Mae Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach (y Llwybr) yn llwybr cerdded a beicio newydd rhwng y Maerdy a Stanleytown yng Nghwm Rhondda Fach. Bydd y Llwybr yn dilyn aliniad yr hen reilffordd ar hyd llawr y dyffryn a bydd yn cynnwys cysylltiadau â chymunedau lleol, siopau, ysgolion a chyfleusterau hamdden.
Cafodd y Llwybr ei rannu yn bum Cam. Bydd Cam 1 yn cael ei gwblhau ym mis Ionawr 2024 a Cham 2 yn ystod Gwanwyn 2024. Yn dibynnu ar argaeledd cyllid, bydd Cam 3 a 4 yn cael eu cwblhau yn ystod Gwanwyn 2025 a Cham 5 yn ystod Gwanwyn 2026, unwaith eto, yn dibynnu ar argaeledd cyllid.
Bydd Cam 4 y Llwybr yn darparu llwybr a rennir newydd ar hyd yr hen reilffordd rhwng y Maerdy a Tylorstown, gyda ffordd gyswllt i Stryd yr Afon, Glynrhedynog. Bydd yn dechrau ym mhen deheuol Cam 2, sydd i fod i gael ei gwblhau'r gwanwyn yma, ac yn dod i ben wrth y bont droed sy'n arwain at Ganolfan Hamdden Rhondda Fach.
Mae'r ddogfennau ymgynghori a'r deunydd ategol i'w gweld isod.
Mae modd i chi hefyd gysylltu â ni:
Bost - Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS, Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori, Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth, Y Pafiliynau, Cwm Clydach, Tonypandy, CF40 2XX
E-bost - YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk
Dylai'r holl ohebiaeth ddod i law erbyn 7 Chwefror 2024 fan bellaf.