biniau ar olwynion sydd wedi'u darparu gan y Cyngor fel cynwysyddion storio. Mae croeso i drigolion brynu eu cynwysyddion eu hunain i storio bagiau rhwng casgliadau. Mae'r rhan fwyaf o fanwerthwyr mawr bellach yn gwerthu cynwysyddion mewn amrywiaeth o siapiau a meintiau i’w rhoi tu allan.

 

Yn ôl i'r brig

Sut ydw i'n cael gwared ar wrthrychau miniog megis gwydr wedi torri neu sgriwdreifer?

 

Dylech chi lapio gwrthrychau miniog mewn papur newydd neu eu gosod mewn cynhwysydd fel bocs grawnfwyd cyn eu rhoi yn eich bag du.

Dylech chi roi nodwyddau mewn bin eitemau miniog a ddarperir gan Wasanaeth Negesydd Iechyd y GIG. Mae modd ffonio'r gwasanaeth ar 0300 123 9208.

 

Yn ôl i'r brig

A fydd hawl gyda ni i roi bagiau gwastraff ychwanegol allan adeg y Nadolig?

 

Gweler y wefan/ cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth dymhorol.

 

Yn ôl i'r brig

Pa eitemau nad oes modd eu hailgylchu ydw i i fod i'w rhoi yn fy mag du?

 

Rydyn ni'n amcangyfrif bod modd ailgylchu hyd at 80% o wastraff y cartref – gan gynnwys cewynnau, bwyd a gwastraff gwyrdd. 

 

Ewch i'n hadnodd chwilio A i Y am ragor o wybodaeth.

 

Yn ôl i'r brig

Ydy hyn yn creu mwy o wastraff plastig?

 

Nac ydy, a hynny gan y dylai gwastraff cyffredinol gael ei roi mewn bag cyn cael ei roi mewn cynhwysydd fel bin ar olwynion. Mae hyn yn sicrhau nad yw eitemau fel gwastraff cŵn a nwyddau mislif yn rhydd yn y bin. Mae hefyd yn sicrhau amodau gwaith mwy diogel i staff casglu gwastraff.

 

Yn ôl i'r brig

Beth sy'n digwydd i'n gwastraff cyffredinol? Neu a yw hyn yn cynyddu plastig i safleoedd tirlenwi?

 

Mae holl wastraff gweddilliol Rhondda Cynon Taf yn cael ei anfon i Gyfleuster Adfer Ynni yng Nghaerdydd sef y Cyfleuster Adfer Ynni mwyaf yng Nghymru sy'n trin gwastraff o gontractau awdurdodau lleol a busnesau lleol.

 

Mae'r cyfleuster, sydd wedi bod yn weithredol ers 2014, yn trin tua 425,000 tunnell o wastraff gweddilliol (gwastraff nad oes modd ei ailgylchu), y flwyddyn. Mae'n dargyfeirio o leiaf 95% o wastraff gweddilliol De Cymru i ffwrdd o safleoedd tirlenwi ac yn cynhyrchu 250GWh o drydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol. Mae hynny'n ddigon i bweru tua 68,448 o aelwydydd.

 

Rhagor o wybodaeth

 

Yn ôl i'r brig

Sut ydych chi am reoli mannau casglu cymunedol?

 

Mae mannau casglu cymunedol yn cael eu monitro'n agos gan garfan Gorfodi'r Cyngor a'n partneriaid tai cymdeithasol ledled Rhondda Cynon Taf.

 

Ni ddylai gwastraff gael ei roi allan cyn 7pm ar y noson cyn eich casgliad arferol, a dim ond yn eich man casglu dynodedig y dylech chi ei roi allan. 

 

Er mwyn osgoi colli casgliadau, sicrhewch fod eich gwastraff yn weladwy gan y bydd gwahanol gerbydau yn casglu gwahanol fathau o wastraff.  Er enghraifft, os yw bag gwastraff bwyd wedi'i orchuddio â bagiau ailgylchu clir, mae'n bosibl y caiff ei fethu ar ddamwain. Mae'n arfer da i chi a’ch cymdogion ddefnyddio’ch man casglu dynodedig yn synhwyrol, drwy osod yr holl fagiau du mewn un man, bagiau ailgylchu mewn man arall, ac ati.   

 

Bydd criwiau casglu yn rhoi gwybod am wastraff gormodol/deunydd ailgylchu halogedig a bydd Carfan Gorfodi'r Cyngor yn ymchwilio i’r materion yma. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â thai cymdeithasol i nodi trigolion sy'n methu â rheoli eu gwastraff.

 

Rhowch wybod am unrhyw broblemau trwy e-bostio: GorfodiGofalyStrydoedd@rctcbc.gov.uk

 

Yn ôl i'r brig

Mae fy min ar olwynion wedi'i gymryd ar ôl 30 Medi 2024

 

O 30 Medi ymlaen, dydy'r Cyngor ddim yn casglu gwastraff cyffredinol sy'n cael ei roi mewn bin ar olwynion. Dylid rhoi gwastraff cyffredinol mewn bag du maint safonol a'i roi yn eich man casglu ar eich diwrnod casglu. 

Ar ôl y dyddiad yma, bydd y Cyngor yn cael gwared ar unrhyw finiau ar olwynion sy’n cael eu rhoi allan ar y briffordd. Bydd gwastraff cyffredinol yn cael ei gasglu mewn bagiau du felly fyddwch chi ddim yn derbyn bin newydd.

Os nad yw’r Cyngor wedi cymryd y bin ac mae’n bosibl eich bod chi wedi dioddef trosedd, ffoniwch Heddlu De Cymru ar 101.

 

Yn ôl i'r brig

Nid yw fy nghais am Lwfans Bagiau Du Ychwanegol wedi'i gymeradwyo eto, a oes modd i mi roi bagiau ychwanegol allan i'w casglu yn y cyfamser?

 

 

Bydd angen i chi gydymffurfio â'r terfyn o 3 bag du (uchafswm o 70litr) hyd nes y bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo. Mae'r garfan yn gweithio'n galed i asesu pob cais yn ofalus ac mor gyflym â phosibl. Os ydych chi'n pryderu nad ydyn ni wedi derbyn eich cais, e-bostiwch ailgylchu@rctcbc.gov.uk gan nodi eich enw llawn, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt fel bod modd ni wirio hyn i chi.

Nodwch: Mae'r gwasanaeth yma ar gyfer eitemau o'r cartref nad oes modd eu hailgylchu e.e. gwasarn cathod, lludw glo, baw ci. Os yw eich cais yn cynnwys unrhyw eitemau y mae modd eu hailgylchu, e.e. ffoil, ffilm glir, dillad ac ati, mae'n debygol y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Mae modd ailgylchu'r eitemau yma yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor neu yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd mawr.